yr achos o ymwahaniad y ddau enwad oedd i'r Annibynwyr, o herwydd eu bod lawer yn lluosocach, un boreu Sabboth, gloi y capel yn erbyn un Mr. Jones, o Llanllian; ond mae yn dra thebyg mai yr achos o hyny ydoedd fod dadl wedi cyfodi rhyngddynt yn nghylch perchenogaeth y capel.
Mr. William Evans, Cwmllynfell, yn nghyda rhai o bregethwyr y Methodistiaid fu yn offerynol i ddechreu yr achos yn y lle hwn. Nid yw yn hysbys pa un a ffurfiwyd yma eglwys cyn adeiladu y capel ai naddo. Pan ymsefydlodd Mr. John Davies yn weinidog yn Nghwmllynfell a'r Alltwen, efe a gymerodd ofal yr achos hwn, mewn cysylltiad a'r eglwysi hyny, a bu yn gofalu am dano hyd derfyn ei oes yn 1821. Yr oedd ei barch a'i ddylanwad yn yr eglwys hon, fel yn ei eglwysi eraill, yn ddirfawr. Ni fynai y bobl dan ei ofal gredu fod un gweinidog rhagorach nag ef ar y ddaear. Edrychid i fyny atto gan hen ac ieuangc, crefyddol a digrefydd, fel cenad Arglwydd y lluoedd.
Wedi marwolaeth Mr. Davies, sef yn y flwyddyn 1822, rhoddodd yr eglwysi 'yn Nghwmllynfell a Chwmaman, alwad i Mr. John Rowlands, Llanybri, a bu yntau yn llafurio yn eu plith gyda llwyddiant a pharch anghyffredin am ddeuddeng mlynedd. Erbyn y flwyddyn 1825, yr oedd ei ddoniau poblogaidd wedi gorlenwi y capel, fel y bu raid ei helaethu i'w faintioli presenol. Cafodd ar ol hyny ei adgyweirio a'i brydferthu. Ar farwolaeth Mr. John Davies, rhanwyd maes eang ei weinidogaeth yn ddau. Dewiswyd Mr. Rowlands gan y cynnulleidfaoedd yn Nghwmllynfell a Chwmaman, a Mr. Griffiths gan bobl yr Alltwen, y Pantteg, a Charmel. Yr un modd ar farwolaeth Mr. Rowlands, rhanwyd maes ei lafur yntau. Dewisodd pobl Cwmllynfell Mr. R. Pryse, a phobl Cwmaman Mr. John Davies, eu gweinidog presenol, yr hwn a symudodd yma o Benygraig, lle yr urddwyd ef ddydd Llun y Pasg, 1829, ac yn mis Mawrth, 1835, symudodd oddiyno i Gwmaman, lle y mae wedi bod yn llafurio bellach am ddwy-flynedd-ar-bymtheg-ar-hugain. Yr oedd capel Cwmaman pan yr adeiladwyd ef mewn man canolog iawn o'r gymydogaeth, ond wedi adeiladu llawer o dai, mewn cysylltiad a'r gweithfaoedd, mewn un ran o'r ardal, mae yr addoldy yn bresenol yn lled anghyfleus i fwyafrif y boblogaeth. Yn wyneb hyny, penderfynodd yr eglwys tua saith mlynedd yn ol, adeiladu ysgoldy eang yn y rhan fwyaf poblog o'r ardal, ac yno y cynelir y gwasanaeth bob nos Sabboth, a'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd wythnosol.
Pa ddiffygion bynag a ddichon fod yn perthyn i eglwys Cwmaman, nid oes un eglwys yn Nghymru wedi rhagori arni mewn dau beth, sef ei hysbryd heddychol, a'i hymlyniad wrth ei gweinidogion. Nid oes yma ond tri gweinidog wedi bod er's mwy na chan mlynedd, ac y mae y trydydd, fel ei ddau ragflaenor, yn debyg o aros yma nes y symudir ef gan angau.
Eglwys nodedig am fagu pregethwyr yw hon, fel y dengys y rhestr ganlynol :
Herbert Herbert. Derbyniwyd ef yn aelod a dechreuodd bregethu yma yn amser Mr. Davies, o'r Alltwen. Rhoddwn ei gofiant ef yn nglyn a hanes y Drefnewydd, lle y bu yn llafurio am y rhan ddiweddaf o'i oes. William Hopkins. Dan weinidogaeth Mr. Rowlands y dechreuodd ef bregethu. Gyda hanes Cwmrhos a Thretwr y rhoddir ei gofiant. Thomas Williams. Gweler hanes Mount Pleasant, Pontypool. Thomas Edwards. Ymfudodd i America yn 1834, a bu am flynyddau lawer yn weinidog vn Pittsburgh a Cincinatti.