fod yr "Anymddibynwyr y bobl y perthynwn i iddynt gynt, yn bobl neillduedig, wedi eu casglu yn benaf gan Vavasor Powell." Dywed iddo ymuno a hwy pan oedd "tua 12 neu 13 oed;" a chan mai yn y flwyddyn 1635 y ganwyd ef, rhaid mai o gylch y flwyddyn 1648 yr ymunodd a hwy. Pregethodd Mr. Vavasor Powell lawer yn erbyn y Crynwyr, ac aeth Richard Davies i'r Cloddiau-cochion unwaith gan ddisgwyl clywed Mr. Powell, a chyda y bwriad i'w wrthwynebu. Fel hyn y dywed Richard Davies ar hyny, "Vavasor Powell a bregethodd lawer yn erbyn y Crynwyr; pan glywais i hyn, daethum i le a elwid y Cloddiau-cochion, yn agos i'r Trallwm, i'w cyfarfod hwynt, gan ddisgwyl y cawn ef yno; ond nid oedd ef yno. John Griffithes, Ynad Heddwch yn y dyddiau hyny, oedd yn pregethu yno." Gallwn gasglu oddiwrth yr hanes, fod hyn tua'r flwyddyn 1658. Crybwyllasom fwy nag unwaith am y John Griffiths yma, yn nglyn a hanes Llanfyllin; ac y mae yn eglur ei fod yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda'r achos yn y dyddiau hyny.
Yr oedd Mr. Nathaniel Ravens, yn gweinidogaethu yn eglwys plwyf y Trallwm, ar amser adferiad Siarl II., a chafodd ei droi allan gan Ddeddf Unffurfiaeth, yn 1662. Nis gwyddom i sicrwydd pa beth a ddaeth o hono ar ol hyny. Wedi i Vavasor Powell, yn 1655, newid ei farn ar fedydd, a chymeryd ei drochi; tua'r flwyddyn 1657, daeth dyn a elwid Morgan Evan, o Ddeheudir Cymru, i gyffyrddiad a Richard Davies, yr hwn ar y pryd hwnw oedd yn perthyn i'r Annibynwyr, ac o'r pryd hwnw aeth Richard Davies, yn Grynwr selog a llafurus. Felly chwalwyd yr Annibynwyr yn y Trallwm, a'r amgylchoedd; aeth rhai yn Fedyddwyr gyda Vavasor Powell, a'r lleill yn Grynwyr gyda Richard Davies; a darfu am yr achos yn llwyr; ac y mae yn ymddangos i Ymneillduaeth wywo o radd i radd yma gydag amser, nes darfod yn hollol. Ryw bryd ar ol y flwyddyn 1780, ailgychwynwyd yma achos Annibynol. Nis gallasom gael allan i sicrwydd pa bryd ei dechreuwyd. Mae Mr. D. Morgan, yn ei ysgrifiau angyhoeddedig, yn dyweyd mai Mr. John Griffith, Llanfyllin a ddechreuodd bregethu yma yn ystod y ddwy flynedd o 1780 i 1782, y bu yn aros yn Llanfyllin; ac ychwanega, mai Miss Meredith, (Mrs. Griffith, wedi hyny), a'i mam, a roddodd dir at adeiladu Capel yma. Mae yr ymroddiad mawr a ddangoswyd gan Mr. Griffith, i eangu terfynau yr achos yn ystod yr adeg fer y bu yn Llanfyllin, yn gystal a'r traddodiad sydd yn gyffredinol yn y dref, a'r amgylchoedd, mai efe a fu yr offeryn i'w sefydlu, yn ein gogwyddo yn gryf i gydsynio a'r hyn a ddywedir gan Mr. Morgan, mai i lafur Mr. Griffith fel offeryn, y mae yr achos yn y Trallwm yn ddyledus am ei gychwyniad.
Yn ol hen lyfr yr eglwys, yr hwn sydd yn awr yn meddiant y Cofrestrydd Cyffredinol yn Somerset House, Llundain, Mr. Richard Tibbott oedd y gweinidog yma yn 1788, a Mr. Jenkin Lewis, Llanfyllin, a ystyrid fel gweinidog yn 1790, ac mae yn debygol iddo ef barhau i ddyfod yma, yn fisol neu fynychach, hyd 1793. Mae yn ymddangos mai un Mr. Thomas Evans, eglwyswr efengylaidd, fel y tybir, a dyn o gryn gyfoeth a dylanwad, fu y prif offeryn mewn cysylltiad a gweinidogion Llanbrynmair a Llanfyllin i sefydlu eglwys yma. Pregethid yn y lle yn flaenorol; ond nid ymddengys i eglwys gael ei chorpholi yma cyn Rhagfyr 19eg, 1793, ac ar yr 21ain o'r un mis, gweinyddwyd Swpper yr Arglwydd i'r eglwys ieuangc, gan
Mr. J. Whitridge, Croesoswallt. Y personau canlynol oeddynt yr aelodau ar gorpholiad yr eglwys: Thomas Evans, Thomas Jones