gwaith. Cafwyd addewid am fenthyg ystafell yn ngweithfa wlan Mr. Edward Jenkins, yn Heol-y-dderwen, yn ngwasanaeth yr hwn yr oedd Richard Jones; a byddent bob prydnhawn Sadwrn yn ei glanhau allan, fel y byddai yn gymwys erbyn y moddion y Sabboth. Un James Davies, myfyriwr o'r athrofa, a bregethodd gyntaf yn y lle; Mr. James Davies, Llanfaircaereinion wedi hyny, fel y gallwn dybied, oblegid yr oedd efe y pryd hwnw yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Llanfyllin. Cadwyd cyfarfod pregethu yn y lle yn mis Gorphenaf, 1818, a phregethodd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; D. Morgan, Machynlleth; A. Shadrach, Talybont; a D. Evans, Rhiadr; ac o hyny allan cynhaliwyd moddion yn rheolaidd yma.
Yn nechreu y flwyddyn 1819, daeth Mr. Samuel Williams, myfyriwr o athrofa Llanfyllin, yma i bregethu, ac i gadw ysgol ddyddiol. Yn fuan wedi dyfodiad Mr. Williams, aeth yr achos rhagddo yn siriol iawn, fel y gwelwyd fod eisiau lle helaethach i addoli; ac yn mis Mai y flwyddyn hono, cymerwyd ystafell eangach yn Heol-yr-eglwys. Mr. D. Morgan, Machynlleth, a fyddai yn gofalu am dalu ardreth yr ystafell yn Heol-yr-eglwys, a gwnaed casgliad yn yr eglwys yn y Graig, Machynlleth, tuag at gael meinciau ynddi. Yr oedd nifer yr aelodau erbyn eu mynediad i'r ystafell newydd wedi cynyddu i naw; a theimlent yn dra chalonog i fyned yn mlaen. Urddwyd Mr. Williams Tachwedd 8fed, 1821, ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; D. Morgan, Machynlleth; J. Davies, Llanfair; ac H. Hughes, Foel. Cafwyd benthyg yr hen Hall yn nghanol y dref i gynal cyfarfodydd yr urddiad. Aeth pethau rhagddynt yn llwyddianus, fel cyn pen pedair blynedd yr oedd yr eglwys fechan yn rhifo 55 o aelodau. Yn niwedd y flwyddyn 1822, penderfynodd yr eglwys brynu darn o dir yn Heol-yr-eglwys i godi capel arno, a lle claddu yn nglyn ag ef. Costiodd y tir 150p., a dyddiad y pryniad ydyw Ionawr 2il, 1823; ac fe wnaed y weithred rhwng Edward Powell, Perthi-eirin, yn mhlwyf Llanwnog, ac Elenor Evans, o dref Llanidloes, o un tu; a John Roberts, David Morgan, a Samuel Williams, gweinidogion yr efengyl, o'r tu arall. Dechreuwyd ar y capel cyn hir, ac agorwyd ef Medi 30ain, a Hydref 1af, 1824. Ar yr achlysur, pregethodd Meistri M. Ellis, Talybont; D. Thomas, Penrhiwgaled; T. Phillips, Neuaddlwyd; J. Jones, Main; J. Davies, Llanfair; D. Morgan, Machynlleth; W. Morris, Llanfyllin; W. Hughes, Dinas; J. Francis; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Griffiths, Pentraeth; T. Evans, Rhiadr; ac eraill. Bu Mr. Williams yma yn llafurio yn ddiwyd am wyth mlynedd; ond yr oedd y ddyled oedd ar y capel yn gwasgu yn drwm ar yr ychydig oedd yn perthyn i'r lle, a'r rhan fwyaf yn weiniaid. Symudodd Mr. Williams i Gapel Isaac, yn sir Gaerfyrddin, ac wedi treulio rhai blynyddoedd yno, ac yn Llanedi, ymfudodd i America; ac y mae yn parhau i lafurio yn Bradford, Pennsylvania, gyda chymeradwyaeth mawr, er wedi ei ddal gan lesgedd henaint.
Yn y flwyddyn 1830, derbyniodd Mr. John Jones, o'r Main, alwad i lafurio yma; a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Medi 298in a'r 30ain, pryd y gweinyddodd Meistri H. Morgan, Sammah; J. Williams, Dinas; D. Roberts, Meifod; E. Davies, Drefnewydd; D. Morgan, Machynlleth; J. Roberts, Llanbrynmair; M. Ellis, Talybont; W. Phillips, gweinidog i'r Bedyddwyr; ac H. Gwalchmai, gweinidog i'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu Mr. Jones yma yn egniol am bum' mlynedd, nes y derbyniodd alwad, ac y symudodd i Penmain, Mynwy. Wedi ymadawiad Mr. Jones,