fewn i'r muriau, ac oriel gyfleus ynddo. Traul yr adeiladaeth oedd 289p., yr hyn a dalwyd hyd at 60p. erbyn dydd yr agoriad. Agorwyd ef Mawrth 15fed a'r 16eg, 1837, pryd y traddodwyd pregethau gan Meistri Rowlands, Pontypool; Jones, Tredegar; Jones, Penmain; Jones, Penybont; Hughes, Dowlais, ac eraill. Bu Mr. Griffiths yn rhyfeddol o ddefnyddiol yma ac yn Nhreoes am yn agos i ddeugain mlynedd, a bydd ei enw yn perarogli yn yr ardal a thrwy yr holl sir am lawer o flynyddau etto i ddyfod. Bu farw yn yr Arglwydd yn 1867. Dilynwyd ef gan Mr. J. W. Morris, yr hwn a urddwyd yma Awst 18fed a'r 19eg, 1868. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. B. Jones, B.A., Penybont; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Williams, Hirwaun; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Evans, Maendy; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. H. Evans, Penbre, ac i'r eglwys gan Mr. J. Davies, Caerdydd.*
Nid ydym yn gwybod am neb a gyfodwyd yma i bregethu ond y gweinidogion canlynol:
Morgan Morgans, Bethesda-y-fro.
Elias Jacob, gynt o Abertawy, yn awr o Ebley, sir Gaerloew. William Griffiths, Trefriw, Arfon. Mab Mr. Griffiths, y gweinidog.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL..
THOMAS LEWIS. Ganwyd ef yn Nghwm-Ebwy-fawr, plwyf Bedwellty, sir Fynwy, yn y flwyddyn 1706. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mhenmain. Mae yn debyg iddo ef, fel llawer o wyr ieuaingc gwresog eraill yn y cynnulleidfaoedd Ymneillduol, ymuno a'r Methodistiaid ar gychwyniad y diwygiad Methodistaidd, a bu am ddwy neu dair blynedd yn pregethu yn eu mysg, ond dychwelodd yn dra buan at ei hen frodyr. Cafodd ei urddo yn weinidog yr eglwys yn Mlaengwrach, Glynnedd, tua y flwyddyn 1746, neu y flwyddyn ganlynol. Bu yn gweinidogaethu yno ac yn Nhy'nycoed hyd y flwyddyn 1774, pryd y symudodd i Lanharan. Efe ddarfu adeiladu y capel cyntaf yn Nhy'nycoed a'r capel cyntaf yn Llanharan. Bu farw Awst 15fed 1783, yn 77 oed, a chladdwyd ef yn mynwent y capel newydd a adeiladasid ganddo yn Llanharan. 1785 yw blwyddyn ei farwolaeth ar ei gareg fedd, ond gwall ydyw; 1783 a ddylasai fod.
Yr oedd Thomas Lewis, yn ol tystiolaeth ei gydoeswyr, yn ddyn da a defnyddiol iawn, ac yn bregethwr nodedig o alluog. Dywed Mr. Phillip Dafydd yn ei ddydd-lyfr, fel y canlyn am dano:-"Medi 3ydd, 1783. Heddyw y clywais am farwolaeth Mr. Thomas Lewis, yr hwn oedd yn weinidog yn Llanharan, yn Morganwg; colled ddirfawr i'r parth hwnw o'r wlad. Yr oedd yn ddyn talentog, ond nid heb ryw wendidau yn moreu ei fywyd. Etto bu 0 wasanaeth mawr yn ei oes. Mae yn debyg mai ei waith yn ymuno a'r Methodistiaid yn ei ieuengctyd oedd "y gwendidau" a briodola Phillip Dafydd iddo.
"
NOAH JONES. Ganwyd ef yn y Trasserch, amaethdy yn mhlwyf Llangafelach, heb fod yn mhell oddiwrth gapel Baran, yn y flwyddyn 1747. Mae yn debyg mai yn y Mynyddbach y derbyniwyd ef yn aelod ac y dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Abergavenny Mai 3ydd, 1773. Yn y flwyddyn 1777, urddwyd ef yn weinidog yr eglwysi yn y Cwmmawr a Rhydymardy, a symudodd oddiyno yn 1784, i gymeryd gofal yr eglwysi yn Llanharan a'r Taihirion, ac yno y bu hyd derfyn ei oes. Bu farw yn rhyfeddol o ddisymwth ddydd Nadolig 1814, yn nghapel y Taihirion. Yr oedd wedi myned yno gyda bwriad i bregethu y boreu hwnw. Eisteddodd mewn cadair freichiau un agos i'r tân yn y capel, a bu farw yno mewn eiliad yn ngwydd amryw bersonau a eisteddant yn ei ymyl. Gadawodd deulu lluosog o blant, ond gofalodd yr Arglwydd yn dyner am danynt. Bu y rhan fwyaf o honynt yn ddefnyddiol gyda chrefydd. Y mae un neu ychwaneg o'i ferched yn fyw hyd etto.
