ynddo. Derbyniodd alwad gan yr eglwys a gyfarfyddai yn y capel newydd Llanybri, yr hon oedd newydd gael ei ffurfio mewn canlyniad i ymraniad a gymerasai le yn yr hen gapel; ac urddwyd ef yr un adeg ag yr agorwyd y capel. newydd, rywbryd yn y flwyddyn 1816. Bu yno yn dderbyniol a llwyddianus iawn am chwe' blynedd; ac yr oedd ei bwyll a'i dynerwch yn ei wneyd yn un cymhwys iawn i'r lle yn yr adeg hono pan yr oedd teimladau briwedig rhwng pleidiau ar gyfrif yr ymraniad a gymerasai le. Yn y flwyddyn 1822, derbyniodd alwad o Gwmllynfell a Chwmaman, a symudodd yno, lle y bu yn barchus a chymeradwy hyd derfyn ei oes. Priododd yn 1828 a Miss Jane Jones, merch Mr. Jones, Brynbrain, un o ddiaconiaid mwyaf parchus yr eglwys yn Nghwmllynfell, a dedwydd iawn a fu yr undeb a ffurfiwyd hyd nes y gwahanwyd hwy gan angau. Yr oedd Mr. Rowlands ar ol ei symudiad i Gwmllynfell wedi dyfod i faes eang lle yr oedd cyflawnder o gyfleusderau iddo i ddadblygu ei ddoniau fel pregethwr, a'i ysbryd cyhoeddus fel gweinidog.
Yr oedd Mr. Rowlands yn ddyn o faintioli cyffredin, ac yn meddu corph cryf cymhwys i fyned trwy lawer o waith, a dal tywydd garw ac ystormydd wrth fyned dros waunydd noethion, a mynyddoedd uchel. Yr oedd ei olwg yn serchog ac ennillgar—ei dymer yn hynaws a digyffro—a'i gyfarchiad yn wastad yn hawddgar a serchog, er y medrai os byddai angen ddyweyd geiriau a gyrhaeddai i'r asgwrn. Nid oedd yn bosibl fod dyn tynerach ei deimladau, a chyrchai pregethwyr ieuaingc ato am gynghor a chyfarwyddid fel at eu tad. Cymerai drafferth i'w hyfforddi a'u haddysgu, ond os gwelai ambell un yn llawn ymchwydd a balchder nid hir y byddai cyn dwyn y cyfryw i adnabod ei hun, a gwnai hyny yn y dull esmwythaf a mwyaf didramgwydd. Nid â ei garedigrwydd a'i dynerwch yn anghof gan y rhai a fu yn aros dan ei gronlwyd; ac ar unrhyw gyfrif ni throai yr ieuangc o'r neilldu er anrhydeddu y gwr mawr. Digwyddodd unwaith fod pregethwr ieuangc iawn o gymydogaeth wledig heb fod yn mhell oddi wrtho wedi anfon ei gyhoeddiad i bregethu ar un noson i Gwmaman, ond yn ddiarwybod i'r llangc yr oedd cyhoeddiad Meistri Michael Jones, Llanuwchllyn, a W. Williams, o'r Wern, i fod yn Nghwmaman y noson hono. Yr oedd Mr. & Mrs. Rowlands wedi dyfod yno gyda'r bwriad o fyned a'r ddau ŵr enwog o'r Gogledd gydag ef adref, ac meddai wrth y gwr ieuangc, "Well i tithau dd'od hefyd—ti leici fod gyda nhw mi wn.' Un o gant a feddyliasai am wahodd bachgenyn ieuangc tlawd felly, pan yr oedd ganddo y fath wyr enwog i'w croesawi. Yr oedd wedi darllen llawer yn enwedig ar byngciau duwinyddol ac Ysgrythyrol, ac yr oedd ei gof bron yn ddihysbydd, ac nid oedd dim yn myned i golli o hono unwaith y deuai i mewn iddo. Yr oedd yn gwybod cynwys yr holl lyfrau a ddarllenasai, a medrai adrodd darnau cyfain o waith gwahanol awduron, a hyny heb ymddangos ei fod mewn un modd yn trethu ei gof wrth wneyd hyny. Darllenodd weithiau Jonathan Edwards, ac Edward Williams, ac Andrew Fuller; ac yr oedd yn deall yn glir yr olwg a gymerent ar drefn yr efengyl, ond yr oedd yn nodedig o ochelgar wrth draethu golygiadau felly, a phan y traethai hwy gwnai hyny yn ei eiriau a'i dermau ei hun, a hyny gyda'r fath wres a hyawdledd fel na ddrwgdybid ef gan y Calfin uchaf, o fod mewn un modd yn ymylu ar yr hyn a elwid yn "System newydd." Yr oedd ei bregethau yn cynwys casgliad trefnus o'r drychfeddyliau prydferthaf yn cael eu traddodi gyda chyflymdra didor, mewn iaith gref, fywiog, gynhyrfus; a'i ysbryd ei hun yn llawn o dan yr efengyl. Anaml y