pryd y rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Morgan Morgans, Blaenafon, Mynwy. Mae Mr. Morgans yn parhau yma hyd y dydd hwn yn barchus a defnyddiol. Nid oes yn awr ond dau neu dri yn fyw o'r aelodau oeddynt yn rhoddi galwad i Mr. Morgans, ond y mae yr Arglwydd wedi cyfodi eraill i lenwi eu lleoedd, fel y mae yr eglwys, er nad yw etto ond ychydig mewn cymhariaeth o rif, yn lluosocach nag y bu ar un tymor o'i hanes. Gan fod Mr. Williams wedi arfer y bobl i fyw heb gyfranu at yr achos, mae yn naturiol i ni gasglu fod Mr. Morgans wedi cael cryn drafferth a dyoddef llawer o anfanteision wrth ddysgu eu dyledswydd iddynt, ond gan ei fod yn ddyn mor ryfeddol o hynaws a doeth, cadwodd bob peth i fyned yn mlaen yma yn unol a pherffaith dangnefeddus trwy yr holl flynyddau. Yn 1853, gosodwyd eisteddleoedd prydferth a chyfleus yn y capel, yn lle meingciau moelion oeddynt ynddo o'r blaen. Gwnaed y pulpud o newydd hefyd, ac amryw adgyweiriadau eraill yn ac oddiamgylch y lle, a thalwyd am y cwbl ar unwaith gan y gynnulleidfa. Capel bychan yw Bethesda, prin yr eistedd dau gant o bersonau yn gyfleus ynddo, ond y mae y gweinidogion, a rhyw nifer o bersonau dylanwadol sydd o oes i oes wedi bod yn perthyn i'r achos yma, wedi gosod rhyw enwogrwydd neillduol ar y lle. Nid ydym yn gwybod hanes y personau fuont yma yn cychwyn yr achos mor fanwl fel y gallwn roddi desgrifiad o'u cymeriadau. Yr oedd Henry Edmunds a'i wraig, o Felin, Llanddiddan, tad a mam Mrs. Griffiths, gweddw y diweddar Mr. Griffiths, Llanharan, yn bobl ragorol, ac yn rhyfeddol o ffyddlon a chroesawus i holl bregethwyr yr oes o'r blaen a ymwelent a'r fro. Ond dichon mai y gwr mwyaf nodedig gyda'r achos hwn, heblaw Mr. Williams, y gweinidog, oedd Mr. John Williams, St. Athan. Yr oedd ef yn frawd i Mr. David Williams, Llysyfronydd, gweinidog yr eglwys yn Aberthyn. Cylchwr (cooper)' oedd wrth ei alwedigaeth. Bu yn byw am flynyddau lawer yn mhentref St. Athan, ac yn cadw siop yno. Yr oedd yn gysurus yn ei amgylchiadau bydol. Bu yn briod a phedair o wragedd. Bu farw Awst 26ain, 1806, yn 81 oed, a chladdwyd ef yn mynwent plwyf St. Athan. Yr oedd yn ddyn o alluoedd cryfion ac yn grefyddwr o'r fath ragoraf. Cymhellwyd ef yn daer gan yr eglwys i arfer ei ddoniau fel pregethwr, ond gwrthododd wneyd hyny. Yr oedd yn brydydd rhagorol. Efe yw awdwr yr emyn adnabyddus hwnw-"Pwy welaf o Edom yn d'od," &c., ac amryw emynau poblogaidd eraill. Cyfansoddodd hefyd rai marwnadau ar ol cyfeillion crefyddol.[1] Yr oedd Thomas Williams, y gweinidog, a John Williams yn gyfeillion mynwesol iawn. Yn mhen pedwar ugain o fisoedd wedi ei farwolaeth, cynhyrfwyd awen Thomas Williams wrth fyned heibio anedd ei hen gyfaill i ganu y penillion canlynol:
"Ai hon yw'r anedd hono bu Williams ynddi'n byw?
Er gwybod, prin 'rwy'n credu mai'r anedd hyny yw;
Mae'r myrtwydd man, a'r tulip, a'r lili gwyn ei gwawr,
A muriau'r tŷ'n mynegu, mai eraill sy' yma 'nawr.
Hawddfyd i'r oriau hyfryd, dreuliasom ganwaith, gwn,
Myfi a'm hoff gydymaith dan dô yr hen dŷ hwn;
O'm golwg, trwm yw'r galon, fe'i mudwyd, daew'r fan,
Mae'i dŷ e' 'nawr wrth ochr hen furiau llwyd y llan.
- ↑ Llythyr Mr. Morgans, Bethesda.