Evans, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Hydref 10fed a'r 11eg.
Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Jones, Machynlleth. Holwyd y gofyniadau gan Mr. O. Evans, Llanbrynmair. Gweddiodd Mr. H. James, Llansantffraid. Pregethodd Mr. J. G. Morris, Trefdraeth, i'r gweinidog, a Mr. W. Roberts, Ffestiniog, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri C. Evans, Foel; a W. Perkins, Pennal.[1] Mae Mr. Evans yn dechreu ei weinidogaeth dan amgylchiadau pur siriol, ac y mae yr eglwys fechan yn Llangynog wedi ymuno dan yr un weinidogaeth. Yma y codwyd John Jones, Parc, i bregethu, yr hwn a urddwyd yn Penllys, ac a symudodd i Carno, ac sydd yn awr yn America. Bu yma amryw bregethwyr eraill o bryd i bryd yn perthyn i'r eglwys, ond nid ydym yn cael fod un o honynt wedi ei godi ynddi i bregethu; ond bu yma un pregethwr am dymhor hir yn nglyn a'r eglwys, am yr hwn y mae yn weddus i ni wneyd byr goffâd.
Thomas Richards, Penybontfawr. Yr oedd yn adnabyddus i'r rhan fwyaf o siroedd Cymry fel pregethwr cynorthwyol parchus a chymeradwy. Ganwyd ef yn Llanfyllin. Yr oedd ei dad, John Richards, Patent Maker, fel ei gelwid, yn hen aelod yn nghapel Pendref; a derbyniwyd Mr. Thomas Richards yn aelod pan yn ieuangc. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1824; ac yr oedd ef a Mr. Morris, Main, yn gyfeillion mawr, ac yn dechreu pregethu o gylch yr un amser, ac yn cynorthwyo Mr. Morris, Llanfyllin, yn y lleoedd o gylch y dref. Symudodd Mr. Richards cyn hir i Benybontfawr, lle y bu yn cadw siop, ac yn pregethu pa le bynag y gelwid am dano. Yr oedd yn ddyn hynaws a charedig, yn hytrach yn llwfr a digalon. Nid oedd ei dalentau yn loywon, na'i alluoedd pregethwrol yn gryfion; ond yr oedd ei gymeriad difwlch, a'i ddull anymhongar, a'i ddawn ennillgar, yn ei wneyd yn dderbyniol a pharchus pa le bynag yr elai. Bu yn myned yn rheolaidd trwy ranau o'r De neu y Gogledd yn achos y Dysgedydd, am 24 mlynedd. Dechreuodd waelu yn ei iechyd yn Ebrill, 1866; ac ar yr 8fed o Fai, yr un flwyddyn, hunodd yn yr Iesu, yn 63 oed. Dywedai ychydig cyn marw, "Mi a wn i bwy y credais." Claddwyd ef yn mynwent Llanfyllin. Mab iddo ef ydyw Mr. John Newman Richards, gweinidog yr Annibynwyr Seisnig yn Aberteifi.
LLANRHAIADR YN MOCHNANT.
Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y lle hwn tua'r flwyddyn 1808. Deuai pregethwr i lawr at ddau o'r gloch o'r "Capel Bach," gerllaw Penybontfawr. Pregethid yn nhy Maurice Francis, tad Mr. A. Francis, Rhyl, ac elai y pregethwr a'r ychydig aelodau oedd yn Llanrhaiadr, yn ol drachefn at yr oedfa hwyrol i'r "Capel Bach." Er mai pregethu oedd y moddion cyhoeddus cyntaf a ddefnyddiwyd i alw sylw y trigolion at yr efengyl, etto, yr Ysgol Sabbothol a fu yn parotoi meddyliau y bobl ar raddeg cang i ddod i wrando yr efengyl a'i derbyn. Gwelir felly, mai peth diweddar iawn yw Ymneillduaeth yn y lle hwn. Pan y dechreuwyd cynal yr Ysgol Sabbothol, yr oedd yn tynu gryn sylw, ac yn cael ei gwrthwynebu gan rai ag y buasid yn disgwyl yn amgen oddiwrthynt. Er na archollwyd hi yn nhy ei charedigion, archollwyd hi gan rai
- ↑ Tyst Cymreig, Hydref 28ain, 1870.