Lewis Williams, yr hwn a urddwyd yn ddiweddar yn Mynyddislwyn; yn nghyda dau ŵr ieuangc sydd newydd ddechreu pregethu, o'r enwau Samuel Thomas a Dan Williams. Mae yr eglwys hon, a'r Ysgol Sabbothol, mewn agwedd hynod o lewyrchus, a Mr. Griffiths, er ei henaint a'i holl lafur, yn gryf a bywiog mewn corph a meddwl, ond ei fod fel Jacob, yn gloff o'i glun. Hyderwn fod etto flynyddoedd o gysur a llwyddiant o'i flaen.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
JOHN DAVIES. Ganwyd y gweinidog enwog hwn yn mhlwy. Llanllawddog, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1737, mewn anedd-dy yn agos i Eglwys y Plwyf. Aelodau o'r Eglwys Wladol oedd ei rieni. Treuliodd ef flynyddau boreuaf ei oes yn was gyda boneddwr o'r enw Mr. Lloyd, Glangwili. Yno y dysgodd ac y cymerodd hoffder mewn saethu adar, yr hyn a barhaodd i wneyd trwy ei oes. Ymddengys ei fod yn wyllt a thra annuwiol, er ei fod mewn parch mawr gyda ei feistr, hyd nes yr oedd tuag ugain mlwydd oed. Y pryd hwnw cafodd gystudd trwm a pheryglus a bu yn cadw ei wely am rai wythnosau. Bendithiodd yr Arglwydd ei gystudd er ei ddifrifoli. Pan wellhaodd ymunodd a'r eglwys Annibynol yn Mhenycadair. Yn mhen ychydig amser ar ol ei dderbyn, anogwyd ef gan yr eglwys i arfer ei ddawn fel pregethwr, ac ar ol pregethu am rai misoedd ar brawf yn ei fam-eglwys, aeth, yn ol arferiad yr oes hono, i gyfarfod gweinidogion, lle y traddododd bregeth er mwyn i'r gweinidogion a'r eglwysi cymydogaethol gael cyfle i farnu ei gymhwysder. Barnwyd ef yn addas i gael ei anog i fyned trwy yr eglwysi fel pregethwr rheolaidd. Gan ei fod yn dra enwog fel pregethwr, ac yn enwedig ar gyfrif ei gryfder corphorol a'i wroldeb, anfonodd yr eglwys yn Rhosymeirch, Mon, alwad iddo, cyn iddynt ei glywed, ar sail y son oedd wedi myned allan am dano. Yr oedd o bwys cael dynion gwrol y pryd hwnw i fod yn weinidogion Ymneillduol yn Mon, o herwydd ysbryd erlidgar y trigolion. Tybiodd ef a'i gyfeillion mai llais oddiwrth yr Arglwydd oedd yr alwad hon, ac felly cychwynodd i'w daith tua'r gogledd, ond cyn iddo fyned yn mhell cloffodd ei geffyl, a bu raid iddo ddychwelyd adref. Yna rhoddodd i fyny y meddwl am fyned i'r gogledd. Tua y flwyddyn 1767, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Mhentretygwyn, sir Gaerfyrddin, lle yr urddwyd ef. Yn niwedd y flwyddyn 1770, neu ddechreu 1771, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Nghwmllynfell, yr Alltwen, a Chwmaman, ac ymsefydlodd yno, ac yno y bu yn rhyfeddol o ddylanwadol a pharchus hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Rhagfyr 4ydd, 1821. Ar ddydd ei gladdedigaeth, cymerwyd ei gorph o'i anedd i gapel yr Alltwen, lle y traddodwyd pregeth oddiar Salm xl. 2, gan Mr. Thomas Edwards, Castellnedd. Yr oedd y testyn a'r pregethwr wedi cael eu penodi gan yr ymadawedig ar ei wely angau. Claddwyd ef yn ymyl ei ragflaenor, Mr. W. Evans, yn mynwent Llanguwg, yn ngwydd llawer o ganoedd o alarwyr.
Dichon na fu un gweinidog erioed yn fwy ei barch gan bobl ei ofal na Davies, o'r Alltwen. Nis gellir crybwyll ei enw i'r dydd heddyw yn nghlyw yr hen bobl sydd yn ei gofio heb enyn ynddynt deimladau o barch iddo. Dywedir mai dyn mawr, garw ei gorph a'i ymadroddion ydoedd,