crefyddol yma tua'r flwyddyn 1862, a chyn hir codwyd yma gapel bychan o goed ar dir Ty'nypant, a chorpholwyd eglwys ynddo, a buwyd yn addoli yn y lle am fwy na phedair blynedd. Yn y flwyddyn 1868, adeiladwyd yma gapel bychan cyfleus, ac y mae yr eglwys dan ofal Mr. William Hopkins yn nglyn a'r Cymer. Mae cyfoeth o fwnau yn y mynyddoedd cylchynol, fel y mae yn sicr y bydd yma ddylifiad pobloedd yn yr amser a ddaw.
CWMOGWY.
Nid oes genym hanes fod un cynyg wedi ei wneyd i sefydlu achos Ymneillduol yn y Cwm hwn hyd y flwyddyn 1840. Yr oedd Gweni Jones, gwraig Nantymoel, yn aelod yn Brynmenyn, a Richard Williams, Margaret Williams, a Morgan Williams, Rhiwglyn, a Mary Williams, Gadlys, yn aelodau gyda'r Methodistiaid yn Glynogwy; a theimlodd y rhai hyn awydd am gael pregethiad cyson o'r efengyl yn y Cwm. Gwahoddwyd Mr. Hopkin, gweinidog y Bedyddwyr yn Felin-Ifan-Ddu, i bregethu yn achlysurol iddynt ar y Sabbothau; a phregethodd lawer yn Tyhowel, a'r Aber, a manau eraill yn y Cwm-ond yn Tyhowel fynychaf, a deuai nifer luosog o'r ardalwyr i wrando. Cyn hir ymadawodd Mr. Hopkin, a daeth Mr. William Williams, cyn-weinidog Felin-Ifan-Ddu, a chymerodd ei le yma; ond oblegid i Mr. Williams roddi gormod o arbenigrwydd i'w olygiadau neillduol ar Fedydd, ciliodd y gwrandawyr, a rhoddodd yntau i fyny ddyfod yma. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1843. Yn yr adeg yma, dechreuodd Mr. William Morgan, pregethwr cynorthwyol perthynol i'r Cymer, a chyrchu i'r lle, a hoffwyd ef gan y trigolion. Ffurfiwyd yma eglwys Annibynol, yn yr hon yr unodd amryw o'r brodorion, a'r rhai oeddynt yn aelodau yn flaenorol; a chyn diwedd y flwyddyn rhoddwyd galwad i Mr. Morgan i fod yn weinidog yma, ac urddwyd ef yn gynar yn y flwyddyn 1844. Cynhaliwyd cyfarfodydd yr urddiad yn ysgubor yr Aber; ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri J. Evans, Cymer; W. Griffiths, Llanharan; M. Morgan, Bethesda; J. Evans, Maendy; W. Jones, Penybont; T. Lloyd, Llwyni, ac L. Lawrence, Llantrisant. Pum' wyth. nos yr arhosodd Mr. Morgan yma wedi ei urddo, canys derbyniodd alwad • Troedyrhiw, Merthyr, a dechreuodd ei weinidogaeth yno y Sabboth cyntaf yn Ebrill, 1844, ac y mae yn parhau i lafurio yno.
Yn haf 1847, adeiladwyd yma gapel ar ddarn o dir a gafwyd gan Mr. Jenkins, Llanharan. Galwyd ef Bethania. Costiodd 106p. 18s. 94c., heblaw cludiad y defnyddiau, yr hyn a gafwyd yn rhad gan yr ardalwyr.* Agorwyd y capel yn mis Mehefin, 1848. Wedi ymadawiad Mr. Morgan, bu gofal yr eglwys yn benaf ar Meistri W. Jones, Penybont; W. Griffiths, Llanharan, a J. Evans, Cymer; ac wedi marw y blaenaf, parhaodd y ddau a enwyd olaf i ofalu am y lle am flynyddoedd. Cymerodd Mr. Richard Jones ofal yr eglwys tua'r flwyddyn 1857, a pharhaodd i ofalu am dani hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mawrth 10fed, 1863; ac yn fuan wedi hyny, cymerwyd gofal yr eglwys gan Mr. David Jones, Efailfach, yr hwn sydd yn parhau yn weinidog iddi. Nid yw yr ach s ond bychan; ond y mae adnoddau y Cwm y fath fel y gellir disgwyl y bydd y boblogaeth yma yn lluosog cyn hir, ac y gwelir yma achos blodeuog.
