oes hanes iddynt ymofyn cymorth gan neb ond yn yr ardal; cynyddodd yr achos, a lledaenodd y winwydden ei cheingciau i lawr ac i fyny, nes aeth yn gadarn, ac aeth yn lle o gyrchfa mawr iddo gan bobl yr ardaloedd, a rhai pellenig, a hyny oddiar enwogrwydd eu gweinidog, oblegid yr oedd yn ddyn cadarn yn yr Ysgrythyrau. Nid oedd neb cenhadau yn myned heibio heb alw gyda'r hen Shon Calfin, fel y galwent ef, ac yr oedd amryw o'r Methodistiaid yn galw gydag ef, ac yn ei dy ef y byddent yn llettya. Wedi bod felly yn llwyddianus am flynyddau, daeth eisiau gwellhau yr addoldy, yr hyn a wnaethant. Codasant ef yn uwch, a rhoddasant ben newydd a chadarn arno, a gwellhawyd ef y tu fewn; bu hyn yn y flwyddyn 1814, a dygodd y gynnulleidfa a'r ardalwyr y draul oll. Bu Mr. Davies yn gweinidogaethu yn yr Alltwen am 51 mlynedd; ond er mor gadarn o gorph ac o feddwl oedd, ac er mor hoff o hono ydoedd y bobl, bu gorfod arnynt ymadael ag ef pan ddanfonwyd cerbyd Israel a'i farchogion i'w gyrchu i gymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntaf-anedig, &c. Bu farw Rhagfyr 4ydd, 1821, a chladdwyd ef wrth Eglwys Llanguwg, oblegid nid oedd mynwent wrth yr Alltwen na Chwmllynfell y pryd hwnw. Er mor enwog oedd y gweinidog a'r lle, etto nid oeddynt yn eglwys luosog, ond yr oeddynt yn bobl gyfrifol a pharchus iawn, yn ymgasglu o bell o lawer o wahanol ardaloedd; rhai o swydd Frycheiniog, plwyf yr Ystrad; eraill o blwyf Llanguwg, 4 neu 5 milldir i fyny; eraill o blwyf Llangafelach, Treforis, Llansamlet, plwyf Cadwg, godreu Cwmdulais, tu draw i'r mynydd, etto nid oeddynt ond bychan o rifedi yn yr oes dywyll hono, pryd nad oedd Ysgolion Sabbothol, na chyhoeddiadau misol, na thai addoliad yn aml iawn, na nemawr o fanteision fel sydd yn ein hoes ni, ac yr oedd llawer o elyniaeth at yr achos mewn llawer man. Bu gorfod ar un o ddiaconiaid yr Alltwen gael trwydded (license) ar ei dy er cael cadw addoliad ynddo (George Williams, Glanrhyd); yr oedd hyny yn beth hynod iawn; ond nid yw yr elyniaeth wedi marw etto, ond yn unig ei bod yn ormod o oleuni iddi ddangos ei hun.
Wedi marw Mr. Davies bu y gynnulleidfa yn araf, pwyllog, tawel, a diwylltni ar ol pob dawn ag oedd yn myned heibio iddynt. Ac wedi i eglwys y Pantteg roddi galwad i'r ysgrifenydd, daeth eglwys yr Alltwen o'r un feddwl, a chydsyniasant a'r Pantteg er bod yn rhanog a hwynt dan yr un weinidogaeth; rhoddasant alwad wedi ei harwyddo oll heb un yn groes, nid oeddynt y pryd hwnw ond 67 o nifer. Wedi yr urddiad aeth pethau yn mlaen yn gysurus, llwyddodd yr achos, derbyniwyd amryw, ac aeth eisiau helaethu y lle, yr oedd yn rhy gyfyng i breswylio ynddo; nid oedd ond lease bywydau ar y tŷ, a dau o'r tri wedi marw, a'r llall yn hen iawn. Y canlyniad fu, aeth un o'r hen bobl (Richard Hopkin, Cwmnantllwyd) at berchen y lle, er ceisio adnewyddu y lease, i gael adeiladu-cafodd addewid o gan' mlynedd; aeth eilwaith, a chafodd addewid o fil ond un. Felly penderfynodd yr eglwys wneyd cytundeb a H. Gwyn, Ysw., am y lle dros 999 o flynyddau. Rhyw fodd wrth ymddiddan a'r gwr boneddig, daethbwyd i benderfyniad i gael darn o'r cae oedd islaw y tai addoliad at yr hyn oedd eisioes o dan y tai addoli, a hyny er adeiladu tŷ newydd a'r ddau gyntaf i sefyll, i fod yn ystabl a thai anedd, ac i fod mewn cysylltiad a'r tŷ newydd, a'r cwbl yn yr un lease. Yr unig rwystr i hyn oedd, fod lease gan Mr. Richard Hopkin, ar y cae; a thuag at symud hyny, rhoddodd ei hawl i'r darn tir i fyny i'r eglwys am ddim. Felly dechreuwyd adeiladu yn y flwyddyn 1831. Mae yr adeilad presenol yn mesur 46 troedfedd wrth 36 o led, 22