Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/200

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn y Groeswen yn y flwyddyn 1843, pryd y penderfynwyd fod ceiniog oddiwrth bob aelod yn eglwysi y sir i gael ei ofyn o hyny allan at gynal cymanfa y sir mewn eglwysi gweiniaid. Yr eglwys hon gafodd y cymorth hwnw gyntaf, ac nid yw wedi anghofio hyny hyd yn hyn. Bu David Jones yn ddiacon yma am rai blynyddau. Mae ei ran farwol yn gorwedd wrth gapel Treoes, lle y bu a'r llaw flaenaf yn nechreuad yr achos. Richard Thomas. Un genedigol o'r ardal hon ydoedd, a bu yn amaethwr yn y gymydogaeth am amryw flynyddau. Yr oedd yn un o'r Annibynwyr hynaf yn yr ardal. Cafodd ef a'i weddw, yr hon sydd yn fyw yn bresenol ac yn 84 oed, eu derbyn yn aelodau yn Cymer-glyn-corwg, a buont yn garedig iawn yn eu llettygarwch i genhadau Crist pan nad oedd neb arall yn yr ardal i'w derbyn. Yr oedd Richard Thomas yn hen frawd cynes ei ysbryd. Bu yn ddiacon yn yr eglwys hon am rai blynyddau. Bu farw yn bedwar ugain oed. William Thomas, genedigol o ardal Penygraig, sir Gaerfyrddin, a gof wrth ei gelfyddyd. Ymunodd a'r eglwys hon yn amser ei chorpholiad a bu yn aelod ffyddlon ac yn ddiacon am rai blynyddau. Gwnaeth fwy o ddaioni distaw na nemawr neb. William Isaac, genedigol o ardal Llanguwg, a saer wrth ei gelfyddyd. Ymunodd a'r eglwys hon yn y flwyddyn 1847. Bu yn aelod gweithgar, ac yn ysgrifenydd yr eglwys am rai blynyddau. Cafodd ei ddiwedd yn nghyda thri-ar-ddeg eraill mewn pwll glô. James Jones. Derbyniwyd ef yn aelod yn Carmel, ac yr oedd yn un o ddechreuwyr yr achos yma, a pharhaodd mewn cysylltiad a'r eglwys hon hyd ddiwedd y flwyddyn 1870, pan y bu farw. Yr oedd yn Annibynwr selog, ac yn un o'r dynion mwyaf gweithgar a gofalus am achos crefydd yn ei holl ranau. Yr oedd gair da gan bawb iddo, a bydd ei enw yn perarogli yn yr ardal am flynyddau lawer.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:

David Henry. Yr oedd yn un o gychwynwyr yr achos. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1841. Bu yn yr ysgol yn Llanelli. Urddwyd ef yn Cymer-glyn-corwg, ac y mae yn awr yn Penygroes.

Thomas Llewellyn. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1848. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Mountain Ash, lle y mae etto.

John Davies, Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1858. Bu yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Merthyrcynog, a throdd allan yn anfoesol fel y darfu ei gysylltiad a'r weinidogaeth.

William Davies. Dechreuodd bregethu yn 1858. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Gatley, gerllaw Manchester.

Samuel Lewis. Dechreuodd bregethu yr un pryd a'r ddau uchod. Aeth i athrofa Airdale yn 1861, ac urddwyd ef yn 1866 yn Hallaton, swydd Leicester.*

SILOH, MAESTEG.

Yn y flwyddyn 1841, codwyd yma gapel bychan gan Mr. William Morgan, a'r eglwys yn Carmel, a'r un flwyddyn ffurfiwyd un-ar-bymtheg o aelodau Carmel yn eglwys ynddo. Gweinyddodd Meistri L. Powell, Caerdydd; D. Griffiths, Castellnedd, a P. Griffiths, Alltwen, yn agoriad

  • Cafwyd y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes uchod oddiwrth Mr. Jones, Zoar, Maesteg; a byddai yn dda genym gael defnyddiau mor gyflawn o'r holl eglwysi.

