Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/260

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a dyweyd wrth ei filwyr, "Trueni yw gwneyd dim i'r bobl hyn." Adroddir gan Mr. Thomas yn Hanes y Bedyddwyr, i hen gristion enwog o'r enw Saphin, neu Sephaniah, fyned unwaith yn nyfnder y nos tua Chwmyglo, ac wedi iddo fyned i mewn, i'r addolwyr mewn rhan arall o'r tŷ glywed trwst ei draed ac iddynt ddychrynu rhag ofn mai erlidiwr oedd yno. Pan ddeallodd yntau eu bod wedi brawychu, gwaeddodd allan, "Pa ham yr ofnwch, 'y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn."

Nid ydym wedi cael allan pwy fu yn gweinidogaethu yma o amser marwolaeth Mr. Henry Maurice yn 1682 hyd y flwyddyn 1698. Gan fod yr eglwys hon wedi bod yn gangen o eglwys wasgaredig sir Frycheiniog, mae yn eithaf naturiol i ni gasglu mai Mr. Rees Prytherch, Ystradwallter, a gweinidogion Aberhonddu a Thredwstan, a ofalent yn benaf am y gangen hon, fel y cangenau eraill. Yn 1698, sefydlwyd Mr. Roger Williams yn weinidog yma mewn cysylltiad a Chefnarthen, a pharhaodd i lafurio yn y cylch hwn hyd derfyn ei oes yn 1730. Gallwn gasglu oddiwrth ganiadau Sion Llewellyn, un o aelodau yr eglwys, fod yr achos yn dra llewyrchus yma dan weinidogaeth Roger Williams; fod y gweinidog yn un manol ac ymdrechgar iawn i addysgu yr ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig yn egwyddorion mawrion Cristionogaeth; a bod yr eglwys yn ofalus iawn i edrych pwy a pha fath ddynion a dderbyniai i'w chymundeb. Dywed Sion Llewellyn iddo ef gael ei gadw ar brawf "o fis Mehefin hyd wyl Andreas," a bod rhai hyd yn nod ar ol y prawf maith hwnw am ei wrthed. Fel y canlyn y rhigymir yr hanes ganddo:

Treulio'r dyddiau hyny'n chwerw, Rhai'n fy nhaflu, rhai'n fy nhadw, Fe ddywedai rhai mor ffol dan chwerthin, Na rowch un law i Sion Llewellyn; Fe dd'wedai'r gwir addolwyr cynes, Os yw e' 'nawr yn rhodio'n addas, Oni phrofir i'r gwrthwyneb Mae'n rhaid ei dderbyn i gymundeb."

Mae'n ymddangos fod Roger Williams yn gogwyddo yn fawr at Arminiaeth neu Belagiaeth, ac iddo hau yr egwyddorion hyny yn mysg pobl ei ofal yn Merthyr a Chefnarthen, yr hyn a achosodd ofid nid bychan, ac a derfynodd yn rhwygiad y ddwy eglwys yn mhen ychydig flynyddau ar ol ei farwolaeth ef. Ryw amser rhwng 1720 a 1725, rhoddodd yr eglwys yn Nghwmyglo alwad i Mr. James Davies, Llanwrtyd, i ymsefydlu yn eu plith fel cydweinidog a Mr. Roger Williams. Yr oedd James Davies yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn Nghymru, ac yn Galfiniad trwyadl o ran ei olygiadau. Yr ydym yn barnu mai y blaid Galfinaidd yn yr eglwys fu a'r llaw flaenaf yn ei ddewisiad ef, ac mai eu hamcan oedd gwrthweithio Arminiaeth Roger Williams. Wedi marwolaeth Williams, aeth y blaid Arminaidd i fethu cael bwyd enaid dan weinidogaeth Mr. Davies, ac i edrych allan am Arminiad i fod yn gydweinidog ag yntau. Dewisasant Mr. Richard Rees, gwr ieuange o'u plith eu hunain, yr hwn oedd newydd orphen ei amser yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yn 1782, yn mhen dwy flynedd wedi marw R. Williams. Cafodd yr Arminiaid bob peth a ddymunent yn Richard Rees, fel y tystia Sion Llewellyn yn y Ilinellau canlynol:

"Wedi marw Rosser William, Gwr oedd ei lwybrau megis Abr'am, A'i symud ymaith trwy farwolaeth, Ni wyddwn beth a wnawn gan hiraeth;

Gwrando hwn a gwrando arall, Weithiau'n dwlio, weithiau'n deall, Rhai'n gwledda'n fras ar seigiau cyfain, A minau'n wylo am fwy o halen.

