Yn y flwyddyn 1849, bu ychwanegiad dirfawr at yr eglwys hon. Derbyniodd Mr. Griffiths, ar un boreu Sabboth, 209 trwy ddeheulaw cymdeithas i gymundeb eglwysig. Derbyniwyd yma drachefn amryw ugeiniau yn 1867. Yn y flwyddyn 1865, cafodd y capel ei adeiladu y drydedd waith dan arolygiad Mr. John Morgan, Penlanfach, un o'r diaconiaid. Nid oedd y draul, o herwydd gofal a gwybodaeth Mr. Morgan, ond 700p., ond y mae y capel mor eang a hardd a'r capeli y telir yn gyffredin 1200p. am danynt. Cynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad Medi 24ain a'r 25ain, 1865, pryd y pregethodd Meistri D. Davies, New Inn; W. Morgan, Maesteg; T. Rees, D.D., Abertawy; H. Oliver, B.A., Pontypridd; D. Price, Aberdar; W. Jones, Abertawy; J. Roberts, Castellnedd, ac eraill. Talwyd dros haner y draul cyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad, ac y mae y gweddill wedi eu talu er's amser bellach. Yn niwedd y flwyddyn 1866, rhoddodd Mr. Griffiths, o'r Alltwen ofal yr eglwys hon i fyny, ar ol bod yn weinidog iddi am bedair-blynedd-a-deugain. Helaethrwydd dirfawr maes ei lafur, ei henaint, a'r ystyriaeth fod y Pantteg bellach yn ddigon galluog i gynal gweinidog ei hun, a barodd iddo ddyfod i'r penderfyniad hwn. Yn haf y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. John Jenkins, Treffynon, yr hwn a fu yma hyd ddiwedd 1868, pryd y symudodd i gapel Seion, Abertawy. Yn niwedd y flwyddyn 1870, rhoddwyd galwad i Mr. R. Trefor Jones, Meifod, Maldwyn, y gweinidog presenol. Cynaliwyd cyfarfod ei sefydliad Chwefror 22ain a'r 23ain, 1871, pryd y pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. B. Williams, Canaan; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan yr hen weinidog, Mr. Griffiths, o'r Alltwen; pregethodd Dr. Rees, Abertawy, siars i'r gweinidog, a Mr. Johns, Llanelli, siars i'r eglwys.
Y pregethwyr a godwyd yn yr eglwys hon ydynt,—Benjamin Thomas, gweinidog yr eglwys yn y Gurnos. Thomas Evans, Talgarth, a John Clee, gwr ieuangc gobeithiol iawn, yr hwn a fu farw ar gychwyniad ei fywyd cyhoeddus.
BETHEL, CWMAMAN.
Mae y capel hwn yn mhlwyf Llandilo, yn swydd Caerfyrddin, ond yn nghyfundeb eglwysi Morganwg y mae yr eglwys wedi bod bob amser. Mae yn ymddangos fod achos crefyddol wedi cael ei ddechreu yma tua chanol y ganrif ddiweddaf, gan yr Annibynwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd yn nghyd, ond ni chafodd capel ei adeiladu yma cyn y flwyddyn 1773. Yr oedd y ddau enwad yn cydweithredu hyd y pryd hwnw, ond mae yn ymddangos i'r Methodistiaid ymneillduo oddiwrth yr Annibynwyr tua yr amser yr adeiladwyd y capel, neu yn dra buan ar ol hyny, oblegid yn y flwyddyn 1774, anfonodd Mr. Evan Griffiths, capel Seion, enwau a rhif yr eglwysi Annibynol yn sir Gaerfyrddin i Lundain, ac y mae eglwys Cwmaman yn cael ei henwi ganddo fel eglwys Annibynol, a'r gynnulleidfa yn gant a haner o rifedi. Wedi i'r Methodistiaid ymwahanu oddiwrth yr Annibynwyr, buont am ychydig amser yn addoli yn yr Hendrefawr, tua haner milldir i'r dwyrain o gapel Cwmaman, ac wedi hyny yn Glynymeirch, tua dwy filldir i'r gorllewin; ond aeth eu hachos hwy yn lled fuan yn yr ardal hon yn wan a dilewyrch, ac felly y parhaodd hyd y flwyddyn 1840, pryd y daeth aelodau o fanau eraill i'r ardal gydag agoriad y gweithiau glo. Dywedir yn Hanes Methodistiaeth, Cyf. II.. tu dal. 480, mai