y capel. Bu y lle dan ofal Mr. Morgan hyd haf 1849, pryd y cydunodd ef a'r eglwys i roddi galwad i Mr. Henry Pritchard, pregethwr cynorthwyol oedd ar y pryd yn aelod yn y lle, ond a ddaethai yma o Nantyglo. Urddwyd ef Gorphenaf 18fed a'r 19eg, 1849; a bu yma hyd y flwyddyn 1854, pryd yr ymadawodd a'r lle, gan adael ei wraig a'i blant ar ol, ac ni welwyd ef yma mwy. Ychydig o gynydd fu ar yr achos yn ystod ei arosiad yn y lle, a pha lwyddiant a allesid ddisgwyl dan weinidogaeth y fath un. Yn nechreu y flwyddyn 1856, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. William Rees, pregethwr cynorthwyol perthynol i Bethania, Cwmafan; ac urddwyd ef yma yr 2lain o'r Chwefror canlynol. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Roberts, Cwmafan; W. Thomas, Rock; J. Davies, Taihirion; T. Davies, Treforis; D. Jones, Efailfach; I. Jones, Drefnewydd; E. Evans, Sciwen, ac R. Williams, Cerigllwydion.* Bu gweinidogaeth Mr. Rees yma yn dra llwyddianus, fel cyn diwedd y flwyddyn gyntaf yr oedd y capel wedi myned yn rhy fychan, a'r flwyddyn ganlynol adeiladwyd un eangach a harddach, yr hwn a gostiodd 625p., ac agorwyd ef Mawrth 21ain, 1858, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Lewis, Henllan; D. Price, Aberdar; W. Jenkins, Brynmawr, ac I. Jones, Drefnewydd. Mae yr achos yma wedi myned rhagddo yn fawr yn ystod y pymtheng mlynedd diweddaf, ac y mae golwg lewyrchus arno yn bresenol. Nid oes ond dau o'r un-ar-bymtheg oedd yma yn dechreu yr achos, ddeng mlynedd-ar-hugain yn ol yn aros, sef Evan Evans a Catherine Jenkins, ac y mae y rhan fwyaf o'u cyfoedion wedi blaenu arnynt i'r wlad well.

Codwyd yma gryn nifer o bregethwyr, ag ystyried nad yw yr eglwys ond cydmarol ieuangc.

John Bevan. Urddwyd ef yn Llangadog, a daw ei hanes yn nglyn a'r eglwys yno.

William Edwards. Ymfudodd ef i America, ac y mae yn weinidog yno. Arthur Bowen. Bu yn bregethwr cymeradwy am ychydig flynyddoedd, ond bu farw yn Hydref, 1862.

John Bevan. Bu dan addysg yn Mhenybont-ar-ogwy, ac urddwyd ef yn y Waunarlwydd, gerllaw Abertawy, ac yno y mae yn aros etto. David M. George. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yr haf diweddaf (1871) yn Hermon a Llansadwrn, sir Gaerfyrddin. James Jones. Aeth i America yr haf diweddaf.

John Michael. Y mae yn bresenol yn fyfyriwr yn athrofa Aberhonddu.

SARON, MAESTEG.

