Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymddengys mai ei gân ar Dduwdod ac Aberth Crist, yr hon a gyfansoddodd i wrthwynebu y Dwyfundodiaid, fel ei gelwid hwynt, yw y ragoraf o'i eiddo; ac y mae yn gyfansoddiad rhagorol fel y dengys y difyniadau a ganlyn:

"Rhyw fyrdd a mwy na hyny, 'does neb all ddyweyd pa faint,
Yw haeddiant Crist yn drymach na phechod pawb o'r saint;
Pe buasai yn yr arfaeth i fyn'd i uffern dân,
Fe olch'sai'r holl gythreuliaid i gyd yn berffaith lan.

Er cwrdd a geiriau newydd i roddi ei glod i ma's,
Ac uno'r holl angylion ac etifeddion gras;
Heb enwi dim ond unpeth ar unwaith yn y gân,
Hyd eithaf tragywyddoldeb, ddaw glod e' byth yn mlaen

Pe b'ai angylion nefoedd bob un yn myn'd yn fil,
Ac ennill rhyw fyrddiynau bob munyd wrth ei sgil,
I roddi ei glod ef allan am farw ar y pren,
Hyd eithaf tragywyddoldeb, ddo'i dim o'r gwaith i ben.

'T'ai sant am bob glaswelltyn sydd ar y ddaear lawr,
A myrdd am bob tywodyn sydd yn y moroedd mawr;
Tafodau gan y rhai'ny fwy na rhifedi'r dail,
Rhy fach i ddyweyd y mawredd sy'n haeddiant Adda'r ail.

'T'ai un o'r côr angylaidd yn d'od o'r nef i lawr,
I rifo llwch y ddaear a gwlith y boren wawr,
Fe allai wneuthur hyny mewn 'chydig iawn o bryd,
Dyweyd haner haeddiant Iesu nis gall y côr i gyd."


Mae yn brofedigaeth i ni fyned yn mlaen, ond byddai hyny yn annghydweddol a'n hamcan; ond gall y neb a ewyllysio weled y gân yn gyflawn yn y Beirniad, Cyf. IV., tu dal. 218.

Y GURNOS.

Saif y capel hwn ar derfyn dwyreiniol plwyf Llanguwg, ac yn ymyl Gorsaf Ystalyfera, ar y Swansea Vale Railway. Yr oedd aelodau perthynol i Gwmllynfell, Godrerhos, a'r Alltwen yn preswylio yn yr ardal hon er's amryw oesau, ac yn arfer cynal cyfarfodydd gweddio o dŷ i dŷ. Pan ffurfiwyd eglwys yn y Pantteg ymunasant a'r achos yno, ond parhasant i gynal cyfarfodydd gweddio yn yr ardal fel o'r blaen, a "Changen y Gurnos" y gelwid hwy gan eglwys y Pantteg. Yn 1839, adeiladodd y Wesleyaid gapel bychan yma, ond ni fu fawr lewyrch ar eu hachos, ac yn 1856, hysbysodd y gynnadledd ei fod ar werth. Pan glywodd eglwys y Pantteg hyny, rhoddasant awdurdod i'w gweinidog, Mr. Griffiths, o'r Alltwen, i'w brynu, a phrynodd ef. Yn 1857, corpholwyd "Cangen y Gurnos" yn eglwys Annibynol. Bu Mr. Griffiths yn gofalu am yr eglwys ieuangc am rai misoedd nes gosod pob peth mewn trefn. Yna anogodd hwynt i edrych allan am weinidog iddynt eu hunain. Penderfynasant yn unfrydol i roddi galwad i'w hen gymydog Mr. Benjamin Thomas, gweinidog yr eglwys Gymreig yn Walker, ger Newcastle-on-Tyne. Cynaliwyd cyfarfod sefydliad Mr. Thomas yma Sul a Llun y Sulgwyn, 1858, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri Rees, Ystrad; Griffiths, Alltwen; Pryse, Cwmllynfell; Jones, Treforis; Davies, Treforis; Lewis,