Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/430

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn 1840, codwyd capel arall yn mhlwyf Ceri, a galwyd ef Bethany, ac y mae claddfa gyfleus yn nglyn ag ef. Agorwyd ef Gwener y Groglith, 1840, pryd y pregethodd Meistri J. Jones, Forden; T. Morgan, Trallwm; A. Francis, Drefnewydd, a J. Owen, Bishop Castle. Daeth Mr. Robert Jones yma, yr hwn a urddasid yn Nghorwen; ond ni bu yma ond ychydig. Syrthiodd oddiar ben y cerbyd wrth deithio, a bu farw. Yn y flwyddyn 1843, rhoddwyd galwad i Mr. William Daniel, ac urddwyd ef Mehefin 7fed; a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Evans, Llanidloes; A. Francis, Drefnewydd; J. Owen, Bishop Castle, a T. Jones, Minsterley. Ni bu Mr. Daniel yma ond ychydig flynyddoedd; ac yr oedd yr achos yn nhreflan Ceri wedi disgyn mor isel, fel yn 1849, y gwerthwyd y capel i'r Bedyddwyr. Bu Mr. Thomas Davies yma am dymor, ond symudodd ef i Gaerdydd; ac er hyny ni bu yma yr un gweinidog sefydlog; ond y mae Mr. John Owen wedi gofalu am y lle yn fwy na neb arall am y blynyddau diweddaf. Mae golwg lewyrchus ar yr achos yn Bethany, a phob peth yn myned yn mlaen yn llwyddianus; ond colled fawr i'r achos oedd gwerthu y capel yn y dreflan lle y cychwynwyd yr achos, a lle yr oedd cynnulleidfa luosog, ac eglwys flodeuog, ddeugain mlynedd yn ol. Mae amryw o'r eglwysi ar y terfynau hyn, wedi dyoddef yn enbyd oblegid mai "gweision cyflog" ac nid bugeiliaid sydd wedi bod yn rhy fynych yn bwrw golwg drostynt.

FORDEN.

Dechreuwyd pregethu yn y lle hwn yn benaf, trwy lafur y myfyrwyr yn athrofa y Drefnewydd, yn fuan wedi sefydliad yr athrofa yno. Ar derfyniad ei amser yn yr athrofa, penderfynodd Mr. John Jones, ymroddi i lafurio yn yr ardal dywyll yma, ac wedi ymdrechu yn ddiflino, llwyddodd i godi capel a ffurfio eglwys yma, a chymerodd ei urddiad ac agoriad y capel le yr un pryd. Fel hyn y ceir yr hanes yn y Dysgedydd, 1827, tu dal. 53. "Ar y 12fed a'r 13eg o Ragfyr diweddaf, agorwyd addoldy newydd, perthynol i'r Anymddibynwyr, yn Forden, swydd Drefaldwyn. Yn yr hwyr y dydd cyntaf, gweddiodd y Parch. E. Bebb, Drefesgob, a phregethodd y Parch. T. James, Minsterley, a'r Parch. S. Bowen, Athraw Awdurol, athrofa Gwynedd, oddiwrth Salm lxviii. 16, a Mat. xviii. 20. Dranoeth am 10, dechreuodd y Parch. J. Jones, Main, a phregethodd y Parch. J. J. Beynon, Dorrington, oddiar Ioan iv. 19-24. Am ddau yn y prydnhawn, neillduwyd y Parch. John Jones, gynt myfyriwr yn y Drefnewydd, i gymeryd gofal gweinidogaethol yr eglwys ag ydoedd newydd gael ei phlanu yn Forden. Cyflawnwyd y rhanau arweiniol o'r gwaith gan y Parch. J. Davies, Llanfair. Darluniwyd natur eglwys efengylaidd, a holwyd y gofyniadau gan y Parch. E. Davies, Athraw Duwinyddol yr athrofa grybwylledig. Traddodwyd yr urdd-weddi gan y Parch. G. Ryan, Trallwng. Anerchwyd y gweinidog gan y Parch. T Weaver, o'r Amwythig, oddiwrth Mat. iv. 19, a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair. Yn yr hwyr, gweddiodd y Parch. J. Rees, Sarney, ac anerchwyd yr eglwys a'r gynnulleidfa gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, a therfynwyd gwaith y dydd trwy weddi gan y Parch. T. Weaver. Yr oedd y gynnulleidfa yn lled luosog, y gwrandawyr yn astud, a hyderir y bydd i ddwys gyflawniadau y cyfarfod