- Llythyr Mr. J. B. Jones, B.A., Penybont.
ANNIBYNOL CYMRU.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
RICHARD JONES. Ganwyd ef yn Tainewydd, gerllaw Aberpergwm, yn Nghwmnedd, yn y flwyddyn 1794. Adnabyddid ef yn ei gymydogaeth fel "Richard o'r siop," am fod ei rieni yn cadw siop fechan. Efe oedd unig blentyn ei rieni, a rhoddwyd iddo well addysg nag a gafodd y rhan fwyaf o'i gyfoedion. Treuliodd flynyddoedd ei febyd a'i ieuengetyd yn wyllt ac anystyriol, gan rodio yn ol helynt y byd hwn a dilyn arferion llygredig ei gymydogion; ond yn y diwygiad grymus a gafwyd yn Nglynnedd tua'r blynyddoedd 1814 a 1815, ymwelodd yr Arglwydd ag ef yn ffordd ei ras; ac yr oedd yn mysg blaenffrwyth y enwd mawr a gasglwyd yn y diwygiad hwnw, a diwygiadau dilynol yn nyffryn Nedd. Gan fod Richard Jones wedi derbyn gwell addysg na'r rhan fwyaf, ac yn alluog i ddarllen ac ysgrifenu, ac yn meddu llawer o ddawn canu, a gweddio, a chynghori, rhoddodd hyny iddo gyhoeddusrwydd a blaenoriaeth yn mysg ei frodyr, ac yr oedd ganddo galon i weithio. Yr oedd yn flaenllaw gyda'r Ysgol Sabbothol, a rhoddid ef yn aml i egwyddori yn gyhoeddus pan yn parotoi ar gyfer y cymanfaoedd ysgolion a gynhelid, ac ar ddydd yr uchelwyl ato ef yr edrychid fel arweinydd yr ysgol. Rhoddodd hyn gyfle i'w ddoniau ymddadblygu, a chymhellwyd ef i ddechreu pregethu, yr hyn a wnaeth tua'r flwyddyn 1820. Wedi pregethu dros rai blynyddoedd yn Glynnedd a'r wlad oddiamgylch, derbyniodd alwad gan eglwys Cymerglyn-corwg, ac urddwyd ef yno Hydref 6ed a'r 7fed, 1824. Ar ol treulio rhai blynyddoedd yn dderbyniol a chymeradwy yn y weinidogaeth, ymdaenodd cwmwl du, tywyll, drosto, a disgynodd mor isel fel yr ofnai ei serch; gyfeillion goreu mai yn y tywyllwch y dybenai ei yrfa. Dywedir iddo gael ei siomi mewn merch ieuange, ar yr hon yr oedd wedi rhoddi ei ac yn ei brofedigaeth iddo ymollwng i yfed, nes o radd i radd yr aeth y chwant yn feistr arno, fel y bu raid ei ddiarddel o bob cysylltiad a chrefydd. Treuliodd y deng mlynedd dyfodol heb un math o berthynas rhyngddo ag eglwys Dduw; a dengys ei hanes gofidus yr eithafion y gall dynion fyned iddynt trwy gellwair a phrofedigaethau er wedi dangos arwyddion gobeithiol unwaith. Aeth i sir Fynwy i weithio fel glowr, ac yno ymunodd a'r Siartiaid, y rhai ar y pryd oeddynt yn lluosog iawn yn Morganwg a Mynwy, ac yn peri cynhyrfiadau dirfawr. Gan fod Richard Jones yn meddu ar ddawn siarad rhwydd a chyffrous, daeth yn fuan i gyhoeddusrwydd yn nglyn a'r cynhyrfiadau Siartaidd, ac yr oedd yn un o'u hareithwyr mwyaf poblogaidd, a chyfrifid ef yn un o'r blaenoriaid ganddynt. Areithiodd lawer yn eu cyfarfodydd trwy yr holl wlad o Rhymni hyd Lanelli, Brycheiniog. Ond