- Tyst Cymreig, Awst 28ain, 1868,
Yr oedd Noah Jones yn ddyn rhyfeddol o barchus a dylanwadol. Heblaw ei wasanaeth fel gweinidog gwnaeth ei hun yn ddefnyddiol iawn fel ysgolfeistr a meddyg. Claddwyd ef wrth gapel Llanharan, lle y mae careg ar ei fedd. Ni chlywsom neb a'i gwrandawodd yn son dim am ei ragoriaethau na'i ddiffygion fel pregethwr. Yr ydym yn barnu mai pregethwr o'r radd ganol ydoedd, heb fod yn nodedig o wael nac yn nodedig o ragorol.
WILLIAM GRIFFITHS. Ganwyd ef Mai 30ain, 1806, mewn amaethdy a elwir Rhydhir, yn mhlwyf Trefelen, gerllaw Narberth, sir Benfro. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond naw mis oed, a bu dan ofal ei fam weddw hyd nes oedd yn ddeuddeg oed, pryd y symudodd at ewythr iddo o'r enw Evan Rees, yr hwn oedd yn byw yn y Garn Dinas, yn agos i Abergwaun. Yr oedd Evan Rees yn ŵr crefyddol, yn aelod ac yn ddiacon yn yr eglwys Annibynol yn Abergwaun; a chyn hir wedi ei fynediad at ei ewythr derbyniwyd William Griffiths yn aelod eglwysig. Canfyddwyd yn fuan fod ynddo ddoniau uwchlaw y cyffredinolrwydd o'i gyfoedion, ac anogwyd ef gan ei weinidog, Mr. W. Davies, a'r eglwys i arfer ei ddawn i bregethu pan yn ddwy-ar-bymtheg oed. Bu am flwyddyn yn derbyn addysg dan ofal ei weinidog, ac yna aeth i athrofa Neuaddlwyd, lle yr arhosodd bum' mlynedd, ac yno ennillodd gymeradwyaeth ei athraw, serch ei gydefrydwyr, ac ymddiried yr holl eglwysi cylchynol.
Yn niwedd y flwyddyn 1829, aeth ar daith trwy sir Forganwg, a derbyniodd alwad gan eglwys Llanharan, a'r hon y cydsyniodd, ac urddwyd ef yno Chwefror 4ydd, 1830. Dechreuodd ei weinidogaeth o dan ystyriaeth bwysig o'i gyfrifoldeb, a chyda difrifoldeb un yn teimlo fod ganddo waith mawr o'i flaen, ac ni bu raid iddo aros yn hir cyn cael prawf o foddlonrwydd yr Arglwydd ar ei lafur. Yr oedd yn nechreuad ei weinidogaeth, ac felly y parhaodd trwy ei oes, o deimladau crefyddol dwys, yn bur a didoledig yn ei fuchedd a'i ymarweddiad, ac yn llawn gweithgarwch ac awydd am helaethu terfynau teyrnas y Gwaredwr. Ni chyfyngai ei lafur yn unig i'w gylch cartrefol, ond pregethai trwy yr holl wlad oddiamgylch; a thrwy ei offerynoliaeth ef yn benaf y sefydlwyd yr achos yn Nhreoes, am yr hwn y gofalai mewn cysylltiad a Llanharan hyd ddiwedd ei oes. Yn holl achosion yr enwad yn y sir yr oedd yn barod i gymeryd ei ran yn ewyllysgar, ac anaml y gwelid ei le yn wag yn urddiadau, nag agoriad capeli, na chyfarfodydd chwarterol y cyfundeb i'r hwn y perthynai iddo; ac yn aml iawn gwahoddid ef i gyfarfodydd a chymanfaoedd siroedd eraill. Byddai bob amser yn barod i roddi pob help yn ei allu i achosion gweiniaid, neu eglwysi amddifaid o weinidogion, a phan y byddai baich o ddyled ar y naill neu y llall ag eisiau ei symud, nid oedd neb y gallesid ymddibynu yn fwy ar ei gynorthwy. Gwasanaethodd fel ysgrifenydd i gyfundeb dwyreiniol Morganwg am fwy nag ugain mlynedd, ac nis gallasai neb fod yn ffyddlonach ynddi nag y bu ef. Yr oedd yn bregethwr sylweddol ac efengylaidd, ac ar brydiau byddai yn cael oedfaon anarferol. o hwyliog. Dichon y cyfrifasai rhai yn welliant pe buasai ei