Er cynaliaeth mawr i'm crefydd, Duw gododd Mr. Rees i fynydd, Gwr llawn o ddeall, dysg, a doniau, Llariaidd gwresog ei rasusau; Mi glywn y gwr yn rhoi ergydion, Ac yn dechreu hela hoelion, 'Nol eu hiro yn olew'r Ysbryd, Fe gerddai'r hoelion hyny'n hyfryd."

Yn

Fel hyn bu yr Arminiaid a'r Calfiniaid yn cael eu porthi yn nghyd yn yr un lle am bymtheng mlynedd; ond mae yn eithaf naturiol casglu fod lawer dadl boeth wedi bod rhyngddynt yn ystod y blynyddau hyny, ac o'r diwedd aeth yn rhy boeth arnynt i gydfyw fel yr ymrwygasant. Aeth y blaid Arminaidd allan ac adeiladodd gapel iddi ei hun ar Gefn-coed-ycymer-y capel sydd yn awr yn meddiant yr Undodiaid. Cymerodd yr ymraniad le yn 1747. Yr oedd Sion Llewellyn, y prydydd, yn un o Haenoriaid y blaid Arminaidd. Yn y flwyddyn 1749, darfu i'r blaid a adewsid yn Nghwmyglo, dan ofal Mr. James Davies, gymeryd darn o dir cyfleus yn mhentref Merthyr, lle yr adeiladasant gapel yr Ynysgau, i ba un y symudodd yr arch o hen addoldy Cwmyglo. Yn y flwyddyn 1751, darfu i'r aelodau a breswylient y tu arall i'r mynydd yn Aberdar adeiladu capel ar Heolyfelin. Nid ydym yn barnu fod y rhai hyn yn Arminiaid, oblegid Owen Rees, gweinidog y Calfiniaid yn Mhentretygwyn, oedd y gweinidog cyntaf a ddewisasant. Er iddynt lithro yn raddol wedi hyny i Arminiaeth, Ariaeth, ac Undodiaeth. Y mae genym bob sail i farnu mai cyfleustra yr addolwyr oedd yr achos o'u hymadawiad oddiwrth Mr. James Davies a phobl yr Ynysgau, yn hytrach na gwahaniaeth golygiadau. y flwyddyn 1750, yn fuan wedi agor capel yr Ynysgau, urddwyd Mr. Samuel Davies, yn gydweinidog a'i dad, Mr. James Davies. Os cafodd yr hen weinidog ofid wrth gydweinidogaethu yn Nghwmyglo a Mr. Richard Rees, mae pob lle i ddeall i'w ofid fod yn fwy mewn cysylltiad a'i fab yn yr Ynysgau. Yr oedd Samuel Davies, fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr Caerfyrddin yn yr oes hono, wedi ymwrthod a'r golygiadau Calfinaidd a gredid ac a bregethid gan ei dad, ac wedi cofleidio Arminiaeth. Darfu i'r hen ŵr yn ei henaint gydymddwyn ag Arminiaeth yn ei fab, yr hyn a wrthwynebai mor selog yn Richard Rees, a thrwy hyny collodd ei barch gyda'r Calfiniaid a'r Arminiaid. Mae yn ymddangos iddo dreulio blynyddoedd olaf ei fywyd yn lled anghyoedd a dinod, os nad yn ddiddefnydd hefyd; er iddo fod am dymor maith o'i fywyd yn un o'r gweinidogion Ymneillduol mwyaf enwog yn Nghymru. Bu farw yn Ebrill, 1760. Parhaodd Mr. Samuel Davies yn weinidog yn yr Ynysgau hyd derfyn ei oes yn Mawrth 1781. Yr oedd y gynnulleidfa yn ei dymor ef yn lluosog iawn, ac yn cael ei gwneyd i fyny o brif deuluoedd y plwyf, ac amryw o'r plwyfydd cylchynol, ac er ei fod yn Arminiad hollol, nid ymddengys i nemawr o'i bobl ef, fel pobl Cefn-coed-y-cymer ac Aberdar, lithro i Ariaeth. Dilynwyd Mr. S. Davies gan Mr. Thomas Williams, mab Mr. David Williams, o'r Watford, ond ni bu ei arosiad ef yma ond tair blynedd. Ar farwolaeth ei dad symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Nghaerdydd a'r Watford. Can-