Wedi i gysylltiad Mr. W. Watkins ddarfod a'r eglwys yn Zoar, dechreuodd ef a'r rhai ymadawsant gydag ef gyfarfod mewn ystafell eang yn Commercial Street, ac ymgorpholasant yn eglwys dan ofal Mr. Watkins, Mawrth 17eg, 1850. Y rhai mwyaf blaenllaw gyda'r achos hwn ar ei gychwyniad, heblaw y gweinidog, oedd William Thomas, Thomas Thomas, a Griffith Gibbon, (tad Mr. W. Gibbon, Capel Isaac), ac yr oedd y tri hyn yn ddynion ymroddedig a phenderfynol. Meddyliasant yn fuan am adeiladu capel, a dechreuwyd arno yn ddioed, a galwyd ef Saron. Agorwyd ef Ionawr 12fed a'r 13eg, 1853, yn nglyn a chyfarfod chwarterol cyfundeb gorllewinol Morganwg, yr hwn a gynhelid yma. Ar yr achlysur pregethodd Meistri J. Thomas, Glynnedd; T. R. Davies, Ysgetty; T. Thomas, Clydach; E. Roberts, Cwmafan; E. Griffiths, Abertawy; R. Rees, Abertawy, a T. Davies, Treforis.* Bu Mr. Watkins yn gofalu am y lle am yn agos i bymtheng mlynedd, ond ni bu llwyddiant mawr ar ei lafur. Yr oedd yr amgylchiadau o dan ba rai y cychwynwyd yr achos, a lluosogrwydd capelau yr un enwad yn yr ardal yn cyfrif am hyny. Yn niwedd y flwyddyn 1866, rhoddodd Mr. Watkins yr eglwys i fyny, ao ymgymerodd a dechreu achos, ac adeiladu capel yn y Dyffryn. Wedi bod flwyddyn a haner heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. S. D. Jones, yr hwn oedd yn weinidog yn Heolgerig, gerllaw Merthyr, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma Rhagfyr 29ain a'r 30ain, 1867; a bu yma am dair blynedd, pryd y symudodd i Carmel, Penbre. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Jones, rhoddwyd galwad i Mr. William B. Morgan, Myddfai, sir Gaerfyrddin, a chadwyd cyfarfodydd ei sefydliad Medi 10fed a'r lleg, 1871. Egwan y mae yr achos yma wedi bod o'r dechreuad, ond dywedir ei fod wedi sirioli yn ddiweddar.

  • Diwygiwr, 1856. Tu dal. 122.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:William Thomas. Yr oedd yn un o'r diaconiaid cyntaf, ac ni phallodd ei ddefnyddioldeb ar ol iddo ddechreu pregethu. Bu farw Mehefin 1860. Richard W. Watkins, mab Mr. Watkins, yr hen weinidog. Mae yn awr yn bregethwr cynorthwyol yn Saron.

Thomas G. Jones. Bu yn efrydydd yn athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd of yn Gwernogle, lle y mae yn bresenol.

William Morris. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef y flwyddyn hon yn Brynmenyn, gerllaw Penybont-ar-ogwy. William Owen. Bu am ysbaid yn athrofa Aberhonddu, ond gwaelodd ei iechyd, ac ymfudodd i'r America, lle y mae etto.

Mae yn Saron ychydig ffyddloniaid oedd gyda'r achos ar ei gychwyniad yn aros hyd yr awr hon.

DYFFRYN, MAESTEG.

In nechreu y flwyddyn 1867, wedi rhoddi i fyny ofal eglwys Saron, cychwynodd Mr. Watkins achos a chododd gapel yn y Dyffryn, a ffurfiwyd eglwys yma yn Ebrill, 1868, yr hon a fu dan ei ofal hyd ei farwolaeth, Mai 17eg, 1870. Yn Hydref y flwyddyn hono, daeth capel y Dyffryn dan nawdd eglwys Siloh, a chymerodd Mr. William Rees ofal yr achos, ac felly y mae y Dyffryn yn parhau mewn cysylltiad a Siloh. Gan nad yw ond achos newydd, nid oes dim neillduol yn nglyn ag ef i'w cofnodi.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM WATKINS. Ganwyd ef yn Caehopkin, yn mhlwyf Ystradgynlais, sir Frycheiniog, Mehefin 23ain, 1810. Derbyniwyd ef yn aelod yn ienange yn Nhy'nycoed, a dechreuodd bregethu pan yn ugain oed. Ni chafodd ond ysgol ddyddiol gyffredin yn yn ei febyd, oblegid gorfu iddo weithio yn galed fel glowr er yr oedd yn dair-ar-ddeg oed hyd o fewn

Diwygiwr, 1853. Tu dal. 60.

