Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Thomas atynt, ei urddo, priodi, &c., fod cryn lawer o flynyddau o ddechreuad yr achos hyd amser dyddiad y lease, yr hon sydd heddyw yn 94 o flynyddau, ac i barhau etto 905. Tymor anwyl i fraich yr Arglwydd i weithio. Mae'r addoldy uchod wedi ei adgyweirio bedair gwaith, er nad yw wedi ei ail adeiladu. Cafodd y lle yr enw Godrerhos oddiwrth sefyllfa y fan y mae. Mae llain o dir yn rhedeg trwy'r cwm, rhwng Mynyddmarch-howell ar y gorllewin-ogledd, a Hir-fynydd ar y dwyrain-ddeheu iddo, a elwir y Rhos (common), ac yn agos i odreu hwnw y saif yr addoldy. Wrth yr hanes a gawn gan hen bobl, ymddengys nad oedd achos crefyddol gan yr Annibynwyr yn Nghwmnedd, yn enwedig tua'i ganol, yn amser y Parch. Henry Thomas, o gylch i 80 neu 90 o flynyddau yn ol; oblegid yr oedd pedwar o bersonau yn dyfod oddiyno i Godrerhos—John Harrison Glyncastell, tu draw i Nedd, plwyf Illtyd, ewythr i'r Parch. J. Harrison, Aberdar, a brawd i dadcu y Parch. John Jones, Cincinnati, America; yr ail oedd Thomas Hopkin, Penlan, tad Rees Hopkin, Tongarwyd, pregeth. wr selog a phoblogaidd gyda'r Methodistiaid, a thadcu Rees Hopkin, Creinant, pregethwr gyda'r un bobl; y trydydd oedd Jenkin Lewis, Blaennant-yr-hebog, sef yr enwog a'r Parchedig Jenkin Lewis, Llanfyllin, yr hwn a lafuriodd yn galed trwy lawer o wrthwynebiadau a thlodi mawr lawer gwaith pan oedd yr achos ond yn ei fabandod yn ngogledd Cymru. Er nad yn Nghodrerhos y dechreuodd bregethu, etto, yno y derbyniwyd of yn aelod, a symudodd i gymydogaeth yr Alltwen, pan y dechreuodd sefyll i fyny yn gyhoeddus; y pedwerydd oedd Jennet Christmas, Hendregledren; nid wyf yn adnabyddus a neb o'i phobl, pa un ai crefyddol ai digrefydd y maent. Oddiwrth hanes y dynion da a ffyddlon uchod, gallwn weled fod Duw yn bendithio llafur, ac yn gwobrwyo ffyddlondeb, ac yn ymweled hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'i carent ef. Felly hefyd y mae o barth i lawer o bobl eraill ag oedd yn aelodau yn Nghodrerhos, mae eu had gyda'r achos, crefydd fel wedi gwreiddio yn y teuluoedd -lle byddo didwylledd hi wna hyny. Yn mhen oes neu ddwy eilwaith, daeth eraill yn uwch i fyny o Gwmnedd, i fod yn aelodau yn Nghodrerhos: un Morgan Curtis, Blaen-nant-yr-ewig, a Morgan Jones, Ddrysiog, ac eraill, y rhai, ynghyd ag aelodau o fanau eraill, a ddechreuasant yr achos sydd yn Nglynnedd yn bresenol. Nid oedd nemawr o bregethu dros y mynydd i'r gorllewin i Godrerhos yn amser y Parch. H. Thomas; yr oedd un Lewis Richard, Bryncarnau, a John Evan Thomas, Brynasgellog, yn byw yn mlaen plwyf Cilybebyll, ac yn aelodau yn Nghodrerhos; a byddai y Parch. H. Thomas yn dyfod dros y mynydd i bregethu iddynt, yr hyn a achlysurodd i gael pregethu yn nes i waered yn y plwyf, ac o'r diwedd, sefydlodd yr arch ei man, sef yr Alltwen; a thebyg heddyw, na symud hyd nes cano'r udgorn, a galw'r dorf sydd yn gorwedd, ac a orwedd etto yno. Yr oedd achos Godrerhos yn lledaenu i'r gogledd hefyd; yr oedd rhai o'r aelodau yn byw yn y Graigarw, ar lan afon Twrch; bu y Parch. M. Lewis yn pregethu yn fisol yn Ystalyfera-uchaf, tŷ William Williams. Bu y Parch. H. Thomas o ddefnydd mawr, ac yn llafurus iawn yn yr oes dywyll hono, ond rhoddodd i fyny bregethu amryw flynyddau oyn ei farw, a bu farw yn 90 oed; claddwyd ef gyda'i wraig yn mynwent Godrerhos, yn 1802, claddwyd ei wraig yn 1771. Nid wyf yn gwybod am neb o'i bobl yn bresenol. Yr oedd iddo wyr, y Parch. Jeremiah Thomas, Croesoswallt, yn Shropshire; nid wyf yn gwybod a ydyw yn fyw ai peidio, mae wedi rhoi fyny bregethu, ac yn byw ar ei feddianau.