lyniedydd Mr. Williams oedd Mr. Daniel Davies, o athrofa Caerfyrddin, yr hwn a urddwyd yma Medi 6ed, 1786. Arminiad oedd Mr. Davies • ran ei farn, ond nid ymddengys iddo fyned yn mhellach nag Arminiaeth, er mai yr Undodiaid oedd y bobl yr ymgyfeillachai fwyaf a hwy yn y rhan ddiweddaf o'i oes. Tua diwedd y ganrif ddiweddaf daeth amryw aelodau perthynol i'r Annibynwyr i Ferthyr, a chan nad oedd gweinidogaeth Mr. Davies yn yr Ynysgau yn ddigon bywiog ac efengylaidd at eu harchwaeth hwy, dechreuasant yr achos sydd yn awr yn Zoar, a chyda llwyddiant hwnw, lleihawyd y gynnulleidfa yn yr Ynysgau yn fawr. Gan fod Mr. Davies wedi priodi yn gyfoethog iawn, ac wrth weled fod addoldai Ymneillduol yn lluosog yn cael eu cyfodi o'i amgylch, yr hyn a deneuai ei gynnulleidfa ef yn feunyddiol, gwnaeth ei feddwl i fyny i ymadael o'r weinidogaeth yn nechreu y flwyddyn 1811, ac ar yr 20fed o Fawrth, yn yr un flwyddyn, cafodd Mr. Thomas Benjamin Evans, o athrofa Caerfyrddin, ei urddo yn ganlyniedydd iddo yn yr Ynysgau. Yn dra buan ar ol ei urddo dechreuodd Mr. Evans bregethu athrawiaeth fwy efengylaidd nag a bregethasid yn mhulpud Ynysgau er dyddiau Mr. James Davies. Cynhyrfodd hyny rai o'r hen deuluoedd perthynol i'r gynnulleidfa, y rhai a ogwyddent at Undodiaeth, yn mysg pa rai yr oedd ymddiriedolwyr y capel. Ceisiasant trwy gyfraith yn 1814, fwrw y gweinidog allan o'r lle, a chymeryd meddiant o'r capel i'r Undodiaid, ond ennillodd Mr. Evans y gyfraith a chafodd gadw ei le. Wedi hyny agorwyd cwyn cyfreithiol arall rhyngddo a'r ymddiriedolwyr. Yr oedd un John Williams, o Benydarran, yr hwn oedd yn aelod yn Nghwmyglo, wedi gadael yn ei ewyllys, dyddiedig Tachwedd 18fed, 1735, dir o dri ugain erw yn Mhenydarran, ac amryw dai yn mhentref Merthyr, at gynaliaeth Mr. James Davies, gweinidog Cwmyglo, a'i olynwyr. Cafodd cynyrch y tir a'r tai ei dalu yn flynyddol i weinidogion yr Ynysgau hyd amser Mr. Evans, pryd y cymerodd yr ymddiriedolwyr eu rhyddid i ranu yr arian rhwng gweinidogion yr Undodiaid yn Aberdar a Chefn-coed-y-cymer, yn gystal a gweinidog yr Ynysgau, dan yr esgus fod ganddynt hwy gystal hawl ynddynt ag oedd gan weinidog yr Ynysgau, yn gymaint mai at yr achos yn Nghwmyglo yr oedd yr eiddo wedi ei adael, a bod Aberdar ar Cefn yn ganghenau o'r hen eglwys hono yr un fath a'r Ynysgau. Ar ol llawer 0 ymgyfreithio bu raid i'r ymddiriedolwyr roddi ffordd a gadael y gwaddol i weinidogion yr Ynysgau yn unig. Mae y gwaddol hwn yn bresenol, os nad ydym yn camgymeryd, rhwng haner cant a thriugain punt yn y flwyddyn.

Am y deg neu y pymtheng mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth yr oedd Mr. Evans yn barchus a thra phoblogaidd yn Merthyr, ond yn ei flynyddau diweddaf ymollyngodd yn dost nes iddo fyned yn ddiddawn, yn ddiddefnydd, ac yn ddibarch, fel gweinidog yr efengyl, er y parheid hyd derfyn ei oes i'w barchu a'i anwylo yn fawr fel dyn a chymydog hynaws a charedig. Yn ei flynyddau olaf ef yr oedd yr eglwys a'r gynnulleidfa wedi myned yn agos i'r dim. Ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth aeth tua haner cant neu ychwaneg o aelodau o Zoar yno, ac yn eu plith Mr. Rosser Beynon. Bu hyny yn foddion i gyfodi yr hen le megis o farw yn fyw, ac i ddarparu yno rywbeth teilwng o'r enw eglwys erbyn y buasai amgylchiadau yn gofyn am ddewis canlyniedydd i Mr. Evans. Bu Mr. Evans farw yn Chwefror, 1851. Yn niwedd hanes ei farwolaeth a'i gladdedigaeth yn Niwygiwr 1851, tu dal. 96, dywed Mr. Rosser Beynon, gyda golwg ar sefyllfa yr achos yn yr Ynysgau: -"Mae yn dda genym allu hysbysu fod