pan y gweithiodd y terfysg hwnw i'w bwynt uchaf, yn eu mynediad yn dorf fawr tua Chasnewydd, ar y dydd angeuol, ac y gwasgarwyd hwy gan y milwyr, rhoddwyd gorchymyn allan i ddal arweinwyr y terfysg; ac yn mysg eraill, rhoddwyd gwarant allan i ddal Richard Jones, ond ciliodd ef ymaith yn ddirgelaidd tua sir Gaerfyrddin. Mae un engraifft nodedig o gyfryngiad Rhagluniaeth (fel y credwn,) ar ei ran yn ei ffoedigaeth. Yr oedd yn nyfnder y gauaf, ac yn hytrach na chymeryd y ffordd fawr, aeth yn groes i'r wlad ar hyd y llwybrau mwyaf anhygyrch gan ymddieithrio goreu gallai. Ar un prydnhawn Sadwrn daeth i dafarndy yn mhentref bychan, diarffordd, Felindre, heb fod yn mhell o Langafelach, ar y ddeheu i Bontarddulais. Gofynodd am letty, a chan ei fod yn lluddedig iawn aeth i'r gwely cyn chwech o'r gloch; ond cyn myned talodd am ei letty, gan roddi ar ddeall y bwriadai gychwyn yn foreu dranoeth. Yn hwyr yr un noson, dyna ŵr dyeithr arall yn dyfod i'r tŷ, ac yn gofyn am letty, yr hyn a ganiatawyd iddo, ond iddo gysgu yn un o ddau, gan fod un eisioes yn y gwely. Aeth hwnw hefyd i'w wely, a chan ei fod yntau yn lluddedig cysgodd yn drwm. Borcu dranoeth yr oedd Richard Jones i fyny rhwng pedwar a phump o'r gloch, a chychwynodd i chwilio am gysgod o ffordd ei erlynwyr; a thua naw o'r gloch cododd y gwr arall, ac ar ol boreufwyd, dywedodd wrth ŵry tŷ, mai heddgeidwad ydoedd yn ymlid ar ol un o'r enw Richard Jones, yr hwn yr oedd gwarant allan i'w ddal am gymeryd rhan yn y cynhwrf Siartaidd. Ac yna darluniodd pa fath un ydoedd. "Wel," ebe gwr y tŷ, "'roedd e yn cysgu yn yr un gwely a chwi neithiwr, ond y mae e wedi myned ymaith er's mwy na phum' awr, ac nis gwn yn y byd tua pha gyfeiriad yr aeth." Rhoddodd yr heddgeidwad i fyny i ymlid ar ei ol, a dychwelodd tua'r lle o'r hwn y cychwynodd. Aeth Richard Jones tua Phontyberem, sir Gaerfyrddin, a dechreuodd weithio yno, a daeth ato ei hun i weled ffolineb ei ofer ymarweddiad. Priododd wraig weddw yno, a dechreuodd fywyd newydd. Arwyddodd yr ardystiad dirwestol, i'r hwn y bu yn ffyddlon hyd angau. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan Mr. Joseph Evans, Capel Seion, yr hwn yn ol ei arfer i bawb a fu yn hynod o garedig iddo. Ennillodd Richard Jones trwy ei wyleidd-dra, ei weithgarwch, ei dynerwch, a'i fuchedd newydd, ymddiried yr holl eglwys. Anaml y gwelwyd neb yn dwyn arwyddion eglurach o wir edifeirwch a dychweliad at yr Arglwydd, a chafodd yr eglwys a'r gweinidog y fath foddlonrwydd ynddo, fel yr anogwyd ef i ail ddechreu pregethu, yr hyn a wnaeth ond gyda gwylder a gostyngeiddrwydd mawr. Er fod ei ddoniau wedi rhydu a'i alluoedd wedi pylu rhagor y peth oeddynt unwaith, etto, pregethai gyda gwres