Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/232

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y ddeheu i Bontarddulais. Gofynodd am letty, a chan ei fod yn lluddedig iawn aeth i'r gwely cyn chwech o'r gloch; ond cyn myned talodd am ei letty, gan roddi ar ddeall y bwriadai gychwyn yn foreu dranoeth. Yn hwyr yr un noson, dyna ŵr dyeithr arall yn dyfod i'r tŷ, ac yn gofyn am letty, yr hyn a ganiatawyd iddo, ond iddo gysgu yn un o ddau, gan fod un eisioes yn y gwely. Aeth hwnw hefyd i'w wely, a chan ei fod yntau yn lluddedig cysgodd yn drwm. Borcu dranoeth yr oedd Richard Jones i fyny rhwng pedwar a phump o'r gloch, a chychwynodd i chwilio am gysgod o ffordd ei erlynwyr; a thua naw o'r gloch cododd y gwr arall, ac ar ol boreufwyd, dywedodd wrth ŵry tŷ, mai heddgeidwad ydoedd yn ymlid ar ol un o'r enw Richard Jones, yr hwn yr oedd gwarant allan i'w ddal am gymeryd rhan yn y cynhwrf Siartaidd. Ac yna darluniodd pa fath un ydoedd. "Wel," ebe gwr y tŷ, "'roedd e yn cysgu yn yr un gwely a chwi neithiwr, ond y mae e wedi myned ymaith er's mwy na phum' awr, ac nis gwn yn y byd tua pha gyfeiriad yr aeth." Rhoddodd yr heddgeidwad i fyny i ymlid ar ei ol, a dychwelodd tua'r lle o'r hwn y cychwynodd. Aeth Richard Jones tua Phontyberem, sir Gaerfyrddin, a dechreuodd weithio yno, a daeth ato ei hun i weled ffolineb ei ofer ymarweddiad. Priododd wraig weddw yno, a dechreuodd fywyd newydd. Arwyddodd yr ardystiad dirwestol, i'r hwn y bu yn ffyddlon hyd angau. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan Mr. Joseph Evans, Capel Seion, yr hwn yn ol ei arfer i bawb a fu yn hynod o garedig iddo. Ennillodd Richard Jones trwy ei wyleidd-dra, ei weithgarwch, ei dynerwch, a'i fuchedd newydd, ymddiried yr holl eglwys. Anaml y gwelwyd neb yn dwyn arwyddion eglurach o wir edifeirwch a dychweliad at yr Arglwydd, a chafodd yr eglwys a'r gweinidog y fath foddlonrwydd ynddo, fel yr anogwyd ef i ail ddechreu pregethu, yr hyn a wnaeth ond gyda gwylder a gostyngeiddrwydd mawr. Er fod ei ddoniau wedi rhydu a'i alluoedd wedi pylu rhagor y peth oeddynt unwaith, etto, pregethai gyda gwres a bywiogrwydd neillduol, ac yr oedd ôl ei brofedigaethau yn amlwg i'w canfod yn ei weddiau a'i bregethau. Anturiodd i ymweled a'i hen gyfeillion yn Nghwmnedd a manau eraill yn Morganwg, ac yr oedd yn dda gan bawb o honynt ei weled wedi cael ei draed yn rhydd o'r clai tomlyd. Symudodd yn mhen amser i Maesteg i weithio, heb fod yn mhell o'r fan lle yr urddwyd ef; a thua'r flwyddyn 1852, ymfudodd i America, lle y bu am fwy na dwy flynedd, a thra yno ymddibynai am ei gynaliaeth ar ei waith, a gweinidogaethai i eglwys fechan o Gymry oedd yn Blossburg, lle yr oedd yn aros. Dychwelodd i Gymru drachefn a sefydlodd yn Maesteg eilwaith, gan bregethu yn mha le bynag y gelwid am dano, ac yr oedd yn dderbyniol yn mha le bynag yr elai; ac nid oedd neb yn cofio ei fuchedd gynt. Derbyniodd alwad gan yr eglwys fechan yn Bethania, Cwmogwy, a bu yn weinidog yno nes y cymerwyd ef ymaith gan angau Mawrth 10fed, 1863, yn 69 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Salem, capel y Bedyddwyr, yn Maesteg, pryd y pregethwyd gan Mr. J. Jones, Zoar, Maesteg.

Gyrfa hynod oedd gyrfa Richard Jones. Galwyd ef yn eglur i bob ymddangosiad gan ras yn ei droedigaeth ar ddechreu ei daith grefyddol; a threuliodd flynyddoedd yn ngwres ei gariad cyntaf, ond aeth deng mlynedd canol ei oes dros ei ben yn y fath fodd ag y buasai yn dda ganddo allu eu dileu o hanes ei fywyd; ond trwy ras Duw adferwyd ef, a threuliodd fwy nag ugain mlynedd olaf ei fywyd gan ddwyn yr arwyddion amlycaf o ddyn gwir edifeiriol; ac yr oedd yn wastad yn barod i ganmol y gras