pan yn ddwy-ar-bymtheg oed; ac nid hir ar ol ei dderbyn y bu Mr. Williams a'r eglwys heb ei gymhell a'i gefnogi i arfer ei ddawn i bregethu. Dechreuodd yn y cyfeillachau crefyddol, ac yn y cyfarfodydd gweddio a gynhelid mewn tai anedd; ac yn fuan daeth i lenwi bylchau yn absenoldeb ei weinidog, a gelwid am ei wasanaeth gan yr eglwysi cymydogaethol. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Llanfyllin yn Ionawr, 1817; a rhwng ei fod wedi cael manteision helaeth yn flaenorol, ac yn meddu talent nodedig at ddysgu, rhagorodd yn fuan ar ei holl gydefrydwyr. Ar derfyniad ei amser, dewiswyd ef yn gynorthwywr i'w athraw, Dr. Lewis. Dewiswyd ef ar y cyntaf gan ei athraw fel cynorthwywr iddo ef; ond cyn symudiad yr athrofa o Lanfyllin i'r Drefnewydd, penodwyd ef gan y Bwrdd Cynnulleidfaol yn Athraw Clasurol. Priododd a merch ei athraw, Dr. Lewis, ac ar ol symud yr athrofa, urddwyd ef yn Bwlchyffridd, Ionawr 24ain, i fod yn weinidog yr eglwys yno, ac i gydweini a'i hybarch gydathraw yn y Drefnewydd. Wedi marwolaeth Dr. Lewis, disgynodd gofal yr eglwys yno yn gyflawn arno. Yn 1835, rhoddodd i fyny ofal Bwlchyffridd a Llanwnog; ond parhaodd yn weinidog i'r eglwys yn y Drefnewydd hyd symudiad yr athrofa i Aberhonddu, yn 1839. Ni bu arno ofal gweinidogaethol o hyny allan, ond ymgyflwynodd i ddyledswyddau ei swydd fel athraw, a phregethai yn aml ar y Sabbothau, ac yn enwedig yn adeg gwyliau yr athrofa. Gweinyddai yn aml yn urddiadau y myfyrwyr. Llafuriodd yn ddiwyd fel Athraw Clasurol yn Aberhonddu, am ddeunaw mlynedd, ac yr oedd pawb yn meddwl y gallasai fyw lawer o flynyddoedd yn hwy i wasanaethu yn y cylch pwysig yr hwn a lanwodd am gynifer o flynyddau, mor anrhydeddus iddo ei hun, ac mor foddhaol i'r Bwrdd yn Llundain, ac i'r eglwysi yn Nghymru. Bu farw ar fyr rybudd, Chwefror 25ain, 1857, yn 61 mlwydd oed; ac wedi dal swydd bwysig yn yr enwad am fwy na phymtheng—mlynedd-ar-hugain. Claddwyd ef yn mynwent eglwys y Priordy, Aberhonddu, ac yr oedd y dyrfa barchus a ddilynent ei weddillion marwol i'r gladdfa, yn dystiolaeth amlwg o'r synied uchel oedd am dano yn meddyliau y rhai a'i hadwaenent oreu.
Mae enw Mr. Davies yn barchus iawn gan y rhai a gymdeithasant ag ef; ac y mae yr hen fyfyrwyr a fu dan ei ofal yn arbenig, yn teimlo serch cryf at ei goffadwriaeth. Dyn tal, teneu, oedd o ran ei gorph, heb ddim nodedig yn ei wyneb na'i lygaid i'w wahaniaethu oddiwrth y cyffredinolrwydd o ddynion. Cymerasid ef am hen foneddwr hynaws a charedig, heb ddrwg ewyllys ganddo i neb, ac heb ryw bryder dwfn yn ei feddwl yn nghylch helyntion y byd; ac felly yr ydoedd mewn gwirionedd. Yr oedd caredigrwydd lonaid ei natur, a medrai fwynhau difyrwch diniwed gystal a neb; ac yr oedd chwerthin yn ddiatal am ben ryw droion trwstan yn brofedigaeth iddo nas gallasai ei gwrthsefyll. Llawer gwaith y gwelwyd ef wedi ei daflu oddiar ei echel yn lan, ac yn chwerthin ynddo ei hun, wedi colli pob llywodraeth arno ei hun; ac ni byddai raid yn mhen blynyddoedd ond adgofio iddo y digwyddiad, na ddeuai y chwerthiniad yn anwrthwynebol arno. Mae yn hawdd cyfrif paham yr oedd dyn o'r fath dymer yn cael ei garu gan y rhai a gymdeithasent fwyaf ag ef. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, ac yn ol y synied oedd yn ei ddyddiau ef, yn ieithydd o'r fath oreu; ond nid i ieithyddiaeth yn unig yr oedd wedi cyfyngu ei efrydiaeth, ond yr oedd cylch ei ddarlleniad yn dra eang, 3 meddai wybodaeth gyffredinol helaeth. Nid oedd nemawr destyn nad ydoedd yn hollol gyfarwydd ag ef mewn hanesiaeth, athroniaeth, a duw-