28ain; ond llai na blwyddyn yr arosodd yma, canys derbyniodd alwad o Pantteg Morganwg, a symudodd yno; ac yn nechreu 1871, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. D. Evans, Penarth.
Ni bu yr achos yma erioed yn gryf a lluosog mewn nifer; a gwelodd dymhorau isel a digalon, ond y mae yma ffyddloniaid wedi bod, ac yn bod, sydd yn glynu wrth yr Arglwydd yn ddi-ildio trwy bob tywydd. Bu Mr. J. Griffiths, Cil, yn golofn gref i'r achos am dymor hir. Erys capel a mynwent y Main yn golofnau o'i haelioni; a rhoddodd dri o dai anedd, ardreth y rhai sydd tuag at gynal ysgol ddyddiol yn y Main. Yr oedd ynddo lawer o bethau hynod, ond yr oedd ei galon yn caru y Gwaredwr, a gwasanaethodd ei achos fel diacon ffyddlon yn y Main am 43 mlynedd. Bu farw yn y flwyddyn 1843. Edward Ellis hefyd oedd ŵr da a ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer.
Nid ydym yn cael ond am un a godwyd i bregethu yn yr eglwys hon, sef Evan Ellis, mab Edward Ellis. Yr oedd yn ŵr ieuangc crefyddol a gair da iddo gan bawb a'i hadwaenai, ac yn bregethwr cymeradwy. Derbyniwyd ef i'r Ysgol Ramadegol yn nglyn ag athrofa y Drefnewydd, yn Hydref, 1827, a bu yno hyd y Sulgwyn canlynol; ond dychwelodd adref yn fuan wedi hyny, a'i iechyd wedi rhoi ffordd, ac nid hir y bu byw ar ol hyny; ond bu farw mewn hyder cryf yn ei Bryniawdwr. Cyhoeddwyd bywgraffiad helaeth iddo yn y Dysgedydd am 1829; tu dal. 193, gan y diweddar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
JOHN MORRIS. Ganwyd ef yn Llanfyllin yn y flwyddyn 1793; a derbyniwyd ef yn aelod yno pan yn ddyn ieuangc. Dechreuodd bregethu yn 1825; a bu am dymor dan addysg dan ofal Dr. Phillips, yn athrofa Neuaddlwyd. Dychwelodd adref oddiyno, a bu am yspaid yn pregethu i'r eglwysi lle y gelwid am ei wasanaeth. Urddwyd ef yn y Main, Ebrill 10fed, 1833, a llafuriodd yno am fwy na deng mlynedd, yna symudodd i Grimp, sir Amwythig, lle yr arhosodd wyth mlynedd, ac oddiyno dychwelodd i'r Carneddau, yn agos i Groesoswallt, lle y bu byw dair blynedd. Nid oedd gofal unrhyw eglwys arno, ond pregethai fynychaf bob Sabboth, hyd nes y rhoddwyd terfyn ar ei lafur gan angeu, Awst 10fed, 1860, yn 63 oed; a chladdwyd ef yn Nghroesoswallt. Yr oedd Mr. Morris yn ddyn da, ac yn bregethwr sylweddol, ond yr oedd tipyn o surni ac afrywiogrwydd yn ei dymer, yr hyn a laddai ei ddefnyddioldeb. Cadwai yn mhell oddiwrth bawb, fel y cyfrifid ef yn ddyn digymdeithas. Ymladd a'r byd y bu o ran ei amgylchiadau bydol trwy ei oes; ond cadwyd ef i ymddiried yn yr Arglwydd trwy y cwbl. Y mae ei wraig a'i unig ferch etto yn fyw yn Nghroesoswallt.
MEIFOD.
Mae genym hanes fod Annghydffurfiaeth wedi cychwyn yn foreu yn mhlwyf Meifod. Yn ol yr hyn a ddywed Richard Davies, Cloddiaucochion, yr oedd cynnulleidfa yn cyfarfod yn nhŷ Huw Dafydd—un o denantiaid Dolobran—mor gynar a'r flwyddyn 1649; a gofelid am y