John Taylor, Morris Edwards, John Roberts, Joseph Jones, Grace Evans, a Mary Jeffreys. Yr oeddynt er mis Medi cyn hyny wedi cyduno i roddi galwad i Mr. David Francis, myfyriwr yn athrofa Gwrecsam. Bu Mr. Francis yn pregethu yma o 1793 hyd Mawrth 31eg, 1796, cyn cael ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Nis gwyddom pa beth oedd y rheswm iddo fod cyhyd heb gael ei urddo. Rhoddir hanes yr urddiad fel y canlyn yn yr Evangelical Magazine:—"Dydd Iau, Mawrth 31ain, 1796, urddwyd y Parch. Mr. Francis yn weinidog yr eglwys Annibynol yn y Trallwm, Maldwyn. Dechreuwyd y gwasanaeth trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Mr. Edwards, Wem; traddodwyd y gynaraeth, a derbyniwyd y gyffes ffydd gan y Parch. Mr. Whitridge, Croesoswallt; gweddiwyd yr urdd-weddi gan y Parch. Mr. Lucas, Amwythig; traddodwyd y siars i'r gweinidog gan y Parch. Mr. Lewis, Wrecsam; ac i'r eglwys gan y Parch. Mr. J. Boden, Hanley. Mae yn hyfrydwch genym edrych ar waith y dydd hwn, pan feddyliom nad oedd yn y dref hon tua deuddeng mlynedd yn ol ddim pregethu efengylaidd, a bod yr achos ieuangc yma er pan ddechreuwyd pregethu yn efengylaidd yn y lle, wedi gweithio ei ffordd trwy lawer o gyfnewidiadau ac anhawsderau. Yr ydym yn hyderu y bydd i'r undeb a ffurfiwyd heddyw, effeithio llawer o ddaioni i eneidiau, a gogoniant i Dduw. Mae yn ymddangos fod llawer o bobl y dref yn gogwyddo i roddi gwrandawiad astud i'r gwirionedd." Aelod o eglwys y Bwlchnewydd, yn Nghroessir Gaerfyrddin, oedd Mr. Francis. Derbyniwyd ef i'r athrofa oswallt, Awst 15fed, 1789. Dywed Mr. Lucas, o'r Amwythig, wrth gymeradwyo ei achos i'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, ei fod yn ddyn da iawn, yn bregethwr rhagorol, ac yn nodedig am ei gallineb. Nid ymddengys iddo fod yn nodedig o lwyddianus yn y Trallwm, er na fu yn hollol ddilwydd. Rhif yr aelodau ar ffurfiad yr eglwys, fel y gwelsom, oedd wyth, a deuddeg oedd eu rhif yn niwedd y flwyddyn 1796. Yr ydym wedi methu a chael gafael ar weithred y capel, er gwybod pa bryd yr adeiladwyd ef, a phwy a roddodd y tir. Yn ol rhyw hen gofysgrifau sydd etto ar gael, ymddengys i'r capel gael ei godi rywbryd o 1798 i 1800.[1] Yr oedd ganddynt "dy cyfarfod" cyn codi y capel; ond nis gwyddom yn mha le yn y dref yr oedd. Telid ardreth am dano, ac y mae 10p. o ardreth am yr hen gapel, yn cael ei roddi yn nhraul y capel newydd. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. D. Francis y codwyd y capel. Costiodd 344p. 10s. 61c. Bu Mr. Francis yn casglu llawer at y draul, ond ni ddywedir yn yr hen gofysgrifau sydd ar gael, pa faint a gasglodd; ond talwyd iddo 56p. 18s. 44c., am ei lafur, ac ar gyfer ei dreuliau; a thalwyd 5p. 9s. 8c. i'r pregethwyr a fu yn gweini i'r eglwys yn ei absenoldeb. Yr anffawd am yr holl fan bapurau hyn ydyw, nad oes dyddiad wrth yr un o honynt. Bwriedid unwaith i godi y capel yn agos i'r fynedfa i bare Castell Powys; ond dangoswyd gwrthwynebiad gan deulu y castell i hyny; a chyda rhyw fanteision tybiedig ar y pryd, cynygiwyd iddynt y lle y saif y capel yn awr arno, yr hwn a dderbyniwyd, ond taflwyd ef drwy hyny i heol o'r neilldu.
Yn y flwyddyn 1799, ymneillduodd pedwar o'r aelodau, a gosodasant i fyny achos Wesleyaidd yn y dref, ac ymadawodd un arall yn yr un flwyddyn, er dechreu achos i'r Bedyddwyr; ond er y colledion hyn, yr oedd rhif yr aelodau yn niwedd y flwyddyn hon yn bedwar-ar-bymtheg. Ar y 27ain o Awst, 1800, rhoddodd Mr. Francis ei weinidogaeth i fyny.
- ↑ Lythyr Mr. R. Hughes, Cendl.