"Mae'r Pantteg yn sefyll ar yml y ffordd fawr yn Nghwmtawe, 12 milldir o Abertawy, yn mhlwyf Llangiwc, sir Forganwg. Yr oedd yn yr ardal hon dy bychan wedi ei adeiladu gan drigolion yr ardal, at gadw ysgol ddyddiol; ac wedi cael lle at hyny gan y parchus F. Gough, Ynysgedwyn, am ddim, tra fyddai dwfr yn rhedeg yn afon Tawe. Yr oedd amryw o bobl grefyddol yn byw yn yr ardaloedd yma, rhai o'r Alltwen, Godre'rhos, a Chwmllynfell; ac yr oeddynt yn cadw cyfarfodydd gweddio ar nosweithiau o'r wythnos, a phrydnawnau Sabbothau—a phregethu achlysurol yn Penpont-yr-ystrad, Glan'rhyd, Ystalyfera Uchaf, &c., ond nid oedd un achos wedi ei sefydlu. Cododd ysgol Sabothol yn yr ardal, a chafodd hon ei chynal hen ysgoldy. Yn ymal yn yr y cyfamser, (hyny yw tua 1818), daeth y diweddar Barch. Daniel Griffiths, bryd hwnw o Felinycwrt, yn ddyn ieuangc dawnus a hwylus, i bregethu yn achlysurol i'r ardal, a chymhellwyd ef i dd'od yn fisol. Adnewyddodd yr ysgol, lluosogodd y gwrandawyr, ac aeth yr ysgoldy, a holl dai yr ardal, yn rhy fychain i gynwys y gwrandawyr; byddem yn gorfod bod allan—ac allan y bu'r ysgrifenydd agos bob tro cyn cael addoldy. Oddiar yr arwyddion yma o lwyddiant, meddyliwyd, siaradwyd, ac ymgynghorwyd am ryw le mwy cyfleus ac eangach er cynal addoliad, a hyny yn achlysurol; a daethant i benderfyniad i fynu tŷ er addoli. Yr oedd Mr. John Jones, Fountain Hall, goruchwyliwr ar gannal Cwmtawe (aelod o Gastellnedd), yn trigianu yn yr ardal, ac yn ddyn gwybodus iawn o amgylchiadau adeiladu, &c. Ymgynghorasant ag ef am y mater, ac aeth drostynt at Mr. F. Gough, Ynysgedwyn, a chafodd ddarn mawr o dir at adeiladu, mewn lle cyfleus ar yml y ffordd fawr ar gommon Alltgrug, yn y Graigarw, heb fod yn mhell oddiwrth yr hen ysgoldy; a rhoddodd y boneddwr uchod lease ar y lle, dros 999 o flynyddau, am chwe cheiniog yn y flwyddyn, os deuent i'w cheisio. Felly, trosglwyddwyd y lle i ofal ymddiriedolwyr, sef Meistriaid Jones, Fountain Hall; Thomas Harper, Pontardawe Cottage; Thomas Morgans, Penlanfach; Evan Evans, Gilfachyrhaidd; Rees Prise, Ystalyferra isaf; Hezekiah Evans, Gwrid, a W. Evans, Cwmnantllieu. Wedi cael y lle yn sicr, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu; a bu yma ymdrech nid bychan i gael y defnyddiau at eu gilydd, cludwyd ato nos a dydd, a buwyd wrth oleuni y ser yn cludo meini a phethau eraill at y deml hon. Tanysgrifiwyd ato, a chasglwyd gan yr aelodau trwy amryw ardaloedd, ac heb gymorth neb gweinidogion na phregethwyr; oblegid yr oedd y Parch. John Davies, Alltwen, yn barnu nad oedd dim o'i eisiau, y gallasent gerdded 4 milldir i'r Alltwen, a rhywbeth tebyg i Gwmllynfell a Godre'rhos; ac o barch i henaint Mr. Davies, yr oedd pawb yn sefyll draw; ond er y cwbl aeth y bobl yn mlaen, a gorphenwyd y tŷ yn hardd a phrydferth. Y mae yn mesur drosto 35 wrth 28 o droedfeddi, 20 o uchder, ac oriel helaeth ynddo. Rhoddwyd corau ynddo, ac anrhegwyd ef ag awrlais ardderchog gan Mr. Jones, Fountain Hall. Er fod yn yr ardal amryw grefyddwyr o wahanol fanau, eto nid oedd pawb yn cydymdrechu o blaid y tŷ newydd. Pobl Cwmllynfell oedd yn gofalu fwyaf, ac nid oeddynt hwythau oll. Y rhai a roddodd eu hysgwyddau dano, ac oedd a chalon i weithio, oedd y rhai canlynol: -Evan Evans, Gilfachyrhaidd; Rees Prise, Ystalyferra, ac Ann ei wraig; Mary Morgan, Penlanfach; W. Hopkin, henaf, Caregpentwyn, a Mary ei wraig; William Hopkin, ieuengaf, ac Ann ei wraig; Joseph Jones, a'i wraig; John Rees Thomas; Susannah Gibbs; Ann Hopkins, Pantyffynon; W. John, Cwmtawe, a
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/183
Gwedd