a bywiogrwydd neillduol, ac yr oedd ôl ei brofedigaethau yn amlwg i'w canfod yn ei weddiau a'i bregethau. Anturiodd i ymweled a'i hen gyfeillion yn Nghwmnedd a manau eraill yn Morganwg, ac yr oedd yn dda gan bawb o honynt ei weled wedi cael ei draed yn rhydd o'r clai tomlyd. Symudodd yn mhen amser i Maesteg i weithio, heb fod yn mhell o'r fan lle yr urddwyd ef; a thua'r flwyddyn 1852, ymfudodd i America, lle y bu am fwy na dwy flynedd, a thra yno ymddibynai am ei gynaliaeth ar ei waith, a gweinidogaethai i eglwys fechan o Gymry oedd yn Blossburg, lle yr oedd yn aros. Dychwelodd i Gymru drachefn a sefydlodd yn Maesteg eilwaith, gan bregethu yn mha le bynag y gelwid am dano, ac yr oedd yn dderbyniol yn mha le bynag yr elai; ac nid oedd neb yn cofio ei fuchedd gynt. Derbyniodd alwad gan yr eglwys fechan yn Bethania, Cwmogwy, a bu yn weinidog yno nes y cymerwyd ef ymaith gan angau Mawrth 10fed, 1863, yn 69 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Salem, capel y Bedyddwyr, yn Maesteg, pryd y pregethwyd gan Mr. J. Jones, Zoar, Maesteg.
Gyrfa hynod oedd gyrfa Richard Jones. Galwyd ef yn eglur i bob ymddangosiad gan ras yn ei droedigaeth ar ddechreu ei daith grefyddol; a threuliodd flynyddoedd yn ngwres ei gariad cyntaf, ond aeth deng mlynedd canol ei oes dros ei ben yn y fath fodd ag y buasai yn dda ganddo allu eu dileu o hanes ei fywyd; ond trwy ras Duw adferwyd ef, a threuliodd fwy nag ugain mlynedd olaf ei fywyd gan ddwyn yr arwyddion amlycaf • ddyn gwir edifeiriol; ac yr oedd yn wastad yn barod i ganmol y gras mawr a dra amlhaodd tuag ato. Credwn y gellid heb betrusder roddi ysgrif-fedd Theomemphus ar gareg fedd Richard Jones:
"Wel dyma'r dyn a garwyd a gadwyd yn y gwaed, Deng miliwn llawn o feiau faddeuwyd iddo yn rhad; Ei dynu wnaed o'r danllwyth, ac yntau'n myn'd i lawr, Fe gadwyd hwn o uffern, mae yn y nef yn awr."*
NANTYMOEL.
Yn y flwyddyn 1865, agorwyd gwaith glo yn Cwmogwy, a dylifodd pobl i fyw yma. Adeiladwyd ugeiniau o dai hyd flaen y Cwm. Yr oedd Bethania yn rhy bell i'r bobl uchaf i fyned i lawr iddo; felly cymerwyd darn o dir ar fferm Nantymoel ar brydles gan ei berchen, W. Llewelyn, Ysw., Cwrtcolmaen, ac adeiladwyd addoldy ar ffurf anedd-dy arno. Agorwyd ef Medi 3ydd, 1867. Gweithwyr glo y lle yn benaf fu yn gychwynwyr i'r achos yma, ac ydynt yn gofalu am dano etto. Bwriadant adeiladu addoldy hardd a chyfleus yn haf 1872, gwerth rhwng 500p. a 600p. Gyda'r eithriad o ychydig fisoedd ar ddechreu gweinidogaeth Mr. D. Jones, yn Bethania, y mae eglwys Nantymoel wedi bod heb un gweinidog i ofalu am dani. Mae yma oddeutu 50. aelodau, ac yn ol pob argoelion bydd yn lle pwysig yn fuan, ac yn faes ardderchog i weinidog ymroddgar.
