Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/270

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hyny a ellir alw yn grefydd natur, gan eu hargymell yn unig a rhesyman dynol, heb o gwol arwain ei wrandawyr at Grist a'i groes. Er ei fod fel hyn yn ddiffygiol yn ei athrawiaeth, yr oedd yn ddyn boneddigaidd, parchus, a phur iawn ei ymarweddiad. Clywsom amryw hen bobl yn Merthyr a Gelligaer, bymtheng-mlynedd-ar-hugain yn ol, yn son yn barchus ac anwyl iawn am dano, ac yn ei ddarlunio fel dyn o ymddangosiad urddasol dros ben. Parhaodd i weinidogaethu yn yr Ynysgau hyd derfyn ei oes. Bu farw Mawrth 18fed, 1781, a chladdwyd ef wrth gapel yr Ynysgau. Dywed Mr. Daniel Davies, ei ganlyniedydd, ei fod yn ddyn o gynneddfau cryfion iawn, a'i fod yn cael ei gyfrif yn un o'r areithwyr rhagoraf yn ei oes.

THOMAS WILLIAMS. Gweler ei hanes yn nglyn ag eglwys y Watford. DANIEL DAVIES. Yr oedd ef yn fab i Mr. James Davies, un o weinidogion yr eglwysi yn Abermeurig, Blaenpenal, Cilgwyn, &c., ac yn frawd i Mr. Evan Davies, Llanedi. Efe oedd yr ieuengaf o wyth o blant-pum' mab a thair merch. Ganwyd ef yn mis Mehefin, 1760, yn y Dyffrynllwyn-ddol, yn agos i Landysul, yn sir Aberteifi. Bu farw ei dad a'i fam cyn fod y plant oll wedi eu magu i'w llawn faint, ac felly disgynodd eu gofal ar fam eu mam, yr hon oedd yn hen wraig gref a gweithgar, ac a fu fyw i'r oedran teg o gan' mlynedd. Bu Mr. Davies yn derbyn addysg ragbarotoawl yn Llanedi dan ofal ei frawd. Yn 1779, derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin, yr hon oedd y pryd hwnw dan ofal Mr. Robert Gentleman. Yn mhen ychydig o amser wedi gorphen ei dymor yno, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn yr Ynysgau. Dechreuodd ei waith yno Medi 3ydd, 1785, ac urddwyd ef Mai 6ed, 1786. Parhaodd i weinidogaethu yno hyd ddiwedd y flwyddyn 1810, neu ddechreu yr un ganlynol. Heb fod yn hir ar ol ymsefydlu yn Merthyr priododd a dynes ieuange gyfoethog iawn. Un o deulu parchus y Gwernllwynisaf. Ar ol rhoddi i fyny ei weinidogaeth yn yr Ynysgau, ni bu yn weinidog sefydlog mewn un lle, ond pregethodd am rai blynyddau yn hen gapel Cefn-coedy-cymer, ac yn y Watford wedi ymadawiad Mr. W. James oddiyno. Bu yn byw am dymor yn y Cwm, gerllaw Caerphili, ac wedi hyny yn Mhontypridd, lle y bu farw yn y flwyddyn 1851, yn 91 oed, a chladdwyd ef yn mynwent yr Ynysgau, lle yr oedd ei briod ac amryw o'i berthynasau wedi eu claddu er's blynyddau.

Yr oedd Mr. Davies, yr un fath a'i frawd, Mr. E. Davies, Llanedi, yn nodedig am ei foneddigeiddrwydd, ei dymer heddychlon, a'i ofal i beidio rhoddi dolur yn afreidiol i deimladau neb. A'r Undodiaid yr ymgyfeillachai yn benaf yn ei flynyddau diweddaf, ond nid oes un sail i farnu ei fod ef wedi llyngcu eu golygiadau hwy. Arminiad, o'r un fath a llawer o'r hen Ymneillduwyr yr ymgyfeillachai efe a hwynt yn moreu ei oes, y dewisai efe gael ei gyfrif hyd derfyn ei fywyd. Cyhoeddwyd ysgrifau o'i eiddo ar hanes Ymneillduaeth yn Merthyr a'r cylchoedd yn y Drysorfa Gynnulleidfaol am Ebrill, 1845, ac yn y Diwygiwr am Medi, 1849. Yr oedd yr ysgrif yn y Diwygiwr wedi ei bwriadu i gael ei darllen yn nghyfarfod can' mlwyddol yr Ynysgau, ond methodd gan lesgedd henaint fyned yno i'w darllen. Terfyna hi yn y geiriau toddedig canlynol: -" Yr ydwyf yn teimlo nad yw y pedwar ugain a naw yn amser i ysgrifenu. Mae y Ilaw a'r llygaid yn pallu. Buasai yn dda genyf fod yn eich cyfarfod, ond nid oes genyf ond aros gartref, a dymuno llwyddiant i chwi a'r gweinidogion, y rhai ydynt ddyeithriaid i mi agos oll." Yr ydym yn ddyledus i ysgrifau Mr. Davies am amryw o'r ffeithiau a gynwysir yn yr hanes blaenorol.*

