Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglwys i ganoedd, a meddyliwyd am gymuno ar y gallery—helaethwyd peth ar hono, gan fwriadu helaethu y ty. Wedi hir siarad ac ymgynghori, daethom i benderfyniad i adeiladu ty newydd, a gadael yr hen i sefyll er cynal addoliad, a'i droi at ddybenion eraill wedi hyny.

Yn y flwyddyn 1841, adeiladwyd ty eang, hardd, a chadarn, yn mesur 52 wrth 36 o droedfeddi drosto. Mae iddo oriel helaeth, 61 o gorau ar y llawr, 2 ddrws, a 14 o ffenestri. Costiodd yr adeilad hwn ynghyd a'r mur a'r palisade sydd o'i flaen, yn agos i £600, y rhai a gasglwyd oll yn ol ystyr flaenaf yr Egwyddor Wirfoddol; oblegid ni fuwyd gymaint a cherdded yr ardal-dim ond siarad o'r pwlpud a thano—ni orfodwyd neb mewn dim, ond rhydd ac ewyllysgar offrymau i'r Arglwydd. Talwyd yr holl draul mewn ysbaid chwech mlynedd, ac y mae heddyw yn rhydd, heb geiniog o ddyled du arno.

Yn 1846, rhoddwyd llofft ar yr hen addoldy er cadw ysgol ynddo, ac mae wedi ei gyfleu yn ysgoldy eang ac ardderchog heddyw, ac un Mr. Williams, o Ysgol Normalaidd Aberhonddu, yn addysgu o gylch cant o blant yn ngwahanol ranau dysgeidiaeth. Mae'r Ysgol Frytanaidd yma yn gwbl yn llaw eglwys y Pantteg, heb un blaid arall yn cynorthwyo, na dim grant gan neb iddi. Mae iddi drysorydd, ysgrifenydd, a phwyllgor o aelodau y Pantteg, ac eiddo yr eglwys yw y llyfrau oll. Mae llawr yr hen addoldy wedi ei wneyd yn dy annedd y naill ran, a'r rhan arall yn lle hardd, lle yr ymgynull cymdeithas y bobl ieuainc i ddarllen; mae ganddynt lyfr-gell wych at eu gwasanaeth, ac yno yr ymgynullant yn nosweithiol i'w reading-room. Mae yr hen ysgoldy a'r ystabl wedi eu troi yn dai annedd, ac felly mae traul o amryw ugeiniau o bunau wedi myned at bob peth yn ysbaid y saith mlynedd ar hugain diweddaf, eto nid oes neb yn grwgnach. Gallwn weled fod achos Duw yn y lle uchod wedi cael ei roddi ar y fath sefyllfa, ac yn y fath fodd, ag y gellir dysgwyl llwyddiant arno yn y blynyddau dyfodol—"Ond os yr Arglwydd nid adeilada y ty, ofer y llafuria ei adeiladwyr;" ac nid adeilada'r Arglwydd 'mo hono, os na lafuria ei adeiladwyr hefyd.

O barth i eglwys y Pantteg, nid yw o oedran ag y gall fod wedi enwogi ei hun ag amryw hynodion; er hyny, y mae wedi cael y fraint o roesawi y gymanfa bedair-sirol, ac amryw gyfarfodydd mawrion eraill; mae wedi cael yr enw mawr o fod yn cadw undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd; mae gyda'r blaenaf o ran ei llais o blaid santeiddio dydd Duw, ac o blaid Dirwest, ac y mae y rhan fwyaf o'i blaenoriaid yn Ddirwestwyr da; ac mae ynddi lawer o ymdrech gyda'r canu cerddgar a soniarus. Rhenir llafur yr eglwys i bedwar dosbarth er cynal cyfarfodydd gweddio, ysgolion Sabothol, a chyfeillachau crefyddol.

Dymunaf i Haul mawr y Cyfiawnder drigo uwchben y lle hwn hyd nes y machludo haul y byd yma, a bendith bryniau tragywyddoldeb a ddisgyno ar y rhai fyddo yn addoli yma hyd nes cael llwch ac esgyrn fy anwyl ffryndiau o'r gladdfa, ac yna rhoed ef y lle i dân, os hyny fydd da yn ei olwg."

Ymddengys oddiwrth yr hanes blaenorol, mai yn hytrach yn groes i feddwl Mr. Davies o'r Alltwen yr adeiladwyd capel y Pantteg. Yr oedd gwrthwynebiad i helaethu terfynau yr achos yn cael ei ddangos gan y rhan fwyaf o hen weinidogion yr oesau o'r blaen, am y tybient, fel y mae lle i gasglu, fod cerdded ffordd bell i le o addoliad yn brawf nodedig o rym cariad a sel grefyddol.