allan trwy un ochr; ond newidiai o'r naill ochr i'r llall, fel y cai un ochr orphwys pan y byddai y llall yn gweithio. Byddai y rhan gyntaf o'i bregeth fynychaf yn eglurhad ar y testyn a'i gysylltiadau, ond ni byddai un amser yn faith gyda'r rhagymadrodd, er y byddai yn hawdd deall oddi wrth yr hyn a ddywedai y gwyddai yn dda pa le yr oedd yn myned. Pregethai yn destynol yn gyffredin, ac nid yn aml y byddai unrhyw newydd-deb na chywreinrwydd yn ei raniadau. Yr oedd ei iaith yn dda —ei ymadroddion yn gryfion—ac ar y dechreu ni byddai ei frawddegau ond byrion. Deuai yn mlaen yn raddol i arddull mwy hapus, hamddenol, a chwareus. Byrlymai ei arabedd allan heb yn wybod iddo, ac yn aml gwelwyd cynnulleidfa fawr yn ysgwyd mewn gwenau ger ei fron, ac yntau mor ddiysgog a'r graig yn nghanol yr holl gyffro. Yr oedd weithiau mewn profedigaeth i ddefnyddio ymadroddion a ystyrid yn arw, ac i ddisgyn islaw safon iaith bur, ond yr oedd y fath nerth yn ei iaith a'i feddyliau fel y diangai rhag beirniadaeth lem y chwaeth buraf. Nid oedd ei lais yn swynol, yn annibynol ar ei iaith, ei feddyliau, a lluniad bachog ei frawddegau, er fod rhyw oslef dyner iddo pan y byddai yn disgyn ar ol gollwng allan ffrydlif o ymadroddion cryfion. Ond nid mewn mwydo a thoddi cynnulleidfa yr oedd ei ragoriaeth, ond ei synu a'i chyffroi, a'i thanio a'i ddesgrifiadau neu ei apeliadau. Tynai ddarluniadau barddonol mewn iaith gref, ac aruchel weithiau. Nid oedd pall ar ei ddarfelydd, a throai bob peth y llefarai am danynt yn ddelweddau byw o flaen llygaid y gynnulleidfa. Yr oedd ei wawdiaith yn gryf a bachog, a phan y defnyddiai hwnw, yr hyn a wnai yn aml, torai hyd yr asgwrn. Darluniai y balch, y cybydd, y meddwyn, neu yr anfoddog, nes ei wneyd yn wawd cyffredinol; ac os na ddygai y cyfryw i ffieiddio ei hun, dygai pawb arall i'w ffieiddio. Fel y byddai yn poethi agorai ei enau yn lletach, a llefarai yn gyflymach, yn gryfach, ac yn wresocach, ac yr oedd ei frawddegau yn ymestyn mewn hyd, ac yn cynyddu mewn nerth. Difrifolai wrth fyned rhagddo, ac yr oedd ganddo apeliadau cryfion weithiau a ysgydwai y gynnulleidfa fwyaf; ond fynychaf ryw ddychlamiadau hyawdl o ddymuniadau am lwyddiant y gwirionedd oedd terfyniadau cyffrous ei bregethau. Yr oedd yn alluog fel pregethwr yn mhob arddull. Ymdriniai ag athrawiaethau dyfnion, ac a dyledswyddau pwysig, ac a rhinweddau ymarferol. Dylifai gordial i ddiddanu y saint trallodus, ac yr oedd yn fab y daran i ddychrynu annuwiolion rhyfygus. Yn sicr yr oedd yn un o gedyrn cyntaf y pulpud Cymreig. Gwyddom y buasai yn dda weithiau pe buasai ei iaith yn fwy coeth a chaboledig, ond maen mynor heb ei lyfnhau yn ormodol ydoedd; a phe buasid yn tori cydunau ei wallt a'i wneyd, fel dyn arall, nid Rhys Pryse, Cwmllynfell fuasai. Nid oeddym yn barod i dderbyn y newydd o'i farwolaeth pan gyrhaeddodd atom, oblegid tybiem y gallasai fyw lawer o flynyddau yn hwy, ond fel arall y trefnodd yr Hwn sydd yn "penu amseroedd rhagosodedig" plant dynion. Mae yr hyn oedd farwol o hono yn gorwedd yn mynwent Gibeah, i aros y boreu y cymer y golygfeydd gogoneddus a ddarluniodd ganwaith mor hyawdl le yn weithredol.
Cysged yn dawel wrth droed y Mynydd Du! Sanged pob troed yn ysgafn arno-nac ymyred neb a'i esgyrn ef-a chadwer y llecyn byth yn gysegredig fel "BEDD GWR DDUW."