Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac urddwyd ef yno, fel y crybwyllasom, Awst 19eg a'r 20fed, 1835; a phrofodd yn agos i bymtheg-mlynedd-ar-hugain o weinidogaeth ddefnyddiol a llwyddianus yn y lle, iddo wneyd yr hyn oedd uniawn yn ngolwg yr Arglwydd. Anaml y treuliwyd cynifer o flynyddoedd mor gysurus a diofid gan un gweinidog yn yr un lle. Yn mhen llai na dwy flynedd wedi ei sefydliad yn Nghwmllynfell, priododd a Mrs. Rowlands, gweddw ei ragflaenydd yn y weinidogaeth—Mr. J. Rowlands-a symudodd ati i Corsto i fyw, lle y treuliodd yn gysurus weddill ei oes. Cafodd un o'r gwragedd rhagoraf a serchocaf a ddisgynodd erioed i ran gwr, ac yr oedd eu hanedd glyd, gynes, lawn, yn baradwys fechan. Treuliasom lawer noswaith yn hapus dan eu cronglwyd; ac nis gallwn ffurfio dychymyg uwch am hapusrwydd teuluaidd-heb blant nag a fwynheid ar aelwyd Corsto. Saif y tŷ ar lethr ar ochr Gwaun-cae-gurwen, a'i wyneb yn union tua'r gogledd, ac er nad yw yn eang, y mae wedi ei drefnu yn dda, ac yn llawn dodrefn gwasanaethgar, a'r cwbl mor lân, ag y gallasai dwr a sebon a nerth braich merch eu gwneyd. Mae gardd eang o'i gylch, yn yr hon y mawr ymyfrydai Mr. Pryse, a gardd-lysiau yn yr hon y ceir llawer o lysiau dymunol i'r golwg a daionus yn fwyd; a llawer math o lysiau meddyginiaethol yn ychwanegol at hyny; a phe buasai cysuron allanol yn gallu estyn dyddiau dyn dylasai Mr. Pryse fyw i oedran teg, ond nid yw " y rhedfa yn eiddo y cyflym, na'r rhyfel yn eiddo y cedyrn, na'r bwyd yn eiddo y doethion, na chyfoeth yn eiddo y pwyllog, na ffafr yn eiddo y cyfarwydd." Er fod golwg gryf, gorphorol arno, etto ni bu erioed yn ddyn iach, caled, y fath ag a oddefasai dywydd garw; a dichon ddarfod iddo trwy or-ofal am dano ei hun dyneru ei natur fel ag i'w wneyd yn analluog i ddal caledfyd, er nad oedd un tywydd a'i hataliai i fyned i gyflawni ei ddyledswyddau yn ei gylch cartrefol, ond gofalai ddarparu cyn cychwyn i fod yn ddiddos. Mwynhaodd er hyny, ar y cyfan, iechyd da trwy ei oes, hyd o fewn ychydig flynyddoedd cyn ei farwolaeth, rhuthrodd tarw cymydog iddo arno, a gwanodd un o'i gyrn i'w enau, a rhwygodd ei wyneb, fel yr ofnid ar y pryd am ei einioes; ond gyda gofal a thynerwch adferwyd ef yn raddol fel y daeth drachefn i allu cyflawni ei ddyledswyddau fel cynt, er y dywed y rhai a gafodd fwyaf o gyfle i wybod na ddaeth byth cystal ag y bu. Yn ei gystudd diweddaf bu yn dyoddef am yn agos i dri mis, ac yn y diwedd daeth inflamation of the lungs fel gelyn erchyll ato, a rhoddodd derfyn ar ei einioes ddydd Mawrth, Gorphenaf 6ed, 1869, yn 62 oed. Claddwyd ef yn anrhydeddus y dydd Gwener canlynol yn mynwent Gibeah, Brynaman, a bernid fod yno lawn dwy fil o bobl wedi dyfod i'w ddilyn i "dy ei hir gartref;" ac yn eu plith yr oedd tua deg-ar-hugain o'i frodyr yn y weinidogaeth. Cyn cychwyn o Corsto darllenodd a gweddiodd Mr. E. Watkins, Llangattwg; ac wedi myned yn orymdaith at y capel, gwelwyd nas gallesid myned i mewn, a chynhaliwyd y gwasanaeth yn yr awyr awyr agored. Dechreuwyd gan Mr. E. Hughes, Penmain, phregethodd Meistri J. Mathews, Castellnedd, a т. Rees, D.D., Abertawy. Anerchwyd y dorf hefyd gan Mr. D. Williams, Llanwrtyd-yr hwn a fedyddiasai Mr. Pryse pan yn faban-a chan Mr. P. Griffiths, Alltwen; ac wrth y bedd gweddiodd Mr. J. Davies, Cwmaman, a gadawyd gweddillion marwol y "tywysog a'r gwr mawr" o Gwmllynfell i gysgu yn dawel hyd foreu yr "adgyfodiad gwell."

Gan na theithiodd Mr. Pryse ond ychydig y tu allan i'w gylch gweinidogaethol, a chan yr ystyriwn ef yn un o dywysogion y pulpud Cymreig,