Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd hefyd yn feddyg tra medrus a llwyddianus, yn enwedig i osod esgyrn a chymalau yn eu lle. Bu un o'i feibion hefyd yn dra llwyddianus fel meddyg esgyrn, ac felly etto y mae mab hwnw, sef Mr. John Williams, Aberdar.

MORGAN LEWIS. Gweler hanes Glynnedd.

WILLIAM WILLIAMS. Bu ef am ryw gymaint o amser yn y Drefnewydd cyn dyfod i Odrerhos. Tybiem mai yn y flwyddyn 1811, ar ymadawiad Mr. Morgan Lewis, y dechreuodd ei weinidogaeth yma. Yn 1816, symudodd i Philadelphia, gerllaw Caerfyrddin, ac ni bu yno yn hir cyn i anghydfod gyfodi rhyngddo a'r eglwys. Yna trodd at y Bedyddwyr a bu am lawer o flynyddau yn weinidog gyda'r enwad hwnw yn Melin-Evanddu, Morganwg, lle y bu farw rai blynyddau yn ol.

THOMAS EDWARDS. Dywed Mr. Griffiths, o'r Alltwen, mai un genedigol ardal Caerphili oedd ef, a thybia mai aelod gwreiddiol o'r Groeswen ydoedd. Gwerthwr brethynau (draper) ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu am lawer o flynyddau yn cadw masnachdy helaeth yn Nghastellnedd. Merch Mr. Rees Rees, un o'r Undodiaid a fu yn ceisio troi Mr. Bowen allan o gapel Maesyrhaf, oedd ei wraig, ac yr oedd hithau, fel ei thad, o'r farn Undodaidd. Dywedai ryw dro yn ei thŷ yn nghlyw amryw ddieithriaid y geiriau rhyfygus, "Mae Edwards yn clebran byth a hefyd am ei Grist, ond myfi a af i'r nefoedd tu cefn i'w Grist ef." Bu Mr. Edwards yn gofalu am yr eglwysi yn y Crwys a Rhydymardy am tua saith neu wyth mlynedd, ac ymddengys i'r eglwys yn Nghodrerhos fod dan ei ofal o 1816 hyd tua 1822. Pan ddyrysodd yn ei fasnach bu am ryw faint o amser yn Dowlais, ac wedi hyny yn Nghaerdydd; symudodd o'r lle hwnw i America tua'r flwyddyn 1829. Nid oes genym ddim yn mhellach o'i hanes i'w roddi.

Yr oedd Thomas Edwards yn cael ei gyfrif yn bregethwr o gryn enwogrwydd. Calfiniad uchel ydoedd o ran ei farn. Dywedir iddo fod unwaith dan gerydd mewn cynnadledd gweinidogion am bregethu yr athrawiaeth o gyfiawnhad yr etholedigion er tragwyddoldeb. Yr oedd gan Mr. Davies, o'r Alltwen olwg uchel arna Efe oedd yr un a benodwyd ganddo i bregethu ei bregeth angladdol

YSTRADGYNLAIS.

Er fod yma lawer o drigolion ni chynygiwyd dechreu achos Annibynol yn y lle cyn y flwyddyn 1832. Y rheswm am hyny y mae yn debygol ydoedd fod Tŷ'nycoed o fewn pedair milldir i'r gogledd-ddwyrain i'r lle, Cwmllynfell o fewn tair milldir i'r gogledd-orllewin, Godrerhos tua dwy filldir a haner i'r de, a'r Pantteg tua dwy filldir i'r Gorllewin. Pa fodd bynag, wedi i hen chwaer selog o'r enw Magdalen Thomas, neu "Modryb Matti," fel y gelwid hi yn gyffredin, ddyfod i gyfaneddu i'r pentref, ni bu gorphwys iddi nes cael gan ei gweinidog, Mr. Williams, Tŷ'nycoed, a rhai o aelodau ei eglwys i gydweithredu a hi i gychwyn achos yn y lle. Yn nhy Modryb Matti yn Rhestr Canol y dechreuwyd ef yn y flwyddyn rag-grybwylledig. Yr oedd yr hen santes hon yn un o ragorolion y ddaear. Hen wraig o'r hen ffasiwn ydoedd, a'r gair garwaf yn gyntaf ganddi. Ni welai unrhyw draul na thrafferth yn ormod i fyned trwyddynt er mwyn achos ei Duw. Yr oedd yn hynod am ei charedigrwydd i bob Cristion, yn