ychydig wythnosau i'w urddiad, yr hyn a gymerodd le yn Rhymni, Hydref 5ed a'r 6ed, 1836, fel y crybwyllasom yn hanes eglwys Seion. Bu Mr. Watkins yn llafurio yno am fwy nag wyth mlynedd; ac yn ei amser ef, a thrwy ei lafur ef yn benaf y codwyd capel Seion; a chododd gapel arall yno a elwir Gosen, i nifer o gyfeillion a ymlynent wrtho pan yr ymadawodd o Seion. Yn y flwyddyn 1845, derbyniodd alwad o Zoar, Maesteg, a'r hon y cydsyniodd, ond ni symudodd yma yn fuan, ae wedi iddo symud, arferai deithio yr holl ffordd dros y mynyddoedd unwaith yn y mis at ei gyfeillion yn Gosen, Rhymni. Bu am bum' mlynedd yn gysurus a llwyddianus, ond oblegid y cyhuddiadau a ddygid i'w erbyn, at y rhai y crybwyllasom yn hanes Zoar, darfu ei gysylltiad a'r eglwys yno, ac aeth nifer luosog o'r rhai a ymlynent wrtho allan i ddechreu yr achos sydd yn awr yn Saron. Wedi bod yn gofalu am y lle hwnw am yn agos i bymtheng mlynedd, rhoddodd yr eglwys yno i fyny yn niwedd 1866; a dechreuodd achos newydd yn y Dyffryn, a chododd yno gapel yn 1868, ond erbyn hyn yr oedd ei iechyd yn dechreu adfeilio, a bu farw Mai 17eg, 1870, yn 60 oed, gan adael gweddw a chwech o blant i alaru ar ei ol, a chladdwyd ef yn mynwent Saron, lle yr oedd rhai o'i anwyliaid, a llawer o'i gyfeillion wedi eu rhoddi i orwedd o'i flaen.

Gyrfa helbulus iawn a gafodd Mr. Watkins yn nglyn a'r weinidogaeth, ond glynodd wrth ei waith yn ddi-ildio; ac yr oedd ei garedigrwydd a'i sirioldeb yn peri fod ganddo gyfeillion yn glynu wrtho trwy ei holl brofedigaethau. Yn mlynyddoedd olaf ei fywyd yr oedd yn oruchwyliwr yn nglyn a chwmni ysweiriant, a theithiai lawer oddicartref i sefydlu goruchwylwyr; ac yr oedd yn ddyn mawr gyda'r cymdeithasau cyfeillgar, y rhai a ddangosasant barch nodedig iddo ar ddydd ei gladdedigaeth,

Yr oedd Mr. Watkins yn ddyn o gorph cryf-o ysbryd bywiog-o dymer lawen-yn gyfaill serchog a chywir-yn bregethwr da ar faterion ymarferol, a byddai weithiau yn dra effeithiol. Ond nid oedd yn un o'r rhai mwyaf hapus i ymwneyd a dynion, goddefai iddynt fyned yn rhy hyf arno; ac yr oedd ei ysgafnder a'i anwyliedwriaeth yn rhoddi achlysur i'r rhai a ewyllysient gael achlysur yn ei erbyn. Bu yn llafurus iawn i adeiladu pedwar o gapeli; ond y mae yn ddrwg genym orfod ychwanegu fod dau o'r rhai hyny wedi eu cyfodi mewn canlyniad i rwygiadau yn yr eglwysi dan ei ofal; ac wedi eu codi mewn manau nas gallesid profi fod angenion y cymydogaethau yn galw am danynt. Ystyriwn fod tegwch yn galw arnom i ddyweyd hyn, er fod genym lawer o barch i enw a choffadwriaeth William Watkins.

GARTH, MAESTEG.

Y Garth y gelwir y rhan isaf o ddyffryn Maesteg, lle y mae rhagolygon mwyaf addawus y lle yn bresenol. Mae yma amryw weithfeydd glo ac alcam yn y lle. Adeiladwyd yma gapel yn y flwyddyn 1868, a galwyd ef yn Ebenezer. Costiodd tua 230p., ac y mae ynddo le i ryw 2001 eistedd. Bwriadwyd ef ar y cyntaf i wasanaethu fel ysgoldy mewn cys ylltiad a Carmel. Cynhelid yma Ysgol Sabbothol y boreu, pregeth am ddau, a chyfarfod gweddi yr hwyr, er cyfleusdra i'r rhai nad allent fyned i Carmel. Prydnhawn Sabboth, Gorphenaf 30ain, 1871, y corpholwyd yma eglwys. Pregethodd Mr. R. Morgan, Aberafan, a chydweinyddodd ef a Mr. Morgan, Carmel, ar y cymundeb. Tua 27 o aelodau oedd yma ya cychwyn, ond y mae yr achos yn myned rhagddo, fel y mae yn debyg y bydd yma eglwys gref cyn pen ychydig flynyddoedd. Mae y rhan fwyaf • ddyled y capel wedi ei dalu. Yn y cyfarfod blynyddol a gynaliwyd yma Mai 2lain a'r 22ain, 1871, daeth un Joshua Morgan, aelod gyda'r Bedyddwyr, ond hen gyfaill i Mr. Morgan, Carmel, yn mlaen ac a roddodd 21p. at gynorthwyo i dalu y ddyled. Nid dyma yr unig engraifft sydd genym o garedigrwydd brodyr ffyddlon perthynol i'r Bedyddwyr at achos yr Annibynwyr yn Maesteg.