gydmariaethau yn fwy coeth weithiau, ond "pur yn ddiau yw pob peth i'r rhai pur." Bendithiwyd ef ag amryw ddiwygiadau grymus yn ystod ei weinidogaeth, ac ar rai adegau derbyniwyd canoedd ganddo i gymundeb eglwysig, ac o dan y dylanwadau hyny yr oedd yn nodedig o effeithiol yn ei weinidogaeth. Yr oedd ddwy flynedd cyn ei farwolaeth wedi cael ergyd ysgafn o'r parlys, yr hyn a effeithiodd yn fawr arno, ac a'i hanalluogodd i gyflawni ei ddyledswyddau fel cynt; a dangosodd yr eglwysi dan ei ofal, a gweinidogion y cyfundeb, ac eraill, eu gwerthfawrogiad o'i lafur a'i wasanaeth am ddeunaw-mlynedd-ar-hugain trwy gyflwyno tysteb iddo; a theimlai pawb ei fod yn haeddu gwneuthur o honynt hyn iddo. Bu farw Gorphenaf 25ain, 1867, yn 61 oed, a chan bawb a'i hadwaenai y mae "ei goffadwriaeth yn fendigedig."
TREOES.
Dechreuwyd yr achos yma yn y flwyddyn 1831 gan Mr. W. Griffiths, Llanharan, yn benaf; ac yn mysg yr aelodau gwreiddiol yr oedd David Jones, gwehydd, a Benjamin Lewis, aelodau o Lanharan, a Morgan Williams, Tycendy, a Margaret ei wraig, a David Owen ac Elizabeth Leyshon, Treoes, aelodau o Benybont. Ffurfiwyd yr eglwys gan Mr. Griffiths mewn hen ysgubor yn mhentref Treoes, a chyn hir prynwyd yr hen adeilad hono, gyda gardd oedd yn nglyn ag ef, gan David Jones, Lewis Jenkins, a David Owen oddiar Edward Mordicai, Treoes, am 30p., er mwyn adeiladu capel arno pan ddeuai amser cyfaddas. Sefydlwyd yma Ysgol Sabbothol a phob moddion yn rheolaidd, a daeth yr achos rhagddo yn dra llwyddianus. Yn y flwyddyn 1841, adeiladwyd yma gapel newydd yn mesur 40 troedfedd wrth 34 troedfedd, gwerth 240p., ac agorwyd ef yn nglyn a chyfarfod chwarterol y cyfundeb a gynaliwyd yma Chwefror 16eg a'r 17eg, 1842;* ac yr oedd haner dyled y capel wedi ei thalu cyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad. Ennillodd yr achos yma ffafr yn ngolwg yr ardalwyr, ac wedi y diwygiad grymus a gafwyd yn y flwyddyn 1859, a'r flwyddyn 1860, aeth y capel yn rhy fychan fel y gwelwyd yn angenrheidiol rhoddi oriel ynddo, yr hon gyda rhyw adrefniadau eraill a gostiodd gan' punt. Ailagorwyd ef Medi 17eg a'r 18fed, 1861.† Bu y lle mewn cysylltiad a Llanharan hyd farwolaeth Mr. Griffiths, ac ar ol hyny penderfynodd yr eglwys fynu gweinidog iddi ei hun, a rhoddwyd galwad i Mr. Rees Saron Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Hydref 14eg a'r 15fed, 1868. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Davies, Caerdydd; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. B. Jones, B.A., Penybont; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Evans, Maendy; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Williams, Castellnewydd, ac i'r eglwys gan Mr. M. Morgan, Bethesda. Llafuriodd Mr. Jones yma gyda derbyn
• Diwygitor, 1842. Tu dal. 124. OT. IL
+ Diywgirr, 1881. Tu dal. 344
Tyst, IIydref 23ain , 1868. iD
nad hyd ddiwedd y flwyddyn 1871, pryd yr ymfudodd i'r America. Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef Thomas Thomas, yr hwn wedi derbyn ei addysg yn athrofa Aberhonddu, a aeth allan yn genhadwr i Affrica, ond y mae yn awr yn y wlad hon.