ANNIBYNOL CYMRU.

golwg obeithiol iawn ar yr achos yn y lle hwn yn bresenol. Mae yr Ysgol Sabbothol yn dra blodeuog yma eisioes, rhif canolig pa un sydd tua 200. Yn ol yr arwyddion presenol bydd yn angenrheidiol helaethu lle y babell, ac estyn cortynau y preswylfeydd yn fuan."

Wedi byw ar weinidogaeth achlysurol hyd haf y flwyddyn 1852, rhoddwyd galwad i Mr. James Morris, o athrofa Aberhonddu, yr hwn a urddwyd yma Gorphenaf 14eg, 1852. Ni bu ei arosiad ef yma ond byr. Yn y flwyddyn 1855, barnodd fod cynesach lle yn Eglwys Waddoledig Lloegr nag yn hen eglwys waddoledig yr Ynysgau, ac felly ymofynodd am urddau esgobol, yr hyn a gafodd. Nid oes a fynom ni a'i hanes yn mhellach. Yr unig beth o bwys a wnaed yn yr Ynysgau yn nhymor gweinidogaeth Mr. Morris, oedd tynu yr hen gapel adfeiliedig i lawr, ac adeiladu y capel prydferth presenol. Gwnaed hyn yn 1853, ac ar Sul, Mawrth, a Mercher, y Pasg, 1854, agorwyd y capel newydd. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Rees, Llanelli; D. D. Stephens, Glantaf; J. Morris, athraw athrofa Aberhonddu; W. Morgan, Caerfyrddin; N. Stephens, Sirhowy; J. Evans, Capel Seion; J. Davies, Cwmaman; M. Ellis, Mynyddislwyn, ac eraill. Mae y capel hwn yn adeilad cadarn, prydferth, a chyfleus.

Yn haf 1856, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Jones, Myddfai, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma Medi laf a'r 2il, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd yn y cyfarfodydd hyn gan Meistri J. Thomas, Glynnedd; W. Thomas, Rock; J. Thomas, D. Price, a W. Edwards, Aberdar; J. Davies, Aberaman; J. B. Jones, B.A., Hermon; Dr. Thomas, Stockwell, ac eraill. Bu Mr. Jones yma yn barchus a defnyddiol iawn hyd y flwyddyn 1861, pryd y symudodd i Langadog a Tabor, sir Gaerfyrddin. Yn 1860, cafodd yr holl wlad yn y yr eglwys hon, fel y rhan fwyaf o eglwysi y dref a'r ardal, deimlo awelon bendithiol y diwygiad crefyddol a ymdaenodd dros flwyddyn hono a'r un flaenorol. Derbyniwyd yma amryw ugeiniau, a chafwyd yma oedfaon nodedig o wlithog. Cyn diwedd y flwyddyn 1862, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Price Howell, Pwllheli, yr hwn a lafuriodd yma gyda derbyniad a chymeradwyaeth hyd ddiwedd y flwyddyn 1870, pryd y symudodd i Four Crosses, Ffestiniog; ac y mae yr eglwys hyd etto heb sefydlu ar olynydd iddo.

Yr ydym wedi dilyn hanes hen eglwys Ynysgau o'i dechreuad hyd y awr hon; a'r helbulon mawrion yr aeth drwyddynt, ac y mae yn llawen genym ddeall er y cwbl fod golwg mor lewyrchus arni yn bresenol. Mae yn sicr i lawer o gymeriadau hynod fod ynddi o bryd i bryd, ond nid oes enwau ond ychydig o honynt wedi treiglo hyd atom ni.

ac iddo gymeryd Yr ydym eisioes wedi crybwyll enw a dyfynu ychydig o brydyddiaeth Sion Llewellyn, ond gan ei fod yn gymeriad mor hynod, rhan mor amlwg yn y ddadl Arminaidd, yr hon a rwygodd yr eglwys hon yn 1747, ni byddai yn anmhriodol rhoddi ychydig o'i hanes. Ar Gefncoed-y-cymer yr oedd yn byw. Dywedir mai gof ydoedd wrth ei alwedigaeth. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nghwmyglo yn 1711, a bu farw Ionawr laf, 1776, yn 85 oed. Claddwyd ef wrth hen gapel Cefn-coed-y-cymer, ac y mae y penill canlynol ar ei feddfaen:

"Fe roddwyd Sion Llewellyn, 

A'i wraig mewn daear erwyn;

I orwedd dan y gareg hon, 

A saith o'u hwyrion rhyngddyn'.".

