Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/409

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid ydym yn gwybod dim o'i hanes ar ol hyn. Wedi ymadawiad Mr. Francis, bu yr eglwys heb un gweinidog sefydlog hyd Ebrill 18fed, 1802, pryd y rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Davies, Treffynon. Arwyddwyd ei alwad gan Mr. Thomas Evans, ac un-ar-ddeg eraill o'r aelodau, yn nghyda phedwar o'r gwrandawyr, y rhai nid oeddynt yn gymunwyr. Yn yr alwad hon, addewiri Mr. Davies 20p. y flwyddyn o gyflog, sef tair punt yn fwy nag a roddid i'w ragflaenydd, Mr. Francis; "heblaw yr hyn a allasai gael o'r funds yn Llundain." Nid ymddengys i Mr. Davies fod yma dros o dair i bedair blynedd, ac nis gwyddom pa un ai yma y bu farw, ai ynte a symudodd i ryw le arall. Dywedir mai yn ardal Penygraig, sir Gaerfyrddin, y ganwyd Mr. Davies, ond nid ydym yn sicr o hyny, nac ychwaith o amser ei enedigaeth. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin, yr hon a gedwid yn Abertawy, yn nhymor ei efrydiaeth ef. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn 1876, ac aeth allan yn 1790, pryd yr urddwyd ef yn Nghapel Sul, Cydweli. Bu yn gwasanaethu yr eglwys hon, mewn cysylltiad a Phenygraig, hyd y flwyddyn 1795, pryd y symudodd i Dreffynon, sir Fflint. Ni bu yn Abergavenny, fel y camddywedir yn Llyfryddiaeth y Cymry Yn fuan ar ol ei sefydliad yn Nhreffynon, dechreuodd gyhoeddi Y Geirgrawn, neu Drysorfa Gwybodaeth. O herwydd fod y cyhoeddiad hwn yn amddiffyn egwyddorion rhyddfrydig, ru ei olygydd mewn enbydrwydd, a dywedir iddo orfod ymguddio am beth amser rhag cael ei ddal. Bu Mr. Davies yn Nhreffynon hyd y flwyddyn 1799 neu 1800, ond nis gwyddom yn mha le y bu o'r pryd hwnw hyd nes iddo ymsefydlu yn y Trallwm yn 1802, ac y mae ei hanes ar ol ei ymadawiad oddiyma, os nad yma y bu farw, yn hollol anhysbys i ni. Ar ymadawiad Mr. Davies, urddwyd Mr. George Ryan, yr oedd ar y pryd yn bregethwr teithiol yn sir Amwythig, i fod yn weinidog i'r eglwys Annibynol yn Minsterley a'r Trallwm. Felly y dywedir yn hanes ei urddiad yn yr Evangelical Magazine, am 1806, tu dal. 380 Cymerodd ei urddiad le Mai 28ain, 1806. Mae yr hanes hwn a'r cofnodion yn llyfr eglwys y Trallwm, yn ymddangos yn anghyson. Yn ol llyfr yr eglwys, yn 1812 y dechreuodd Mr. Ryan ei weinidogaeth yma. Bu Mr. John Harries, am yr hwn nid oes genym unrhyw hanes, yn weinidog yma o 1808, hyd tua diwedd 1811. Dichon i Mr. Ryan fod yma ran o'i amser mewn cysylltiad a Minsterley, o 1806 hyd 1808, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Harries. Yn 1812, ymsefydlodd Mr. Ryan yn gyflawn yma, a pharhaodd ei weinidogaeth hyd 1830. Mae yn debygol iddo farw y flwyddyn hono, ond yr ydym wedi methu taro wrth hanes ei farwolaeth yn un o fisolion y flwyddyn hono, na'r blynyddau dilynol. Ei fab ef oedd G. Ryan, D.D., am yr hwn y rhoddasom ychydig hanes yn tu dal. 46. Dilynwyd Mr. Ryan, gan Mr. Thomas Morgan, yn awr o Hinckley, sir Leicester. Aelod gwreiddiol o eglwys Ebenezer, Pontypool, yw Mr. Morgan, ac addysgwyd ef yn athrofa y Drefnewydd. Derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys hon yn Gorphenaf, 1831, ond yn y flwyddyn ganlynol yr urddwyd ef. Bu yma hyd y flwyddyn 1840, pryd y symudodd i Loegr. Y gweinidog nesaf oedd Mr. C. Hudson, urddwyd ef yma yn 1840, a rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn Ionawr, 1844. Yn Mai, yr un flwyddyn, y rhoddwyd galwad i Mr. H. Kerrison, ac urddwyd ef Mehefin 11eg, 1845, pryd y gweinyddwyd gan Dr. Raffles, Liverpool; Mr. Pearce, Wrecsam; Dr. Halley, Manchester, ac eraill. Y dydd blaenorol, agorwyd y capel newydd, pryd y casglwyd ato dros un bunt a deugain. Yn mis Medi, 1849, rhoddodd Mr. Kerrison ei weinidogaeth i fyny o ddiffyg iechyd. Yn yr