Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/391

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a ddylasai fod yn garedigion iddi. Ond fel pob achos da pan ei cymerir i fyny gan rai sydd yn cydymdeimlo yn drwyadl âg ef, y mae hyd yn nod gwrthwynebiadau yn troi yn fanteisiol iddo, fel y dderwen yn gwreiddio yn ddyfnach yn yr ystorm. Cychwynwyd yr Ysgol Sabbothol yma tua'r flwyddyn 1814. Dyma'r pryd yr oedd yr oes batriarchaidd yn yr ardal hon yn rhoddi lle i ffurf eangach a mwy effeithiol i oleno a chrefyddoli rhai ieuaingc. O'r blaen, y penteulu oedd yr offeiriad yn y teulu, ac os esgeulusid yr addysgu a'r aberthu yn y teulu-fel y byddai y mwyafrif yn gwneyd yr oedd crefydd y plant yn cael ei hesgeuluso yn gwbl. Ond yn yr Ysgol Sabbothol, agorodd yr eglwys ei mynwes, a pharotodd ei haelwyd i dderbyn plant bychain; a bu yn allu effeithiol i'w dysgu, a'u dad-ddysgu o'r arferion yn yr rhai yr oeddynt wedi eu meithrin. Amseroedd blinion oedd y dyddiau hyny. Yr amser hwn yr oedd Boni bron a gorphen llanw cwpan Ffrainc hyd yr ymyl, pan y bu raid iddo ef a hithau gydyfed ei waddod. Yr oedd a holl egnion, un o'r arweinwyr mwyaf llwyddianus, yn rhoddi yr arfau ydynt gnawdol yn nwylaw y tadau i ymladd, ac yn nwylaw y plant i chwareu a hwy, a phobl Prydain ac eraill yn rhoddi arfau yn nwylaw eu pobl hwythau i wrthryfela, gan "ymgynghori yn unig i'w fwrw ef i lawr o'i fawredd." Y pryd hwnw yr oedd Pioneer yr Ysgol Sabbothol yn Llanrhaiadr yn llawn o sel ac yni yn rhoddi yr arfau "nid ydynt gnawdol" yn nwylaw, ac yn neall y tadau a'r plant yn yr ardal hon, a gwnaed llu o honynt yn filwyr, a rhai o honynt yn "filwyr da i Iesu Grist." Y mae "ymdrech deg" yr olynwyr hyn i'r apostolion, y fath, fel y byddai yn flin genym iddo fod allan o "Lyfr Actau'r Apostolion" a berthyn i'r gangen hon o eglwys Crist, fel y caffo yr oesau a ddel wybod fod cewri wedi bod ar y ddaear heblaw cewri rhyfel, y rhai oedd yn cynhyrfu Ewrop y dyddiau hyny, a'r rhai yr oedd yn rhaid eu hysgubo oddiar wyneb y byd, a'u "bwrw i eigion y môr." Yr oedd trigolion Llanrhaiadr yr adeg hon yn dra annuwiol ac anwybodus—y gwylmabsantau, a'r chwareuon ar y Sabboth, y meddwi a'r ymladd, yn eu llawn rym. Yn mhlith eu tadau y bu Doctor Morgan, yn poeni yn y gair," er ei gael allan o guddfanau ieithoedd estronol. Ond nid adnabu Llanrhaiadr "ddydd ei hymweliad," ac os bu rhai o honynt yn llawenychu dros amser" yn ei oleuni, tra y daliai efe y gwirionedd yn "llewyrch i'w llwybr;" yn fuan "troisant bawb i'w ffordd ei hun." Henry Parry, yr hwn oedd yn aelod yn y "Capel Bach," ac yn cadw siop fechan yn Llanrhaiadr, oedd yn arbenig yn poeni ei enaid cyfiawn wrth ganfod y fath dywyllwch a drygioni. Daeth i'w feddwl yn rymus iawn i geisio codi Ysgol Sabbothol yn y lle; ond methai a chael neb o gyffelyb feddwl, hyd yn mhen ysbaid, y cafodd gan John Rees, tad y Meistri E. Rees, Llanymddyfri; a W. Rees, Corris, ei gynorthwyo. Aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd oedd Mr. J. Rees, ond yr oedd eu ty addoli hwythau ryw dair milldir o'r Llan, ac hyd y pryd hwnw buwyd heb ddechreu yr un ysgol yn y lle. Darllenwr cymharol wael oedd Mr. H. Parry ei hunan pan ddechreuodd y gwaith da hwn; ond wrth ymdrechu cymhwyso ei hun i fod yn athraw i eraill, daeth yn fedrus yn y gorchwyl, ac yn ysgrythyrwr cadarn. Wrth ddysgu eraill dysgodd ei hun. Aeth y rhif yn ormod i'r ddau athraw allu gweinyddu arnynt fel y dymunent; a gofynodd Mr. H. Parry i un o'i gydaelodau, saer wrth ei gelfyddyd, am ddyfod i'w cynorthwyo, a'r ateb a gafodd oedd, "A wyddost ti beth, Harri? Byddai yr un peth i ti geisio genyf fyn'd a fy llif i'r pit ar