Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/417

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lanidloes, yn 1865, yr hwn a deimlai nas gallasai gymeryd ei gofal. Bu Mr. J. Davies, Llanwnog (Bwlchyffridd gynt), yn gofalu am y lle ar un adeg, ac y mae yn ffyddlon iddo bob amser. Yn awr ar Mr. R. Ellis, Carno, y mae y gofal yn benaf. Ffurfiwyd cangen o'r eglwys yma yn Cefnbarach, dwy filldir yn nes i Carno na Closybank; ond oblegid i'r rhan fwyaf o brif gynhalwyr y gangen hono ymadael a'r wlad, penderfynwyd uno y ddau achos, a chodi capel yn y lle mwyaf cyfleus a ellid gael i'r holl aelodau. Bu yr eglwys yn hir heb dŷ yn eiddo iddi ei hun i addoli ynddo; ond yn 1862, cafwyd tir gan Mr. Swancott, Llanidloes; a chyflwynwyd ef i John Jenkins, Llanidloes; David Roberts, Ddraenenddu; Thomas Mills, Penycoed; ac Edward Roberts, Carno, (Coedpoeth yn awr,) fel ymddiriedolwyr. Agorwyd y capel yn Awst, 1863, pryd y gweinyddodd Meistri D. Evans, Penarth; E. Roberts, Carno; W. Roberts, Penybont, ac R. Evans, Llanfair. Bu yr ardalwyr yn ffyddlon i gario y defnyddiau ato, ac i dalu am dano, ac y mae y ddyled oll wedi ei thalu. Bu yr achos yn llawer cryfach 28 mlynedd yn ol nac ydyw yn bresenol. Symudodd llawer o'r ardal, ac yr oedd yn anfantais fawr nad oedd yma le cyfleus i addoli; ond cofir gyda hyfrydwch gan lawer am gyfarfodydd gwlithog gafwyd yn yr hen dŷ yn Closy bank. Nifer yr aelodau yn bresenol ydyw ugain.

DREFNEWYDD.—(SAESONAEG).

Mae yn eglur fod pregethu wedi bod yn y dref hon er amserau Vavasor Powell a Henry Williams, o'r Ysgafell; ond nis gallwn ddilyn yr achos yma er hyny hyd yn awr gydag un cysondeb. Mae ger ein bron yn awr gofnodion y Trysorfwrdd Presbyteraidd, yn cynwys enwau nifer o weinidogion oedd yma yn y ganrif ddiweddaf, y rhai a dderbyniasant gymhorth gan y Bwrdd. Yn y flwyddyn 1712, cawn fod un Mr. Perkins yma. Am ddwy flynedd yn 1721 a 1722, cawn un Mr. Benjamin Lewis yma. O hyny hyd 1729, un Mr. David Richards oedd yma. Cawn un Mr. Thomas Hopkins yma o 1729 hyd 1740. Yn y flwyddyn ganlynol yr oedd un Mr. David Jones yma.

Yn 1744 a 1745, yr oedd Mr. Josuah Howell yma; a Mr. Noah Jones am y flwyddyn ganlynol; a Mr. Jos Baker yma yn 1748. O'r flwyddyn 1751 hyd 1766, cawn un Mr. David Lewis yma; ac o 1769 hyd 1773, un Mr. Benjamin Evans; ac am y flwyddyn ganlynol, un Mr. Thomas Rees, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin; ac un Mr. David Lewis, o 1778 hyd 1780. Nis gwyddom ai yr un oedd y David Lewis, a enwyd olaf, a'r David Lewis oedd yma o 1751 hyd 1766. Nis gallwn sicrhau fod yr holl bersonau a enwyd uchod yn gweini i'r eglwys yn y Drefnewydd. Dichon fod rhai o honynt yn cael eu cysylltu a'r Drefnewydd, am mai yma yr oedd y llythyrdy agosaf atynt. Nid yw y rhestr uchod ychwaith yn profi pa cyhyd y bu neb o honynt yma; ond yn unig eu bod y blynyddau a nodir yn derbyn arian o Drysorfa y Presbyteriaid.

Dywedir i un Mr. Williams, a'i deulu, o gymydogaeth Abertawy, y rhai oeddynt Annibynwyr, symud i'r dref hon yn nechreu y ganrif ddiweddaf. Yr oedd yma ysgol ragorol ar y pryd, gan un Mr. Moone, yn y fan lle y mae y Bowling Green yn bresenol, ac er mwyn addysg ei fab, yr hwn a ddaeth wedi hyny yn weinidog, y symudodd Mr. Williams yma.[1] Mae

  1. Llythyr Mr. J. P. Jones.