Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William Edwards. Yn amser Mr. Davies, y gweinidog presenol, y dechreuodd ef bregethu. Mae wedi ymfudo i'r America, ac yn weinidog yno yn awr.

David Davies, oedd ŵr ieuangc gobeithiol iawn. Pan yn yr athrofa yn Aberhonddu, torodd un o'i waed-lestri, fel y bu raid iddo ddychwelyd adref. Wedi nychu am rai misoedd, torodd ei waed yn ddisymwth drachefn pan yn sefyll yn nrws y tŷ. Ymaflodd ei fam ynddo pan welodd ei waed yn rhedeg, a bu farw rhwng ei breichiau Chwefror 8fed, 1854.

Jonathan Jones. Ar ol bod am dymor yn derbyn addysg dan arolygiad ei weinidog, derbyniwyd ef i athrofa Aberhonddu. Bu farw cyn i'w dymor yno ddyfod i ben. Claddwyd ef wrth gapel Cwmaman Ionawr 20fed, 1857. Yr oedd yn un gafaelgar iawn ei gof, ac yn draddodwr hwylus. Daniel Jones. Yr oedd yn ddyn ieuangc talentog. Pan yn yr athrofa yn Nghaerfyrddin, ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, fel y bu raid iddo ddychwelyd adref i farw.

William Thomas. Dechreuodd bregethu yn ieuangc iawn, ac yr oedd bychander ei gorph, ei ieuengctyd, a'i ddoniau diail, yn tynu canoedd i'w wrandaw. Yr oedd yn ŵr ieuangc o fuchedd a galluoedd rhagorol. Bu am ychydig yn yr ysgol gyda Dr. Davies, Abertawy, ond gorfodwyd ef gan gystudd i ddychwelyd adref, lle y bu farw yn yr Arglwydd Awst 8fed, 1864.

W. I. Morris. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac y mae yn awr yn Sardis, Pontypridd.

John Evans. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Caerfyrddin, ac y mae yn awr yn Nghwmaman, Aberdar.

Mae yn bresenol ddau bregethwr cynorthwyol yma, sef John Williams, a William Jones.

Yr oedd llawer o gymeriadau hynod a rhagorol iawn yn perthyn i gynnulleidfa Cwmaman yn y dyddiau gynt:—dynion tra doniol a thalentog, a rhai o honynt yn brydyddion rhagorol. Yn mysg y rhai gellid enwi Thomas William Edward, tad Mr. Thomas Edwards, Cincinatti. Ganwyd ef yn 1754, a bu farw yn 1806. Mae ei gorph yn gorphwys wrth gapel Cwmaman. Magodd blant rhagorol, ac y mae crefydd yn parhau i aros yn mysg ei hiliogaeth. Dywedir ei fod yn brydydd parod iawn. Un nodedig arall oedd Thomas o'r Gors, yr hwn a anwyd yn 1742, ac a fu farw yn 1838, yn agos i gan' mlwydd oed. Meddai yntau y ddawn brydyddol i raddau helaeth. Wrth wrandaw pregeth yn Nghwmllynfell ar Arch Noah, cyfansoddodd y penill canlynol, a rhoddodd ef allan ar ddiwedd y bregeth:

"Pa beth oedd Arch hen Noah, at arch ein Iesu glan,
Fe geidw hon eneidiau, rhag myn'd i uffern dân;
Wyth gadwyd yn Arch Noah, bydd cof am hyny byth,
Fe geidw'r arch ysbrydol fyrddiynau rif y gwlith.'


Dro arall, mewn cyfarfod gweddi yn Llwynhen, pan yr oedd gwr y ty yn glaf, cyfansoddodd y penill canlynol:

"Mae'r babell rwy' ynddi mor wan,
Sigledig rwy'n teimlo ei bod,
O Iesu gad i mi gael rhan
Mewn pabell na siglwyd erioed;
Llinynau hon yma a dyr,
Mae'r hoelion yn llacio bob dydd,
Ac yna fe'm rhoddir ar fyr
I orwedd mewn gwely o bridd."