Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/238

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd ddiwedd y flwyddyn 1871, pryd yr ymfudodd i'r America. Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef Thomas Thomas, yr hwn wedi derbyn ei addysg yn athrofa Aberhonddu, a aeth allan yn genhadwr i Affrica, ond y mae yn awr yn y wlad hon.

Mae capel bychan wedi ei godi gan eglwys Treoes yn Llangrallo. Cafwyd y tir i adeiladu yn rhad, i fod byth yn eiddo yr eglwys, gan Mr. John Thomas, Llangrallo, yr hwn sydd yn aelod yn Nhreoes. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr gan Mr. M. Morgan, Bethesda, Medi 2lain, 1870; ac agorwyd y capel Mehefin 26ain a'r 27ain, 1871, ac ar yr achlysur pregethwyd gan Meistri J. Davies, Caerdydd; J. Evans, Maendy; M. Morgan, Bethesda; J. Davies, Taihirion; J. Thomas, Tresimwn; J. M. Evans, Caerdydd; D. E. Jones, M.A., Sirhowy; J. Edwards, Pontygof; W. C. Davies, Llantrisant, ac eraill. Costiodd yr adeilad oddeutu 120p., heb gyfrif y cludiad, yr hyn a roddwyd gan yr ardalwyr yn rhad. Cynhelir yma Ysgol Sabbothol yn rheolaidd, a phregethir ynddo yn lled gyson er nad oes ynddo eglwys wedi ei ffurfio.

MAENDY.

Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanbleddian, ac mae yn ymddangos fod gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynal yn yr ardal hon er dyddiau Siarl II. Bu Henry Williams, Llantrisant; John Powell, Llanbleddian; W. Thomas, Llanfair, a Samuel Jones, Llangynwyd yn llafurio yma. Dywedir fod tŷ wedi ei drwyddedu yn mhentref Aberthyn cyn gynted ag y cafwyd cysgod dan Ddeddf Goddefiad, a rhoddodd y perchenog y tŷ a'r ardd berthynol iddo drosodd trwy weithred gyfreithiol i fod yn feddiant i'r Ymneillduwyr. Yr oedd y lle hwnw mewn cysylltiad a Phenybont-ar-ogwy, a bu Mr. Lewis Jones yn gofalu am y ddeadell fechan wedi ei ddyfodiad ef i Benybont, ond nid oes genym sicrwydd a oedd ei ragflaenoriaid yn y weinidogaeth yn gwneyd hyny. Tua'r flwyddyn 1740, daeth Mr. Howell Harris, Trefeca, trwy y wlad, a pharodd ei ymweliad gyffroad (mawr. Rhoddwyd derbyniad iddo yn Aberthyn fel y gwneid mewn llawer o fanau lle yr oedd hen gynnulleidfaoedd Ymneillduol. Yr ydym fwy nag unwaith yn flaenorol wedi cael achlysur i gofnodi y gefnogaeth a roddid i Howell Harris gan rai o weinidogion yr Ymneillduwyr a chan eu cynnulleidfaoedd. Ymunodd pobl Howell Harris, fel eu gelwid, a'r Annibynwyr yn Aberthyn, am fod ganddynt ryw fath o dŷ addoliad yn barod, a buont yno yn cydaddoli dros lawer o flynyddoedd. Nid y Methodistiaid yn benaf yn cael eu cynorthwyo gan yr Annibynwyr, fel y camhysbysir yn Hanes Methodistiaeth, Cyf. III., tu dal. 51, a adeiladodd gapel Aberthyn; ond y Methodistiaid a ymwasgodd at yr Annibynwyr i'r tŷ cwrdd bychan oedd ganddynt yno eisioes at eu gwasanaeth.[1] Gwelir hefyd nad cywir yw yr hyn a ddywedir gan awdwr yr ysgrif ar "Jones o Langan a'i amserau" yn y Traethodydd:—"Adeiladwyd y capel hwn yn benaf gan y Methodistiaid, ond nid ganddynt hwy eu hunain. Cynorthwyid hwy gan yr Annibynwyr, y rhai er bod llawer o honynt yma a thraw ar hyd y wlad nid oedd ganddynt un lle o addoliad eu hunain." Oedd, yr oedd yr hen dŷ yn Aberthyn ganddynt, ac er mor ddiaddurn

  1. ↑ Ysgrif Mr. J. Evans, Maendy