THOMAS BENJAMIN EVANS. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Llygadenwyn, yn mhlwyf Llanybydder, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1787. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Rhydybont yn dra ieuangc. Aeth i'r ysgol a gedwid gan Mr. Peter mewn cysylltiad a'r athrofa yn Nghaerfyrddin, a thra yno dechreuodd bregethu yn Heol Awst, pan yn bedair-arbymtheg oed. Tua yr amser hwnw derbyniwyd ef i'r athrofa. Wedi gorphen ei dymor yn yr athrofa bu am ychydig amser yn Truro, yn Cornwal. Daeth oddiyno i Ferthyr, ac urddwyd ef yn yr Ynysgau, Mawrth 20fed, 1811. Ar ddydd ei urddiad rhoddodd oriel y capel ffordd oherwydd lluosogrwydd y dorf, yr hyn a barodd ddychryn dirfawr, ond diangodd pawb yn ddianaf. Bu raid cynal y gweddill o'r gwasanaeth ar y fynwent. Parhaodd cysylltiad Mr. Evans a'r Ynysgau fel gweinidog o ddydd ei urddiad hyd ddydd ei farwolaeth Chwefror 7fed, 1851. Bu yn nychu am lawer o fisoedd cyn iddo farw. Claddwyd ef wrth gapel yr Ynysgau yn ngwydd torf ddirfawr o bobl. Gweinyddwyd ar ei gladdedigaeth gan Meistri Hughes, Dowlais; Moses, Cefn-coed-y-cymer, ac eraill.

Yr oedd T. B. Evans yn ddyn hardd iawn o gorph, tua chwe' troedfedd o daldra, yn orlawn o natur dda, cymwynasgarwch, a didwylledd fel cyfaill, yn ysgolhaig rhagorol, a dywedir ei fod yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth yn bregethwr nodedig o boblogaidd. Yr oedd am fwy nag ugain mlynedd cyn ei farwolaeth wedi myned yn hynod o ddifudd fel pregethwr. Byddai yn pesychu gyda phob brawddeg a draethai nes yr oedd yn boenus i'w wrandaw. Bu am lawer o flynyddau yn barchus a dylanwadol iawn yn Merthyr a'r holl wlad oddiamgylch, a phe buasai yn llwyrymwrthodwr a diodydd meddwol trwy holl ystod ei fywyd cyhoeddus, ni buasai nemawr o weinidog yn Nghymru yn fwy defnyddiol a pharchus nag ef, oblegid yr oedd ei ragoriaethau fel dyn ac ysgolhaig o radd uchel iawn. Er ei holl ddiffygion yr oedd y rhan fwyaf o'i gydnabod yn teimlo rhyw anwyldeb neillduol tuag ato. Dywedir ei fod yn ei gystudd diweddaf yn amlygu teimladau tyner a chrefyddol iawn, ac yr ydym yn hyderu iddo ddiange trwy ras Duw i'r wlad yn yr hon nid oes cofio beiau.

ZOAR, MERTHYR TYDFIL.

Yn y deng mlynedd olaf o'r ganrif ddiweddaf daeth Merthyr Tydfil yn gyrchfan i luaws mawr o ddynion o bob ewr yn y Dywysogaeth. Parodd agoriad y gweithfeydd glo a mŵn, ar raddfa eang, ac adeiladiad y ffwrneisiau a'r melinau mawrion yma, i lawer o drigolion rhanau amaethyddol y wlad ddylifo yma. Tua Merthyr y cyfeiriai pob gwr pan yr elai yn gyfyng arno am gynhaliaeth iddo ei hun ac i'w deulu yn ei wlad; a phan yr anesmwythai rhyw fachgen ar dawelwch aelwyd ei rieni, ac yr awyddai am daflu yr iau oddiar ei war a chael mwy o ryddid i fyw yn ol helynt y byd hwn, tua Merthyr yr hwyliai ei gamrau. Os cyrhaeddai unrhyw ddyn i Ferthyr teimlai ei fod yn ddyogel pwy bynag a ymlidiai ar ei ol; ac yr oedd cynifer o'r fath gymeriadau wedi cael y lle yn ddinas noddfa, fel yr ofer-dybiai llawer mai hwynt-hwy yn unig a'i cyfaneddent. Ond yn mysg

  • Llythyr D. Davies, Ysw., Cwm.

