Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/382

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae ein cofnodion o'r eglwys hon yn anmherffaith iawn, ond costiodd i ni lawer o drafferth i'w cael fel y maent. Rhoddodd Mr. T. Jenkins, Sarnau, i ni bob help yn ei allu.

MAIN.

Ar ben mynydd y Broniarth, tu cefn i'r Fantmawr, am yr hwn y crybwyllasom yn hanes Llanfyllin, saif anedd-dy bychan o'r enw Llidiartfechan. Nid oes o bellaf fwy na haner milldir rhwng y ddau le. Preswyliai un o'r enw William Hughes yn Llidiartfechan, tua diwedd y ganrif ddiweddaf, ac yn y flwyddyn 1798, os nad yn foreuach, agorodd ei dŷ i dderbyn pregethu, ac i gynal Ysgol Sabbothol. Y rheswm am hyn mae yn debyg ydoedd, am na oddefai John Wynne, Pantmawr, iddynt ddyfod i'w dŷ, ond ar y Sabboth yr oedd yn rhaid iddo, yn ol cytundeb cymeriad ei dir, agor y drws iddynt. Aelod o'r Sarnau, fel y gallwn gasglu, oedd William Hughes, canys cawsom ei enw fel un o dystion bedyddiad plentyn i un o aelodau yr eglwys hono; ond yn y dyddiau hyny nid oeddynt yn cyfyngu gweinyddiad yr ordinhadau i ryw un lle penodol. Ar foreu Sabboth, yn y flwyddyn 1800, yr ydym yn cael Dr. Lewis, Llanuwchllyn, yn pregethu yn Llidiartfechan, ac yn derbyn dau aelod oeddynt wedi hyny i fod yn golofnau cryfion o dan achos yr Arglwydd yn yr ardal, sef John Griffiths, Cil; ac Edward Ellis, Ceunant-bach. Cyn hyn, arferai Mr. Griffiths wrando yn eglwys y plwyf, ac yr oedd yn un o'r dynion mwyaf moesol a dichlynaidd yn yr holl wlad; ond argy hoeddwyd ef nad oedd bywyd moesol ddim yn ddigon heb gyfnewidiad cyflwr. Agorodd Mr. Griffiths ei dy i dderbyn yr efengyl, a ffurfiwyd yno eglwys, ac efe, ac Edward Ellis, oeddynt y diaconiaid. Tarawyd Mrs. Griffiths, (mam Mr. Griffiths, canys hen lanc oedd efe), gan afiechyd trwm, a chan fod swn yr addoliad yn peri poen iddi, symudwyd y preg ethu a'r cyfeillachau i'r Main, lle yr oedd Edward Ellis erbyn hyn wedi symud i fyw o'r Ceunant—bach. Wedi marwolaeth Mrs. Griffiths, yn 1804, symudwyd yr achos yn ei ol i'r Cil, ac yno y cartrefodd hyd adeiladiad y capel, yn y flwyddyn 1819. Yr oedd golwg obeithiol ar yr achos, fel y cymerodd yr eglwys galon i roddi galwad i Mr. John Jones, oedd yn yr athrofa yn Llanfyllin. Adnabyddid of fel "Jones bach, Llundain," oblegid mai o Lundain y daeth i'r athrofa yn Llanfyllin. Sefyd lodd Mr. Jones yma yn Chwefror, 1819. Nis gallasom gael hanes ei urddiad, ond agorwyd y capel yn nghorph y flwyddyn hono, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; a Morris Hughes, Sardis. Yr oedd y pryd hwnw yn adeg lewyrchus ar grefydd, a pharhaodd y Main am flynyddau, i raddau mwy neu lai, dan effeithiau y diwygiad. Yr oedd Mr. Jones yn bregethwr bywiog, tanllyd, cyfaddas iawn at adeg felly ar grefydd.

Ni chwblhawyd y weithred yn yr hon y rhoddai Mr. Griffiths y capel i'r enwad hyd 1824. Cofrestrwyd hi y 24ain o Fawrth y flwyddyn hono. Y swm a enwyd gan Mr. Griffiths am y tir a'r capel oedd 18p. ond nid ymddengys iddynt gael eu talu, gan mai ei ddymuniad of oedd rhoddi y capel i'r enwad yn rhad. Wedi llafurio yn y Main a'r cylchoedd am un-flynedd-ar-ddeg, derbyniodd Mr. Jones alwad o Lanidloes, a