Mae capel bychan wedi ei godi gan eglwys Treoes yn Llangrallo. Cafwyd y tir i adeiladu yn rhad, i fod byth yn eiddo yr eglwys, gan Mr. John Thomas, Llangrallo, yr hwn sydd yn aelod yn Nhreoes. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr gan Mr. M. Morgan, Bethesda, Medi 2lain, 1870; ac agorwyd y capel Mehefin 26ain a'r 27ain, 1871, ac ar yr achlysur pregethwyd gan Meistri J. Davies, Caerdydd; J. Evans, Maendy; M. Morgan, Bethesda; J. Davies, Taihirion; J. Thomas, Tresimwn; J. M. Evans, Caerdydd; D. E. Jones, M.A., Sirhowy; J. Edwards, Pontygof; W. C. Davies, Llantrisant, ac eraill. Costiodd yr adeilad oddeutu 120p., heb gyfrif y cludiad, yr hyn a roddwyd gan yr ardalwyr yn rhad. Cynhelir yma Ysgol Sabbothol yn rheolaidd, a phregethir ynddo yn lled gyson er nad oes ynddo eglwys wedi ei ffurfio.
MAENDY.
Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanbleddian, ac mae yn ymddangos fod gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynal yn yr ardal hon er dyddiau Siarl II. Bu Henry Williams, Llantrisant; John Powell, Llanbleddian; W. Thomas, Llanfair, a Samuel Jones, Llangynwyd yn llafurio yma. Dywedir fod ty wedi ei drwyddedu yn mhentref Aberthyn cyn gynted ag y cafwyd cysgod dan Ddeddf Goddefiad, a rhoddodd y perchenog y tŷ a'r ardd berthynol iddo drosodd trwy weithred gyfreithiol i fod yn feddiant i'r Ymneillduwyr. Yr oedd y lle hwnw mewn cysylltiad a Phenybont-ar-ogwy, a bu Mr. Lewis Jones yn gofalu am y ddeadell fechan wedi ei ddyfodiad ef i Benybont, ond nid oes genym sicrwydd a oedd ei ragflaenoriaid yn y weinidogaeth yn gwneyd hyny. Tua'r flwyddyn 1740, daeth Mr. Howell Harris, Trefeca, trwy y wlad, a pharodd ei ymweliad gyffroad (mawr. Rhoddwyd derbyniad iddo yn Aberthyn fel y gwneid mewn llawer o fanau lle yr oedd hen gynnulleidfaoedd Ymneillduol. Yr ydym fwy nag unwaith yn flaenorol wedi cael achlysur i gofnodi y gefnogaeth a roddid i Howell Harris gan rai o weinidogion yr Ymneillduwyr a chan eu cynnulleidfaoedd. Ymunodd pobl Howell Harris, fel eu gelwid, a'r Annibynwyr yn Aberthyn, am fod ganddynt ryw fath o dŷ addoliad yn barod, a buont yno yn cydaddoli dros lawer o flynyddoedd. Nid y Methodistiaid yn benaf yn cael eu cynorthwyo gan yr Annibynwyr, fel y camhysbysir yn Hanes Methodistiaeth, Cyf. III., tu dal. 51, a adeiladodd gapel Aberthyn; ond y Methodistiaid a ymwasgodd at yr Annibynwyr i'r ty cwrdd bychan oedd ganddynt yno eisioes at eu gwasanaeth.* Gwelir hefyd nad cywir yw yr hyn a ddywedir gan awdwr yr ysgrif ar "Jones o Langan a'i amserau" yn y Traethodydd:-" Adeiladwyd y capel hwn yn benaf gan y Methodistiaid, ond nid ganddynt hwy eu hunain. Cynorthwyid hwy gan yr Annibynwyr, y rhai er bod llawer o honynt yma a thraw ar hyd y wlad nid oedd ganddynt un lle o addoliad eu hunain." Oedd, yr oedd yr hen dy yn Aberthyn ganddynt, ac er mor ddiaddurn
- Ysgrif Mr. J. Evans, Maendy
