Wedi i'r Parch. H. Thomas roddi fyny bregethu, cafodd y Parch. Morris Williams alwad, ac urddwyd ef i waith y weinidogaeth yn Nghodrerhos, lle y bu yn ffyddlon a llwyddianus iawn, ac mae ei goffadwriaeth yn hoff ac yn anwyl ganddynt. Bu yntau farw, ac y mae yn gorwedd yn mynwent Godrerhos gyda'r dorf sydd yno yn tawel huno. Yn ganlynol daeth y Parch. John Davies, Llansamlet, i weinidogaethu yn eu plith yn achlysurol, a bu gyda hwynt yn llwyddianus, ac yn hynod o heddychol, ac y mae ei enw yn beraidd gan yr hen bobl fyth. Wedi i Mr. Davies ymadael, cafodd Morgan Lewis alwad ganddynt, yr hwn oedd yn byw yn yr ardal, ac yn bregethwr bywiog a selog anarferol. Yr oedd Mr. Lewis wedi dechreu ei yrfa grefyddol yn y Creinant, gyda'r Methodistiaid, fel nad oedd yn aelod yn Nghodrerhos, er ei fod yn byw yn ngolwg y lle. Urddwyd ef yno, a bu yn llafurus a llwyddianus anarferol; cafodd alwad i Tŷ'nycoed, ac adeiladwyd Hermon, fel yr oedd cylch ei lafur yn fawr iawn; rhyw fodd neu gilydd, gadawodd Mr. Lewis, Godrerhos, a llafuriodd yn Tŷ'nycoed a Hermon yn unig. Ar ol ymadawiad Mr. Lewis, daeth Mr. Wm. Williams, Newton Nottage, i fod iddynt yn weinidog achlysurol, bu gyda hwynt am ysbaid pum' mlynedd, a meddyliodd fod y ffordd yn nes a hawddach trwy y dwfr na thros y tir i'r nef, ac felly aeth at y Bedyddwyr. Wedi hyn, yr oedd y ddiadell fechan heb neb eilwaith. Cafodd y Parch. Thos. Edwards, Castellnedd, alwad ganddynt, ac atebodd hi; bu yn diwyd lafurio yn eu plith am flynyddau, hyd nes iddo ef a'i deulu symud i America, lle y terfynodd ei oes. Eilwaith aeth y pulpud yn wag, a daeth eu cymydog nesaf, sef y Parch. James Williams, Tŷ'nycoed, i'w cynorthwyo, a bu yn ddiwyd, llafurus, a pharchus iawn, yn gofalu am danynt am rai blynyddau. Wedi hyn, rhoisant alwad i'r Parch. Dl. Griffiths, Castellnedd, yr hwn a gymerodd eu gofal, a lledaenodd ei ddefnyddioldeb a'i lafur trwy yr ardaloedd, casglodd y bobl yn lluoedd, derbyniwyd amryw, adeiladwyd gallery newydd, a gwnawd eisteddleoedd newyddion; ac hyderir i lawer gael calonau newyddion. Ond yn nghanol y gwres, y cariad, a'r anwyldeb, bu farw Ebrill 1af, 1846, claddwyd ef yn Zoar, Castellnedd. Bellach, mae eglwys Godrerhos heb un bugail arni etto, ond wele yr Arglwydd yn tueddu eu calonau at y brawd Henry Rees, aelod o Lanelli, swydd Gaerfyrddin, yr hwn a urddwyd Mawrth 9fed a'r 10fed, (gwel Diwygiwr, Ebrill, 1847,) i fod yn weinidog iddynt mewn cysylltiad a'r Ystrad. Bydded bendith bryniau tragwyddoldeb i aros arnynt, ac a'r un ffyddlondeb a ddangosasant trwy yr oesau, y caffont dreulio eu hoes i ben; ac arosed ei fwya ef, sef fy mrawd Rees, yn gryf, a nerther ei ddwylaw ef trwy ddwylaw grymus Duw Jacob-eled y bychan yn fil, a'r wael yn genedl gref, a phresured ei pherchen hyny yn ei amser. Wedi dilyn hanes crefydd yn Nghodrerhos, gallwn nodi rhai pethau hynod am yr eglwys hon. Nid y lleiaf o ran defnyddioldeb, yn gystal ag oedran, yw hon; mae yn fam i'r achos yn yr Alltwen, ac yn Nglynnedd, ac mae amryw o'i haelodau wedi cynorthwyo i ffurfio achos yr Onllwyn, er fod y merched, feallai, yn dalach na'u mam, mae yn digwydd felly yn aml. Mae yn hynod o ran breintiau, cafodd y fraint o fagu amryw bregethwyr, ac mae rhai o honynt yn weinidogion defnyddiol. Yn Nghodrerhos y ganwyd ac y magwyd y Parch. Joshua Evans, Cymer; John Thomas, Carbondale, America; Henry Davies, Town Missionary, Liverpool, ac eraill hefyd. Mae eglwys Godrerhos trwy yr holl gyfnewidiadau-gweinidogion yn marw, symud, a dewis rhai newydd, nid oes dim
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/178
Gwedd