Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/219

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Penybont wedi myned ar dân, a chan fod y rhan fwyaf o'r dref y pryd hwnw yn dai coed, a bod y gwynt yn chwythu y fflamau i mewn i'r dref, ofnid y buasai yr holl le yn myned ar dân. Yn nghanol dychryn cyffredinol aeth amryw bobl at Mr. Jones i ddeisyf arno weddio am waredigaeth. Aeth i'w ystafell a dechreuodd yno dywallt ei ymbiliau ger bron Duw, ac yn mhen ychydig amser trodd y gwynt a diffoddodd y tân. Yr ydym yn cofnodi y ffeithiau hyn fel yr adroddid hwy gan yr hen bobl flynyddau yn ol, ac yn gadael i bob darllenydd dynu ei gasgliad ei hun oddiwrthynt.

Yr oedd Mr. Jones yn ddyn o dymer hynod o addfwyn a thyner. Dywedir fod hen geisbwl ffyrnig a barbaraidd yn byw yn Mhenybont yn ei amser ef. Cymerodd yr adyn hwnw i'w ben ryw foreu i luchio cerig at ffenestri y gwr da pryd yr oedd ar weddi gyda'i deulu. Aeth Mr. Jones allan a siaradodd ag ef yn addfwyn fel y trodd ymaith. Anogai y cymydogion ef i'w gosbi, ond gwrthododd. Yn mhen amser wedi hyny aeth y ceisbwl yn glaf iawn. Nid oedd ganddo neb i estyn diferyn o ddwfr iddo yn ei gystudd. Clywodd Mr. Jones am ei gyflwr diymgeledd, ac aeth i ymweled ag ef ac edrychodd am ryw un i ofalu am dano tra bu yn glaf. Lleddfodd y caredigrwydd hwn elyniaeth y creadur at grefydd, fel y daeth pan wellhaodd i fynychu capel Mr. Jones. Yr oedd tynerwch ei deimlad y fath fel nas gallasai ddiarddel yr un troseddwr o'r eglwys. Pan fuasai galwad am hyny buasai yn cyfnewid am Sabboth a'r hen brophwyd, Edmund Jones, o Bontypool, fel y gallasai ef eu diarddel yn ei le.

Gyda'i holl boblogrwydd a'i lafur fel pregethwr, yr oedd yn ysgolhaig rhagorol. Dywedir ei fod mor hyddysg yn yr Hebraeg fel y medrai ymddiddan yn rhwydd ag Iuddewon dysgedig yn yr iaith hono. Bu Mr. Jones yn briod ddwywaith. Claddwyd ei wraig gyntaf wrth gapel y Casnewydd-ar-ogwy. Merch iddo ef oedd gwraig Mr. David Jardine, athraw yr athrofa yn Abergavenny.

SAMUEL PRICE. Mab hynaf yr enwog Isaac Price, gweinidog yr eglwysi yn Llanwrtyd a Throedrhiwdalar, oedd efe. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1757. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Llanwrtyd yn ieuangc iawn. Nid ydym yn gwybod ei oed pan y dechreuodd bregethu. Cafodd ei dderbyn yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin yn 1778, a bu yno hyd 1782. Yn yr amser yr oedd yn fyfyriwr yn Nghaerfyrddin aeth adref, ryw dro ar amser y gwyliau, a gwahoddwyd ef i bregethu un boreu Sabboth yn Mhantycelyn, capel perthynol i'r Bedyddwyr, heb fod yn mhell o Lanwrtyd. Cafodd yno oedfa ryfeddol o ddilewyrch, yr hyn a effeithiodd gymaint ar ei ysbryd fel y daeth i'r penderfyniad nad oedd yr Arglwydd wedi ei alw i bregethu. Yn y teimlad isel hwnw aeth i amaethdy yn y gymydogaeth, lle yr oedd ei dad wedi cael ei gyhoeddi i bregethu yn yr hwyr, a gofynwyd iddo ddechreu yr oedfa. Cydsyniodd, ond yn dra digalon. Pa fodd bynag, torodd y wawr arno, a theimlodd ef a'r bobl yn ddisymwth ryw ddylanwad anorchfygol. Aeth yr holl gynnulleidfa i folianu, a bu yr amgylchiad hwnw yn ddechreuad diwygiad nerthol iawn yn y gymydogaeth, pryd y dychwelwyd ugeiniau o bobl at yr Arglwydd. Yn y flwyddyn 1783, derbyniodd Mr. Price alwad oddiwrth yr eglwysi yn Mhenybont a'r Bettws, y rhai a wasanaethwyd yn ffyddlon ganddo, gyda mesur helaeth o lwyddiant, am dair-blynedd-ar-hugain. Yn fuan wedi ymsefydlu yn Mhenybont, priododd Mr. Price ag orwyres i Mr. Rees Price, Ty'nyton, o'r hon y cafodd bump neu chwech o blant. Y mae un