MAESTEG, (SAESONAEG).

Dechreuwyd yr achos yma Ebrill 14eg, 1869, a ffurfiwyd yr eglwys Awst 15fed, yr un flwyddyn gan Mr. Davies, Caerdydd. Bu Mr. Jones, Zoar, a'r eglwys dan ei ofal yn hynod o gefnogol i'r achos yma, a chafwyd gwasanaeth eu capel cyhyd ag y bu angen am hyny. Rhoddwyd careg sylfaen y capel newydd i lawr Tachwedd 23ain, 1870, ac erbyn y 3ydd o Fedi y flwyddyn ganlynol yr oedd yn barod i'w agor, ac yn nglyn a'r agoriad urddwyd Mr. John Davies, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin i holl waith y weinidogaeth. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri W. Morgan, Caerfyrddin; J. Jones, Maesteg, ac F. S. Johnstone, Merthyr. Yr oedd Mr. Davies yn llafurio yma er cychwyniad yr achos; ac heblaw yr help gwerthfawr a gafodd gan Mr. Jones, Zoar, a gweinidogion eraill yn y sir, y mae enwau y personau canlynol yn y lle, yn mysg eraill, yn deilwng o grybwylliad parchus:- Dr. Davies, W. Rees, Draper; J. R. Thomas, grocer; B. Evans, Overman, ac E. Davies, meddyg. Costiodd y capel 800p., ac y mae 500p. eisioes wedi eu talu. Araf fel y gellid disgwyl y mae yr achos yn myned yn mlaen, ond y mae wedi ei sefydlu ar gyfer cynydd cyflym yr iaith Saesnaeg yn mysg pobl ieuainge yr ardal, ac ar gyfer dyfodiaid o Saeson y rhai sydd beunydd yn amlhau yn y gymydogaeth.

DREFNEWYDD.

Gelwir y lle hwn yn aml yn Newton Nottage. Ymddengys fod pregethu achlysurol yn y lle hwn er y flwyddyn 1662, ond nid oes genym sicrwydd fod eglwys Annibynol wedi ei ffurfio yma; llawer llai y gallwn ei holrhain mewn dilyniad rheolaidd hyd yn awr. Gwelsom yn hanes Maesyrhaf, Castellnedd, fod tai Lewis Alward, yn Cynffyg, a Watkin Cradock, yn y Drefnewydd, wedi eu trwyddedu i bregethu yn 1672; a bod Watkin Cradock ei hun wedi cael trwydded i bregethu yr un amser. Bu Lewis Jones, Penybont yn pregethu yma o'r flwyddyn 1742 hyd 1763; a digon tebyg i'w olynwyr, Evan Williams a Samuel Price, bregethu llawer yma; ond isel a dilewyrch fu yr achos yma trwy yr holl flynyddoedd. O gylch y flwyddyn 1808, daeth un William Williams yma i bregethu, a bu mesur o lwyddiant ar ei lafur, ac urddwyd ef i fod yn weinidog yn y lle Gorphenaf 2lain, 1808. Ar yr achlysur, dechreuwyd yr oedfa gan Mr. D. Evans, Mynyddbach; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Davies, Abertawy; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Bowen, Castellnedd; rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. J. Davies, Alltwen, ac i'r eglwys gan Mr. S. Davies, Maendy. Yn nglyn a hanes