Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond er hyny yr oedd ganddo ryw ffordd ryfedd i fyned i serchiadau dynion ac i beri iddynt deimlo parch tuag ato.

Yr oedd fel pregethwr yn llefaru yn gryf, ac eglur, ac yn gadael yr argraff ar ei wrandawyr ei fod yn feistr ar ei bwngc. Er nad oedd dim yn swynol yn ei lais, nac yn dlws yn ei gyfansoddiadau, yr oedd pawb o'i gydoeswyr yn ei gyfrif yn bregethwr mawr. Llygriad dynoliaeth trwy y cwymp, a chyfiawnhad trwy ffydd yn angau iawnol y Cyfryngwr, oedd y materion y safai arnynt agos bob amser. Anfynych y traddodai un bregeth heb roddi ergyd i'r Sosiniaid, ac er hyny, yr oedd gan Sosiniaid y gymydogaeth barch mawr iddo fel cymydog. Yr oedd ganddo yn ei ymddiddanion a'i bregethau ryw ergydion pwrpasol, ac yr oedd ei ateb yn wastad yn barod. Yr oedd ryw nos Sabboth i bregethu yn Ebenezer, Abertawy, a chan ei fod tua phedwar ugain oed y pryd hwnw, ac wedi bod yn pregethu yn yr Alltwen yn y bore, cynygiodd Peter Williams, un o swyddogion yr eglwys, alw rhyw frawd i ddechreu yr oedfa iddo. "Na wnewch," ebe efe, mewn llais garw uchel, "mae yn well genyf fi gael hogi fy mhladur fy han na gadael i neb arall wneyd hyny."

Bu Mr. Davies yn briod ddwywaith ond ni bu iddo blant.

GODRERHOS.

Cymerwn hanes yr eglwys hon allan o'r Diwygiwr am 1847. Tu dal. 150, yr hwn a ysgrifenwyd gan Mr. P. Griffiths, Alltwen, a bydd yn dda gan ein darllenwyr ei gael yn arddull yr awdwr ei hun. "Mae'r eglwys fechan hon wedi ei ffurfio er ys mwy na chan mlynedd yn ol, er nad oes hanes cywir i'w gael trwy un ysgrifen, nac ychwaith trwy draddodiad, ond fod pregethu mewn tŷ bychan, lle y trigianai hen ŵr crefyddol, gwehydd wrth ei gelfyddyd. Ymddengys fod yno ryw ychydig bobl yn ofni Duw, ac yn cynal addoliad. Nid oes neb yn gwybod pa fodd yr oedd yr achos yn cael ei gynorthwyo, na chan bwy. Y peth cyntaf sydd ar gof gan yr hen bobl, trwy glywed gan eu tadau, yw i un Henry Thomas, genedigol o Lacharne, swydd Gaerfyrddin, priddfeinwr wrth ei gelfyddyd, yr hwn oedd yn bregethwr, ddyfod i Godrerhos i gadw ysgol, a phregethu yn achlysurol. Yn mhen amser urddwyd ef i waith y weinidogaeth. Nid oes un hanes i gael pwy oedd y gweinidogion a fu yn yr urddiad. Wedi i dalm o amser fyned heibio, priododd y Parch. Henry Thomas, a merch Mr. Jenkin Davies, Gellidochleitha, yr hwn oedd yn byw ar ei dir ei hunan, ac ar ei dir ef yr oedd tŷ y gwehydd, lle yr oedd yr addoliad yn cael ei gynal. Y canlyniad fu i Mr. Henry Thomas gael lease ar y tŷ bach, a darn helaeth o dir at fynwent, gan Mr. Jenkin Davies, ei dad-yn-nghyfraith, er adeiladu tŷ addoliad mwy cyfleus; yr hyn a wnaethant, yr hwn sydd yn sefyll heddyw. Yr oedd y lease dros fil ond un o flynyddau, wedi ei hymddiried i ymddiriedolwyr, sef y Parch. Henry Thomas, Godrerhos; R. Rees, Cwmdulais; John Evans, Brynasgellog; a'r Parch. Noah Simmons, Castellnedd; ardreth flynyddol y lle yw chwe' cheiniog. Mae darbodaeth yn y lease, os bydd y gynnulleidfa yn ewyllysio adeiladu rhyw beth ar y tir, neu'r fynwent, fod iddynt hawl, ond ei fod mewn cysylltiad a'r addoldy; a bod coed at hyny i'w cael, os byddai coed o'r fath ar y fferm uchod, Gellidochleitha. Amseriad y lease yw 1753. Oddiwrth yr hanes uchod, gallwn gasglu, rhwng ffurfio yr eglwys, dyfodiad Mr.