call, duwiol, a hyfryd iawn, hynod yn ei athrylith, ond machludodd ei haul gyda ei fod yn dyfod dros y terfyngylch, a bu farw yn ieuangc. Mae yma ddyn ieuangc yn bresenol yn dechreu arfer ei ddawn (Joseph Owen); dymuna yr eglwys a'r gweinidog iddo fawr a hir lwyddiant. Cyfrifir yr eglwys hon yn iach yn y ffydd er pan mae yn eglwys; y mae yn mhell o fod o farn Arminaidd, etto mae am flaenori ar bawb mewn diwydrwydd, dyledswyddau, buchedd sanctaidd, a dysgyblaeth yn ol gair Duw. Cyfrifir gan y rhai sydd yn teithic, fod yma gymaint o archwaeth grefyddol ag sydd mewn nemawr o fan yn y dyddiau marwaidd hyn. Cafodd yr eglwys hon y fraint o gynal dwy gymanfa bedair-sirol yn ysbaid 21 mlynedd diweddaf. Mae'r gangen hon o'r mynydd yn dorf luosog at a fu cyn hyn, ond nid yw hi ond bechan at a fydd, gobeithio, a hyny cyn byddo yn hir. Mae yn ymranu i 6 o ddosbarthiadau er cynal cyfarfodydd gweddio, a hyny i feithrin doniau, llesoli cymydogaethau, ac ennill tir a phersonau newyddion. Bydded bendith ar eu llafur, a bydded Duw Israel gyda ni tra fyddom gyda ein gilydd, ac ar ol fy ymadawiad i arosed cwmwl y gogoniant yma byth."
Yr ychydig ffeithiau canlynol yn unig sydd genym i'w hychwanegu at yr hanes cyflawn blaenorol. Urddwyd Mr Griffiths, Rhagfyr 12fed a'r 13eg, 1822. Dechreuwyd y cyfarfod y nos gyntaf yn y Pantteg gan Mr. D. Davies, myfyriwr yn athrofa y Neuaddlwyd, yn awr o'r New Inn, a phregethodd Mr. L. Powell, Capel Isaac, a Mr. D. Davies, Sardis. Yr ail ddydd, yn yr Alltwen, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Morgan Lewis, Glynnedd; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Evans, Mynyddbach; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. R. Howell, Baran; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Daniel Jones, Crugybar; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. T. Bowen, Castellnedd, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Davies, Sardis.
Mae Mr. Griffiths wedi bod yn llafurio yn y maes pwysig hwn bellach er's cyflawn haner can' mlynedd. Yn ystod y tymor hwn, heb gyfrif ei lafur achlysurol yma er y pryd y dechreuodd bregethu, ac am yr amser y bu ar brawf yma, y mae o ddydd ei urddiad hyd yn bresenol wedi traddodi yn y lle, naw mil a phump o bregethau; wedi bedyddio 2886 o blant; wedi gweinyddu mewn 2007 o angladdau; ac wedi derbyn trwy ddeheulaw cymdeithas 1930 o bersonau, heb gyfrif y rhai a dderbyniwyd ganddo trwy lythyrau, a'r gwrthgilwyr a adferwyd. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Griffiths, y mae eglwys a chynnulleidfa yr Alltwen wedi myned i'r draul o 1082p. 3s. i adeiladu a helaethu y capel, murio o gylch y fynwent, troi yr hen gapel yn anedd-dai, adeiladu Reading-room', &c., ac wedi talu y cwbl eu hunain heb ond y peth nesaf i ddim o gymorth o un ardal arall. Daw y canghenau yn Ynysmudw, a Chraigtrebanos, dan sylw etto yn eu lleoedd priodol. Helaethwyd y capel i'w faint presenol yn 1861, pryd yr aed i'r draul o 319p. 10s. i wneyd hyny.
Heblaw y rhai a grybwyllwyd yn barod, cafodd y rhai canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon:—
John Jenkins, yr hwn a dderbyniwyd i athrofa Abergavenny, Mai 8fed, 1775, ac a urddwyd yn Llangattwg, Crughowell, Medi 30ain, 1779. Daw ef etto dan sylw yn nglyn a hanes yr eglwys hono [1]
- ↑ Llawysgrifau P. David a chofnodion y Congregational Fund.