LLANHARAN.
Yn y flwyddyn 1690, yr oedd offeiriad o'r enw Lewis yn dal bywioliaeth y plwyf hwn a phlwyf Llanilid, ac yn aneddu gydag un Mr. Mathews, yn Meiros. Yr oedd yr offeiriad hwn yn flaenor mewn annuwioldeb. Yr oedd yn hoff iawn o chwareu cardiau, a dywedir y byddai ef a'i gyfeillion yn eistedd lawer nos Sadwrn gyda'r cardiau hyd doriad y wawr y Sabboth, yna eilliai ei farf ar y Sabboth, ac elai i'r eglwys, ond anfynych y byddai neb ond y clochydd yno yn ei gyfarfod. Byddai ef ac un William Thomas weithiau yn ymladd ceiliogod ar y fynwent. Yr oedd hefyd yn un blysig iawn am gwrw. Tra yr oedd yr unig athraw crefyddol o'r cymeriad hwn nis gallesid disgwyl fod llawer o grefydd yn y plwyf. Nis gwyddom pa bryd y terfynodd y creadur gwael hwn ei yrfa lygredig; ond effeithiodd ei ymddygiad i wneyd yr ardal yn ddiarebol o annuwiol. Pa fodd bynag, fe ddaeth yr amser nodedig i'r Arglwydd drugarhau wrth y lle pechadurus hwn i fyny. Tua y flwyddyn 1730, trwyddedwyd ty neu ddau ar Waun Llanhari at bregethu ynddynt, a daeth Mr. David Williams o'r Watford; Mr. Henry Davies, Blaengwrach, ac eraill, i'r ardal i bregethu, ac fe fendithiodd yr Arglwydd eu llafur. Rywbryd rhwng 1730 a 1734, cafodd eglwys Annibynol ei chorpholi yn y Garth, yn mhlwyf Llanharan. Mr. Henry Davies, Blaengwrach oedd y gweinidog a ofalai yn benaf am yr eglwys ieuange hon. Yr ydym yn cael yn llawysgrif Mr. Davies fod yma ddeunaw o aelodau ar yr 16eg o Fai, 1734. Eu henwau
• Cawsom y rhan fwyaf o'r ffeithiau blaenorol oddiwrth Mr. Williams, Hirwaun, yr hwn a adwaenai Richard Jones o'i gychwyniad cyntaf. Gwnaed crybwylliad am farwolaeth R. Jones yn y Congregational Year Book am 1864, ond y mae hwnw yn wallus iawn.