• Llythyr C. Wilkins, Ysw.

1.

Cyfansoddodd lawer o ganiadau a phenillion, gan mwyaf oll ar faterion orefyddol, ac yn benaf mewn amddiffyniad i'w olygiadau Arminaidd ei hun, ac i ddiraddio y Calfiniaid. Mae rhai ergydion barddonol yn ei gyfansoddiadau, ond mae ei iaith yn wallus a thrwsgl. Nis gwyddom pa bryd y cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o'i waith, ond cafodd yr ail argraffiad ei gyhoeddi yn 1772, yn llyfryn dewddeg plyg, o 60 o dudalenau, yn cynwys ugain o ganiadau a deg o emynau. Ddeugain mlynedd yn ol nid oedd nemawr o hen ŵr na hen wraig yn mysg trigolion gwreiddiol Merthyr, y Faenor, Aberdar, a Gelligaer, nad allasent adrodd y rhan fwyaf o benillion Sion Llewellyn. Bu ei waith yn rhyfeddol o boblogaidd am lawer o flynyddau, ac y mae yn ddiameu i'w rigymau ef wneyd mwy at daenu Arminiaeth yn Merthyr a'r cylchoedd na holl bregethau Roger Williams, Richard Rees, a Samuel Davies. Dywedir fod Sion Llewellyn yn weithiwr anghyffredin ac yn fwytawr digyffelyb. Pan y byddai yn myned allan yn amser y cynheuaf i ladd gwair ac ŷd, byddai yn gwneyd gwaith tri dyn, ac yn bwyta bwyd tri o ddynion. Mae yn mysg caniadau Sion Llewellyn rai penillion rhagorol iawn. Cymerer y dyfyniadau canlynol o'i anerchiad i'w wraig yn ei chystudd, fel engraifft:

"Er mysgu dy gymalau gan boenau yn y byd, A gwasgar rhai o'th esgyrn, na ddodir ddim yn nghyd, Ymwasga dan dy gystudd, rho'th bwys ar Grist dy graig, Ti fyddi'r adgyfodiad mor iached ag un wraig.

Yn wir yr oedd dy gystudd yn ddyfal ac yn faith,oum Gwr iach o'wn i fynychaf, mewn gallu i wneuthur gwaith; Ni gawsom ein cynaliaeth yn nghyd fel hyn i fyw, Mewn cariad gyda'n gilydd i gyrchu i deulu Duw.

Cael hir broffesu crefydd, flynyddau haner cant, Cael byw yn nghyd a'th briod i fagu wyth o blant; Cael pymtheg-wyr-ar-hugain, rhoi'r pethau hyn yn nghyd, Beth oedd i'w gael yn rhagor o fwyniant hyn o fyd.

Fel hyn fy mhriod, Mary, ni fuom fyw mewn hedd, Boed p'un a'i ti neu minau, â'n flaena' i byrth bedd; 'Rwy'n erfyn cael dy weled di'r haner draw i'r llen, Er maint dy grymwyd yma, yn llawer uwch dy ben."

Mae yn ddiameu i lawer o bregethwyr gyfodi yn yr hen eglwys hon, ond hyd ddechreuad y ganrif bresenol nid ydym wedi dyfod o hyd i enwau neb o honynt ond Richard Rees a Samuel Davies, y rhai y rhoddir eu hanes yn mysg y gweinidogion. Yn y ganrif bresenol, y rhai canlynol yn unig a gyfodwyd yma, cyn belled ag y gwyddom ni:

William Daniel. Urddwyd ef yn Nghwmtaf-fechan. Daw etto dan ein sylw yn nglyn a hanes yr eglwys hono.

T

John Williams. Bu ef yma am flynyddau yn amser Mr. Evans yn bregethwr cynorthwyol. Yr oedd yn ddyn o gymeriad pur. Nid ydym yn gwybod pa bryd y bu farw.

Lewis Evans. Trodd ef at y Bedyddwyr, ac y mae yn awr yn weinidog yn y Casnewydd, ac yn dra adnabyddus trwy holl Gymru fel goruchwyliwr Cymdeithas y Gweddwon.

John Beynon, brawd Mr. Rosser Beynon (Asaph Glan Taf.) Y mae ef wedi dechreu pregethu yma er's rhai blynyddau bellach.