mha le yma; ac y mae yn ansicr a gorpholwyd yma eglwys cyn 1826. Rhoddwyd gweithred ar y tir i godi capel yma yn 1829, ac yr ydym yn cael enwau Meistri Samuel Roberts, Llanbrynmair; a Samuel Bowen, Drefnewydd, yn mysg yr ymddiriedolwyr cyntaf. Ar y 25ain o Fai, 1830, urddwyd Mr. John Williams, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd, yn weinidog yma. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Derbyniwyd cyffes ffydd y gweinidog gan Mr. T. W. Jenkyn, Croesoswallt. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. G. Ryan, Trallwm. Anerchwyd y gweinidog gan Mr. E. Davies, Drefnewydd, a'r gynnulleidfa gan Mr. S. Bowen, Ceri. Nid ymddengys i Mr. Williams fod yma yn hir, ac nid oes dim neillduol yn cael ei ddyweyd am sefyllfa yr achos yn yr yspaid y bu yma. Dilynwyd ef gan Mr. Evan Davies, myfyriwr o'r athrofa yn y Drefnewydd, yr hwn a urddwyd yma Chwefror 13eg, 1839. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gweinidog gan Mr. T. Jones, Minsterley. Offrymwyd yr urdd-weddi gan Mr. M. Davies, Ceri. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. T. Morgan, Trallwm, ac i'r eglwys gan Mr. J. Davies, Llanfair. Disgynodd yr achos i agwedd isel yn ystod y tymhor y bu Mr. Davies yma; ac er fod y capel mewn man cyfleus yn nghanol gwlad dda odiaeth, ychydig o'r ardalwyr a ddeuai i wrando. Wedi ymadawiad Mr. Davies, tua'r flwyddyn 1845, daeth Mr. William Daniel yma, yr hwn a urddasid yn Ceri, a bu yma yn egniol am bedair blynedd; a rhoddid pob help a ellid i'r lle gan Genhadaeth Gartrefol Maldwyn; ond ni bu yma ond ychydig lwyddiant; wedi hyny bu Mr. Thomas Davies yma am flynyddoedd, nes y symudodd i Gaerdydd. Er's mwy nag ugain mlynedd bellach, y mae gofal y lle yn benaf ar Mr. John Owen, Drefnewydd; ond ar wahanol adegau bu Meistri J. Evans, a T. Adams, Drefnewydd, ac R. Hughes, Trallwm, yn cydofalu, a bu gweinidogaeth Mr. Hughes, yn arbenig, yn dra derbyniol yma. Mae yma gryn nifer o amaethwyr cyfrifol yn barod i agor eu tai i lettya a chroesawi pregethwyr; ond ychydig o honynt sydd wedi rhoddi eu hunain i'r Arglwydd. Mae y wlad oll yn hollol Seisnigaidd, ac yn yr iaith hono y dygir yr holl wasanaeth yn mlaen. Mae enw Mrs. Longford, Keel, yn deilwng o'i gofnodi yn nglyn a hanes yr eglwys hon, ar gyfrif ei sel, a'i hymdrech, a'i charedigrwydd mewn cysylltiad a'r achos.
LLANIDLOES.
Er fod yr Annibynwyr wedi pregethu llawer o bob tu i Lanidloes, yn sir Drefaldwyn a sir Faesyfed, er yn gynar yn yr eilfed ganrif ar bymtheg, etto, aeth yn agos i ugain mlynedd o'r ganrif bresenol heibio cyn i un ymdrech gael ei wneyd i sefydlu achos Annibynol yn y dref. O gylch y flwyddyn 1816, cawn i ŵr a gwraig o'r enw Richard a Margaret Jones, y rhai oeddynt yn aelodau yn yr eglwys Annibynol yn Machynlleth, symud yma i fyw. Gan nad oedd achos gan eu henwad eu hunain yn y lle, cynygiodd Richard Jones a'i wraig eu hunain i'r Methodistiaid, ond nid amlygid parodrwydd mawr i'w derbyn; ond anogid hwy i fyned at y Bedyddwyr. Yn eu profedigaeth, ymgynghorodd Richard Jones & Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, a Mr. D. Morgan, Machynlleth, y rhai a'u cymhellodd i godi achos Annibynol yn y dref, ac er eu calonogi a addawasant ddyfod i'r dref i gynal cyfarfod pregethu er rhoddi cychwyniad i'r