oeddynt John Richard, henuriad; William How, diacon; Thomas Henry, James Richard, William Meyrick, John Thomas, John Williams, Richard Bassett, Phlarw Thomas, Jannet Thomas, Catherine Thomas, Margaret How, Margaret Thomas, Barbara Thomas, Gwenllian David, Ioan David, Gwenllian, a Pryswydd Walter. Nis gwyddom pa cyhyd y bu'r praidd bychan yn addoli yn y Garth. Yn mhen rhyw gymaint o amser aethant at y Counsellor Powell, perchenog y rhan fwyaf o bentref Llanharan, i ofyn am le i osod yr arch ynddo. Caniataodd eu cais iddynt gyda'r sirioldeb mwyaf. Rhoddodd dafarndy yn nghanol y pentref iddynt at eu gwasanaeth, yr hwn a gyfaddaswyd ganddynt i fod yn dy addoliad yn lle bod yn synagog Satan. Buont yno yn addoli hyd farwolaeth Mr. Powell. Yna daeth ei frawd, yr hwn oedd yn offeiriad rhagfarnllyd, i feddiant o'r etifeddiaeth, a chan nad oedd hawl gan ei frawd i roddi lease gyfreithlon ar y lle i'r gynnulleidfa, cymerodd feddiant o hono a gyrodd hwynt allan i'r heol gan feddwl, mae yn debyg, y buasai wrth hyny yn lladd Ymneillduaeth yn y gymydogaeth. Ond camgymerodd. Yn wyneb cael eu hamddifadu o'u haddoldy, aeth y bobl at un Mr. Jones, perchenog y fferm a elwir y Coedbychan, a chawsant dir ganddo ef at adeiladu capel a chladdu eu meirw, mewn man prydferth iawn ar fin y ffordd fawr, ac o fewn chwarter milldir i bentref Llanharan, ond yn mhlwyf Llanbedr-arfynydd. Yr ydym yn tybied mai tua y flwyddyn 1780 yr adeiladwyd y capel. Bu Mr. Lewis Jones o wasanaeth mawr i'r achos hwn tra y bu yn Mhenybont. Ni bu yma yr un gweinidog sefydlog cyn y flwyddyn 1774, pryd y daeth Mr. Thomas Lewis o Dy'nycoed, Glyntawy, yma. Efe gafodd y llafur o fod a'r llaw flaenaf yn adeiladaeth y capel a thalu am dano, ond ni chafodd fyw yn hir i bregethu ynddo, canys bu farw yn y flwyddyn 1783. Cyn pen llawn flwyddyn wedi marwolaeth Mr. Lewis, rhoddwyd galwad i Mr. Noah Jones, gweinidog yr eglwysi yn y Cwmmawr a Rhydymardy. Bu ef yma ac yn y Taihirion yn barchus a dylanwadol iawn hyd ei farwolaeth ddisymwth ddydd Nadolig, 1814. Yn mhen tua blwyddyn wedi ei farwolaeth ef rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, gweinidog yr eglwys yn Ebenezer, Aberdar. Darfu i'w ddoniau poblogaidd ef luosogi yr eglwys a'r gynnulleidfa yn fawr, a bu yn llafurio yma hyd y flwyddyn 1829, pryd y rhoddodd y lle i fyny, ac y cyfyngodd ei lafur i'r Taihirion a Bethlehem, Pentyrch. Chwefror 4ydd, 1830, urddwyd Mr. William Griffiths, myfyriwr o athrofa y Neuaddlwyd yma, ac efe oedd y gweinidog cyntaf a urddwyd yn y lle. Gweinidogion wedi eu hurddo mewn lleoedd eraill oedd y tri fuont yma o'i flaen. Ar yr achlysur o urddiad Mr. Griffiths pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Jones, Penybont; holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Jones, Taihirion; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. M. Jones, Bethesda, Merthyr; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Davies, Rhosycaerau, ac i'r eglwys gan Mr. D. Griffiths, Castellnedd.* Bu Mr. Griffiths yn gweithio yma yn egniol a ffyddlon am flynyddau cyn gweled nemawr o lwyddiant ar ei lafur, ond yn y flwyddyn 1841, torodd diwygiad grymus allan yma ac ychwanegwyd amryw ugeiniau at yr eglwys. Bu yma ddiwygiad effeithiol iawn drachefn yn 1860 a 1861. Yn y flwyddyn 1836, tynwyd yr hen gapel i lawr, gan ei fod yn rhy fychan ac yn dra dadfeiliedig, ac adeiladwyd y capel presenol. Maint y capel hwn yw 36 troedfedd wrth 24 tu
• Dysgedydd, 1830. Tu dal. 86.