iau, ac aeth y lle yn rhy beryglus i ddynion ddyfod iddo. Apeliwyd at berchenogion y gwaith am wneyd y golled i fyny, ond ni chafwyd yr un geiniog ganddynt, a chan fod amryw o'r gynnulleidfa yn gweithio danynt, nid aed i lys cyfraith i'w gorfodi i wneyd yr hyn oedd gyfiawn. Bu raid yn wyneb hyn edrych allan am le i adeiladu capel newydd. Cafwyd man cyfleus, ac adeiladwyd y tŷ prydferth presenol gan Mr. Thomas Morgans, Cwmgiedd, dan arolygiad Mr. Thomas, Glandwr. Pregethwyd ar y gareg sylfaen ar brydnawn Sabboth, Mai 6ed, 1860, oddiwrth 2 Bren. vi. 17., gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Gorphenwyd y capel ac agorwyd ef Aw 1leg a'r 12fed, 1861, pryd y pregethodd Meistri H. Hughes, (Tegai), E. Roberts, Cwmafan; D. Williams, Troedrhiwdalar; D. Rees, Llanelli; D. Henry, Penygroes, a J. Williams, Castellnewydd. Costiodd y tŷ hwn un-cant-ar-bymtheg o bunau. Yn fuan wedi dechreu adeiladu y capel, cyfododd cwmwl du dros yr holl ardal trwy i waith haiarn Ynyscedwyn sefyll, ac ni bu nemawr o drefn arno am saith mlynedd ar ol hyny. Gan mai ar y gwaith hwn yr ymddibynai y rhan fwyaf o drigolion yr ardal am eu cynaliaeth, gwasgarwyd lluaws o weithwyr o'r gymydogaeth wedi iddo sefyll, ac felly lleihawyd eglwys a chynnulleidfa Sardis yn ddirfawr pan yr oeddynt dan faich o un-cant-ar-bymtheg o ddyled. Mae yn rhyfedd na buasai yr amgylchiad adfydus yn llwyr ladd yr achos; ond er syndod i bawb, cadwodd ei ben uwchlaw y dwfr trwy y cwbl. Nid yn unig talwyd llog y ddyled ar yr amser adfydus hwn, ond hefyd talwyd tua phum' cant o'r ddyled. Yn awr, pan y mae y gweithiau yn adfywio, a'r boblogaeth yn cynyddu yn gyflym, mae yma olwg obeithiol iawn ar bethau, a phob tebygolrwydd y bydd y ddyled oll wedi llwyr ddiflanu mewn ychydig flynyddau, canys y mae gan y bobl galon i weithio.
Fel y nodasom yn barod, rhoddodd Mr. H. Rees yr eglwys i fyny yn Mai, 1869, a'r ei ymfudiad i'r America. O'r pryd hwnw buwyd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd yr ail Sabboth o Chwefror, 1871, pryd y dechreuodd Mr. R. W. Roberts, Pentrefoelas ei weinidogaeth yma. Mae Mr. Roberts yn argoeli bod yn dderbyniol a defnyddiol iawn yn y lle, a chan fod y gweithiau haiarn a glô yn eangu yn gyflym, bydd nifer y boblogaeth wedi dyblu neu dreblu cyn pen dwy flynedd, ac felly mae pob lle i ddisgwyl y bydd yma yn fuan un o'r eglwysi lluosocaf a chryfaf yn yr holl ddyffryn.
Dau bregethwr a gyfodwyd yn yr eglwys hon o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol, sef Daniel Morgans, yr hwn sydd wedi ymuno a'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn bregethwr cynorthwyol yn eu mysg hwy, a David G. Morgans, gweinidog yr eglwys Gymreig yn Stockton-on-Tees. Yr oedd ef wedi dechreu pregethu yn y cyfeillachau yma cyn ei symudiad i'r Glais, ond yno y dechreuodd arfer ei ddawn yn gyhoeddus.[1]
PANTTEG.

Yn y Diwygiwr am 1848, tu dal. 15, y mae hanes lled gyflawn am yr eglwys hon wedi ymddangos. Ysgrifenwyd ef gan Mr. P. Griffiths, Alltwen, yr hwn oedd mewn gwell cyfle i wneyd hyny na neb sydd yn fyw; ac yr ydyw yn rhoddi yr hyn a ysgrifenwyd ganddo ef yn llawn yma.
- ↑ Llythyr Mr Thomas Hopkins