Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/415

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. David Evans, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd; ac urddwyd ef Hydref 8fed a'r 9fed, 1835. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Griffiths, Rhiadr. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Williams, Llanwrtyd. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, Drefnewydd, ac i'r eglwys gan Mr. D. Morgan, Machynlleth. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri S. Davies, Ruabon; H. Davies, Llangollen; T. Evans, Llanwrthwl; J. Davies, Bwlchyffridd; T. Jones, Minsterley; J. Breese, Caerfyrddin; ac L. Lewis, Ebenezer.[1] Llafuriodd Mr. Evans yma am bedair—blynedd-ar-ddeg, ac adfywiwyd yr achos yn fawr yn nhymor ei weinidogaeth. Symudodd oddiyma i Saron, Tredegar, Mynwy.

Yn 1849, rhoddwyd galwad i Mr. David Jenkins, gwr ieuangc o Lanwrthwl, ond a fu am yspaid dan addysg yn Huntington; ac urddwyd ef Gorphenaf 10fed a'r 11eg, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Morgan, Sammah. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Williams, Aberhosan. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. T. Evans, Llanwrthwl, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Evans, Tredegar, cyn-weinidog yr eglwys. Pregethwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri H. D. Pughe, Drefnewydd; E. Williams, Dinas; D. Davies, Rhiadr; W. Daniel, Berriew; E. Jones, Abersoch; J. Owen, Drefnewydd; a J. Jones, Carno.[2] Yr oedd Mr. Jenkins yn barchus a chymeradwy fel pregethwr yma, dros amryw flynyddau, a'r achos yn y lle yn llewyrchus; ond darfu ei gysylltiad a'r eglwys, ac ymfudodd i'r America tua'r flwyddyn 1855. Ymsefydlodd yno yn weinidog yn Newark a Granville, Ohio, lle y llafuriodd gyda derbyniad mawr, nes y rhoddodd angau derfyn ar ei ddefnyddioldeb yn nghanol ei ddyddiau.

Wedi ymadawiad Mr. Jenkins, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Henry Rees, gynt o Pentraeth, Mon, ond yn awr o Penuel, sir Fflint. Daeth yma yn 1854, ac arhosodd yma tua thair blynedd. Yn 1859, rhoddwyd galwad i Mr. Henry Lewis, yr hwn oedd yn weinidog yn Blaeny coed, sir Gaerfyrddin; a bu yma am yn agos i bum' mlynedd. Yr oedd Mr. Lewis yn boblogaidd iawn fel pregethwr, a phe buasai ei gallineb yn gyfartal i'w ddoniau, gallasai fod yn ddefnyddiol yn unrhyw fan. Mae wedi gadael yr enwad er's blynyddau bellach, ac, fel y deallwn, wedi uno a'r Bedyddwyr.

Ionawr 15fed, 1865, dechreuodd Mr. Richard Jones, Manchester, ei weinidogaeth yma, ac y mae yn parhau hyd yr awr hon. Mae capel bychan yn perthyn i Lanidloes, a elwir Glynbrochan, yr hwn a agorwyd ddydd Nadolig 1855, yn yr hwn y cedwir ysgol yn rheolaidd, a phregethu yn achlysurol; ond nid oes un eglwys wedi ei chorpholi yma. Nid yw y gynnulleidfa ond bechan, ac nis gellir disgwyl cynydd mawr, gan nad oes ond ychydig o bobl yn byw yn y cwm. Fel y crybwyllasom, bu y ddyled drom oedd ar gapel y dref yn faich anhawdd ei ddwyn am flynyddau; ond y mae y cyfeillion yma newydd dalu y ddimai olaf o'r ddyled oedd yn aros ar gapel y dref, a chapel Glynbrochan, ac y maent yn ystod y chwech neu y saith mlynedd diweddaf wedi talu dros 400p.[3] Bu Richard Jones a'i wraig, y rhai a gychwynasant yr achos yma, yn nodedig o ffyddlon.

  1. Dysgedydd, 1835. Tu dal. 380.
  2. Dysgedydd, 1849. Tu dal. 283.
  3. Llythyr Mr. R. Jones.