Abraham Tibbot yma rywbryd wedi y flwyddyn 1792, canys dyna y flwyddyn yr ymadawodd a Llanuwchllyn. Bu Mr. Tibbot yma yn cadw ysgol ddyddiol, ac yn pregethu yn y ty bychan. Mae hen ŵr o'r enw William Hopkin yn aelod yn awr yn Llangynwyd, yr hwn pan yn blentyn a fu yn yr ysgol gyda Mr. Tibbot.[1] Oblegid rhyw gamymddygiad o'i eiddo, bu raid i'r eglwys ddiarddel Rhys Howells, ac o ddial arni am hyny trodd yntau yr achos allan o'r Graigfach, a chauodd y drws yn erbyn yr ysgol ddyddiol. Cymerodd Mr. Tibbot drwydded ar ystafell cymdeithas ddyngarol hen dafarn Llangynwyd. Ni bu Mr. Tibbot yma yn hir, canys dychwelodd i'r gogledd, ac ymsefydlodd yn sir Fon, ac yr oedd yno yn y flwyddyn 1794. Bu yr eglwys yn ymgynnull yn yr ystafell yma hyd nes yr adeiladwyd y capel. Cafwyd tir ar brydles gan Mr. Elias Jenkins, cyfreithiwr, o Gastellnedd. Dyddiad y weithred yw Ionawr 10fed, 1799, a'r ymddiriedolwyr oeddynt, Rowland Griffith, Cwmcerwyn; Evan Jenkins, Cwmtrisant; Griffith Powell, Corwgfechan; Thomas Richard, Rhiwlech, a Morgan Powell, Gilfachganol. Coffeir hefyd am enwau Christopher Thomas, Ty'nyrheol; Joan Powell, Gilfach; Pegi, Cwmdu, a Catherine Mathew, Tanywaun, fel rhai o ffyddloniaid yr achos yma ar y pryd. Agorwyd y capel, yr hwn a alwyd yn Bethesda, cyn diwedd y flwyddyn 1799, yn mesur deg-troedfedd-ar-hugain wrth ddeunaw; ac yn mysg eraill, ar ei agoriad, pregethwyd gan Meistri D. Davies, Sardis, a D. Davies, Abertawy. Bu un Mr. Walter Edwards, yn cyrchu yma i bregethu yn lled gyson wedi ymadawiad Mr. Tibbot, ond nis gwyddom a urddwyd ef a'i peidio. Ymfudodd i America, lle y bu farw cyn hir. Yn y flwyddyn 1800, rhoddwyd galwad i Mr. Methuselah Jones, ac urddwyd ef i fod yn weinidog i'r eglwys yma, ac eglwys y Cymer. Llafuriodd Mr. Jones yma am wyth mlynedd, hyd nes y derbyniodd alwad gan gynnulleidfa fechan yn Merthyr Tydfil, ac y symudodd yno yn y flwyddyn 1808. Yn mhen amser wedi ymadawiad Mr. M. Jones, rhoddwyd galwad i Mr. William Beynon, yr hwn a fu yma dros lawer o flynyddoedd, ond oblegid ryw amgylchiadau darfu ei gysylltiad a'r eglwys tua'r flwyddyn 1828, ac ni bu un eglwys mwyach dan ei ofal, ond ymaelododd yn Brynmenyn dan ofal Mr. W. Jones, Penybont. Yn y flwyddyn 1828, derbyniodd Mr. William Morgan alwad gan yr eglwys, ac urddwyd ef yn mis Mawrth y flwyddyn hono, a bu y lle o dan ei ofal hyd y flwyddyn 1863. Bu yr achos yma yn hynod o isel ar un cyfnod yn ysbaid gweinidogaeth Mr. Morgan. Nid edd yma ar un adeg ond un brawd i weddio yn gyhoeddus, sef John Thomas, Bryncarnau, ond cefnogid ef yn wrol gan nifer o ehwiorydd ffyddlon, y rhai oeddynt yn golofnau yr achos. Mae eu henwau yn werth eu croniclo-Jannet Powell, Gilfach; Jannet Jenkins, Pentre; Margeret Thomas, Maescadlawr; Mary Richard, a Catherine Treharne, Ty'nywaun. Llawer gwaith y bu Jannet Powell, Gilfach, yn darllen penod ac yn gweddio ar ddechreu cyfarfod gweddi ar nos Sabboth, a gwnai pawb o'r Heill eu rhan at ddwyn y gwaith yn mlaen; ond cafodd y rhai hyn fu yn "sefyll yn nhy yr Arglwydd y nos" yr hyfrydwch o weled y wawr yn tori.
Nadolig 1870, cymerodd Mr. Richard Morgan, Aberafan ofal yr eglwys yma, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Gorphenaf 5ed a'r 6ed, 1871, ac y mae golwg addawol ar yr achos. Rhifedi yr aelodau yn bresenol ydyw 43.
- ↑ Llythyr Mr. R. Morgan, Aberafan.