Gwasanaethodd ef swydd diacon yn yr eglwys, ac ennillodd iddo ei hun radd dda. Mae yr hen wraig yn aros etto yn yr eglwys, ac o fewn ychydig flwyddi i 100 oed. Yr oedd Mrs. Jenkins yn un o'r rhai cyntaf a unodd a'r achos yn ei wendid; a chyn hir, derbyniwyd hefyd Mr. Edward Jenkins, ei phriod, yr hwn ar y dechreu a roddodd ystafell o'i weithfa wlan iddynt at gynal gwasanaeth.
Codwyd yma bedwar i bregethu :
Mathew Lewis. Yr hwn a urddwyd yn weinidog yn Salem, Machynlleth, ac a fu wedi hyny yn Mangor a Threffynon; ond sydd erbyn hyn wedi marw.
Benjamin Jones. Yr hwn a ymfudodd i America, ac a fu farw yno. David Davies. Urddwyd ef yn y Sarnau, sir Drefaldwyn, ac y mae etto yn yr ardal, ac yn pregethu yn achlysurol, er nad oes gofal gweinidogaethol arno.
Benjamin Owens. Bu yn athrofa y Bala, ac am yspaid ar ol hyny yn cadw ysgol yn y Morfa-bychan, gerllaw Porthmadog.
GLYNHAFREN.
Saif y capel hwn o fewn tair milldir i Lanidloes. Adeiladwyd ef yn 1828, ac agorwyd ef yn Hydref, 1829, pryd y pregethodd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; S. Bowen, Drefnewydd, a J. Davies, Llanfair. Corpholwyd yma eglwys yn fuan, yr hon a fu dan ofal gweinidogion Llanidloes yn olynol hyd 1867, pan y rhoddwyd galwad i Mr. Richard O. Evans, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef yma, Mehefin 27ain a'r 28ain. Ar yr achlysur, pregethodd Mr. H. James, Llansantffraid, i'r gweinidog, a Mr. H. Morgan, Sammah, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri D. M. Jenkins, Drefnewydd; J. Lewis, Corwen, a W. Roberts, Liverpool. Bu Mr. Evans yma yn llafurus hyd ddechreu y flwyddyn hon (1871), pryd y derbyniodd alwad i fod yn gydweinidog â Mr. H. Morgan, yn Sammah a Cemmaes Road, ac y symudodd yno. Nid yw yr eglwys ond bechan, ond y mae yma nifer o bobl ffyddlon a diwyd gydag achos yr Arglwydd.
PENYCOED.
Mae y lle hwn yn mhlwyf Trefeglwys. Pregethwyd llawer yn y plwyf hwn gan yr Ymneillduwyr gynt; ac yr oedd yma lawer o aelodau eglwys sir Drefaldwyn, fel ei gelwid, yn byw, ond pan yr ymffurfiodd yr eglwys hono yn wahanol ganghenau, ni chorpbolwyd yma eglwys Annibynol. Dechreuwyd pregethu drachefn yn yr ardal yn y flwyddyn 1885, gan Mr. J. Davies, Bwlchyffridd, mewn lle a elwir Talygarth; ac wedi hyny, yn Felinhenser; ac o'r diwedd cafodd yr achos gartref yn Closybank. Ysgol Sabbothol a sefydlwyd yma i ddechreu, yn benaf trwy lafur Mr. David Roberts, Trewythenfawr, y pryd hwnw. Perthynai yr aelodau cyntaf i Lanwnog, ond Mr. D. Evans, y pryd hwnw o Lanidloes, oedd ar llaw benaf yn ffurfiad yr eglwys, ac efe a'i corpholodd yn Awst, 1838, ac o dan ei ofal ef y bu hyd nes yr ymadawodd o Lanidloes i Dredegar; a bu o dan ofal ei olynwyr yn y weinidogaeth yn Llanidloes, hyd ddyfodiad Mr. R. Jones i