Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mary ei wraig; ac Ann Morgan, Cilmangwyn. Yr 16eg yma o Gwmllynfell oedd y gwroniaid a wynebodd ar y gwaith mawr o adeiladu tŷ i Arglwydd y lluoedd, ynghyd a Robert Todd o Godre'rhos, a'i wraig; Mr. John Jones, Castellnedd, a'r rhan fwyaf o bobl ddigrefydd yr ardal. Aeth y brawd Evan Evans i Abergwili, er cael trwydded (license) i bregethu ynddo-felly y daeth teml i Dduw yn yr ardal yma. Costiodd yr adeilad hardd a chadarn yma rhwng tri a phedwar cant o bunau; a chasglodd y bobl ffyddlon yma hwynt oll oddigerth rhyw £120, a gasglodd yr ysgrifenydd. Yn Mai 1821, agorwyd yr addoldy, a daeth amryw weinidogion yn nghyd, ac yn eu plith Mr. Davies, Alltwen; ac ar derfyn yr addoliad, cododd i fynu a dywedodd, mai PANTTEG a fyddai enw yr addoldy o hyny allan. Boddlonodd y bobl i hyny o enau henaint, er fod ei groesineb ef i'r lle wedi bod yn aflwydd mawr iddynt. Ni phregethodd ef erioed ynddo, dim ond ei enwi a wnaeth yn ei agoriad. Wedi hyny daeth amryw i alw heibio, ac yr oedd y Methodistiaid yn galw mor aml agos a neb. Yr oedd torf yn d'od i wrando, eto heb un eglwys wedi ei ffurfio. Rhagfyr 1821, bu farw Mr. Davies, Alltwen; thua dechreu y flwyddyn ganlynol, daeth gwasgfa ar feddwl amryw o blant yr ysgol am eu cyflyrau. Annogwyd hwynt i gymeryd eu haelodi yn Nghwmllynfell, lle yr oedd yr hen bobl yn aelodau, ond pallodd y bobl ieuainc, gan ddywedyd mai yno oedd eu lle hwynt, ac mai yno oedd raid eu derbyn; y canlyniad fu iddynt gymhell y Parch. T. Edwards, o Godre'rhos, a'r Parch. James Williams, Tynycoed, i dd'od yno er corffoli eglwys, a derbyn y bobl, 11eg o rifedi, ar yr 16eg, ar y 29ain o Fawrth, 1822. Y misoedd canlynol daeth amryw eraill. Yn mis Mai daeth yr ysgrifenydd o'r Neuaddlwyd, heb fod yn gwbl iach, i dreulio ychydig wythnosau yn yr ardal, a daeth amryw eraill at yr achos yn ysbaid yr haf hwnw. Hydref yr 2il, 1822, rhoddasant alwad unfrydol i'r ysgrifenydd. Yr oeddynt erbyn hyn yn 89, ac yn grefyddwyr ieuainc oll ond 16eg. Wedi hyn aeth pethau rhagddynt yn gysurus, a gorphenwyd talu y ddyled.

Ar y 17eg o Fai, 1824, bu farw un o'r aelodau, o'r enw John Evans, Craigarw, a dymunodd gael ei gladdu wrth y Pantteg, er nad oedd yno un fynwent wedi ei chau i fynu, ond lle garw cerygog, ag oedd ryw amser wedi llithro bendramwnwgl yn bridd ac yn geryg fel coffrau mawrion. Beth bynag, claddwyd ef y tu dwyreiniol i'r tŷ addoliad, a chladdwyd eraill yn fuan o du'r gorllewin i'r addoldy. Wrth weled y lle mor ddiffaeth o arw, a sel y bobl am orwedd wrth yr addoldy, penderfynodd yr ysgrifenydd ac eraill, os oedd modd, i wneyd lle addas i roi y meirw i orwedd; felly digaregwyd y tir saith troedfedd o ddyfnder, a rhoddwyd gwal yn y ddaear mor isel a gwaelod y fynwent, 7 troedfedd dan wyneb y tir, a muriwyd o amgylch y lle claddu oll. Costiodd hyn i'r gynnulleidfa dros £35. Symudwyd y brawd John Evans i'r fynwent. Mae'r beddau wedi eu trefnu yn rhesau union o'r naill ochr i'r llall, ac y mae yn gorwedd yno rhwng dau a thri chant o feirwon wedi peidio a'u cyffro. Yn fuan ar ol hyn aeth traul arall ar yr eglwys, sef adeiladu dau dŷ annedd wrth dalcen yr addoldy, er diddosi talcen y tŷ, yr hwn oedd yn gollwng dwfr—costiodd hyn gryn swm o arian. Ar ol hyn adeiladwyd ysgoldy, tŷ i'r ysgol feistr, ac ystabl, ar gwr eithaf tir yr eglwys. Wedi hyny ychwanegwyd dau room at dy yr ysgolfeistr, ac fe aeth at y cwbl amryw ugeiniau o bunau. Yn ysbaid y blynyddau yma, bu yr Arglwydd yn dda wrth ei achos yn y Pantteg, er i amryw farw a symud, eto cynyddodd yr