ydoedd yr oedd yn dda gan y dychweledigion trwy weinidogaeth Howeli Harris gael ymwasgu at yr Annibynwyr ynddo. Yn y flwyddyn 1749, codwyd capel newydd yn Aberthyn yn lle yr hen dy, ac ar y fan lle y safai hwnw; ac yn adeiladiad hwnw yr oedd y ddau enwad yn cydweithio, ac nid ydym mewn cyfle i ddywedyd pwy a wnaeth fwyaf. Pregethid yma gan weinidogion yr Annibynwyr, a chan y pregethwyr Methodistaidd y rhai a deithiant y wlad. Tua'r flwyddyn 1766, rhoddwyd galwad i Mr. David Williams, Llysyfronydd i fod yn weinidog yr eglwys yn Aberthyn, ac urddwyd ef yn ol trefn yr Annibynwyr. Dywedir mai un o Blaenpenal, sir Aberteifi oedd David Williams, a'i fod yn un o ddisgyblion yr hybarch Phillip Pugh, ond iddo ar doriad y diwygiad Methodistaidd allan ymuno a Daniel Rowlands yn Llangeitho, fel y gwnaeth amryw eraill nad oeddynt yn teimlo fod gwres digonol yn nghrefydd yr Ymneillduwyr, ac nad oedd nodwedd eu gweinidogaeth yn ddigon ymosodol. Mae yn ffaith mai o'r hen eglwysi Ymneillduol oedd eisioes yn y wlad y cafodd y Methodistiaid lawer, os nad y rhan fwyaf o'u cynghorwyr cyntaf; a hen Ymneillduwyr gan mwyaf oedd y rhai a osodwyd yn olygwyr ar eu cymdeithasau neillduol; a dychwelodd amryw o honynt yn ol at eu pobl a chymerasant ofal gweinidogaethol. Un o honynt hwy fel yr ymddengys oedd David Williams, ac anfonwyd ef i Fro Morganwg i edrych ar ol y mân gymdeithasau Methodistaidd oedd bellach wedi eu sefydlu yn y wlad; a char mai achos cymysgedig o Annibynwyr a Methodistiaid oedd yn Aberthyn, yr oedd y lle hwnw yn rhan o faes ei lafur. Priododd ferch i ŵr cyfrifol yr. y wlad ac aeth i fyw i Lysyfronydd, yr hyn a'i cododd i barchusrwydd yn ngolwg y bobl, ac fel y crybwyllasom, urddwyd ef yn weinidog i'r gynnulleidfa gymysg yn Aberthyn. Cynyddodd yr eglwys dan ei ofal mewn rhifedi ac mewn doniau, a chyrchid i'r lle gan luaws o bobl o'r hol wlad oddiamgylch. Ond ni ddiangodd Mr. Williams heb gael ei flino gan gyfeiliornadau. Diarddelwyd tua dwsin o Antinomiaid o Aberthyn tua'r flwyddyn 1780, y rhai a wnaethant gais am sefydlu achos iddynt eu hunain yn y Bontfaen. Blaenorid hwy gan un a elwid Rhys y Printer; ond yntau hefyd a ddarfu am dano, a chynifer ag a lynasant wrtho a wasgarwyd. Ar ol hyny bu Sandemaniaeth yn ymosod ar y lle trwy ddylanwad Mr. Popkin, Talygarn, yr hwn a gyhoeddodd waith Robert Sandeman; ond symudodd ef i Abertawy, ond nid cyn peri rhwyg a therfysg yn yr eglwys. Ciliodd plaid Arminaidd hefyd allan o'r eglwys, ond darfu yn fuan am danynt hwythau. Er fod lefain drygionus yn gweithio fel hyn yn yr eglwys yn mhell cyn diwedd oes Mr. David Williams, etto yr oedd yr achos ar y cyfan yn flagurog a llwyddianus. Yn nechreu 1780, penderfynwyd ailadeiladu y capel, yr hyn a wnaed trwy gydweithrediad yr Annibynwyr a'r Methodistiaid; ac agorwyd ef Awst 20fed y flwyddyn hono. Bu farw Mr. David Williams Mai 5ed, 1792, yn 75 oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am haner can' mlynedd. Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr. David Davies, Rhiadr-wy; a bu diwygiad grymus yn y lle yn ddioed wedi iddo ddechreu ei weinidogaeth. Clywid sain cân a moliant yn mhyrth merch Seion. Ond dilynwyd yr haf dymunol hwn gan auaf blin ac ystormus. Daeth Mr. Peter Williams i'r ardal ar ol i'r Methodistiaid ei fwrw ymaith am ei Sabeliaeth, a bu yn aros yma dros dymor; ac yn y cyfamser hauodd ei egwyddorion o dŷ i dŷ nes cynhyrfu y wlad. Cofleidiwyd y golygiadau Sabelaidd gan lawer yn eglwys Aberthyn, fel yr aeth yn gynwrf a therfysg mawr; ac ar un Sab