ylluaws a ymsefydlasant yn y lle yn y blynyddoedd hyny, sefydlodd llawer • rai rhagorol y ddaear. Dynion a gadwasant eu cymeriad yn bur, s'u crefydd yn loyw yn nghanol holl brofedigaethau y lle; a dynion oedd eu syniadau mor efengylaidd a'u teimladau mor wresog, fel nas gallasent fwynhau yr ymborth a osodid ger eu bron os na byddai yn gynes yn gystal ag yn iachus. Yn mysg y rhai hyny yr oedd Lewis Foster, a Chatherine ei wraig, a Gabriel ei brawd, a John Salathiel, o'r Groeswen; David Nicholas Thomas, a Letice ei wraig, o'r Brychgoed; Jenkin Andrew, a'i wraig, o Benmain, a Thomas Rees, o'r Mynyddbach. Daethant yma yn y flwyddyn 1794, neu yn fuan wedi hyny. Yr oedd achos yn yr Ynysgau, fel y gwelsom, yn mhell cyn hyn; ond yr oedd y weinidogaeth yno wedi myned i roddi sain anhynod, heblaw fod ffurfioldeb a marweidd-dra yn nodweddu yr holl wasanaeth; yr hyn nis gallasai hen grefyddwyr tanllyd Mynyddbach a'r Groeswen ddygymod a hwy. Ymofynasant yn ddioed am le i gyfarfod ynddo i addoli Duw, a chymerasant ystafell y tu cefn i'r Crown Inn, yr hon a elwid yn Long room y Crown, a thelid am dani chwe' phunt y flwyddyn o ardreth. Nid oeddynt ond naw mewn nifer, ond cefnogid hwy yn eu gwaith gan weinidogion goreu yr enwad. Yn enwedig gan Meistri E. Jones, Pontypool; J. Bowen, Castellnedd, ac H. Powell, Casnewydd, y rhai yn fynych a ymwelai a hwynt. Nid ydym wedi gallu cael allan ddyddiad cywir sefydliad yr achos, na phwy a fu yno yn corpholi yr eglwys. Chwefror 2il, 1798, y cofrestrwyd ystafell y Crown a hyny gan Mr. Howell Powell.f Ond y mae yn eglur fod yma achos rai blynyddau cyn hyny. Yn y flwyddyn 1796, daeth yr hybarch ch D. Williams, Troedrhiwdalar yn awr, yma yn fachgen ieuange i weithio ei gelfyddyd, a daeth a'i lythyr at yr eglwys fechan gynes oedd yn y Long room; a choffeir gan Mr. Williams hyd y dydd hwn yr oedfaon hwylus a'r cyfeillachau melus a fwynhawyd ganddynt yn yr ystafell hono. Pan yr oedd yr eglwys yn ymgynull yma y derbyniwyd Maria Jenkyn, (mam Dr. Jenkyn,) yn aelod, a chyn hir derbyniwyd Dafydd Jenkyn, ei gwr, yr hwn a wasanaethodd fel blaenor y gân i'r gynnulleidfa am flynyddoedd. Cyn diwedd y flwyddyn 1797, rhoddodd yr eglwys ieuange alwad i Mr. Howell Powell, Casnewydd, yr hwn a symudodd yma yn ngwanwyn y flwyddyn ganlynol. Bu cymanfa fawr yma yn mis Mehefin ar ol dyfodiad Mr. Powell i'r lle, yr hon a gynaliwyd yn yr awyr agored, ar y tir oedd wedi ei neillduo at adeiladu capel newydd. Adfywiodd yr eglwys a lluosogodd y gwrandawyr yn fawr ar ol sefydliad Mr. Powell yn y lle, a phenderfynwyd adeiladu capel i fod yn eiddo yr eglwys, yn lle yr ystafell ardrethol yr oeddynt yn cyfarfod ynddi. Sierhawyd darn helaeth o dir yn y fan lle y saif y capel presenol, a dechreuwyd adeiladu yn y flwyddyn 1798, oblegid yr oedd y muriau wedi eu codi i uchder gwaelod ffenestri y llawr pan gadwyd y gymanfa yn Mehefin y flwyddyn hono. Helbul mawr a fu gyda chodi y capel, oblegid yr anhawsder i gael arian. Yr oeddynt wedi cymeryd yr holl dir o'r Heol fawr hyd at yr afon, yn gystal a'r tir sydd o dan y capel presenol am yr ardreth flynyddol o ddeuddeg gini; ond oblegid eu bod yn methu tal yawm hwnw, cymerodd un Henry Thomas, neu "Harri'r Blawd," fel y gelwid ef yn gyffredin, y brydles oddiarnynt, a rhoddodd iddynt y darn oedd dan y capel, ac ychydig heblaw hyny, am yr ardreth o dair punt a caith swllt. Ond yr oedd codi y capel yn faich rhy drwm iddynt drachefn

• Hanes eglwys Zoar gan Mr. R. Griffiths, Cefn. ↑ Cofnodion llys Llandaf.

Nid oedd ganddynt arian eu hunain, ac yr oeddynt yn rhy dlodion i gael arian ar log gan neb; ac nid oedd dim i wneyd ond gadael i'r gwaith sefyll. Aeth Mr. Powell oddicartref i gasglu, ond oblegid nad oedd mor llwyddianus i hyny ag y disgwyliai rhai, aeth yn ddiflasdod rhyngddo a'r eglwys, a rhoddodd ei gofal i fyny, a chyfyngodd ei lafur i eglwys y Maendy, i'r hon yn flaenorol y rhoddai ran o'i lafur. Pan ymadawodd Mr. Powell, yı oedd y capel ar ei haner, ac felly y parhaodd dros amser o eisiau arian i'w gwblhau. Trwy ddylanwad Mr. Ebenezer Jones, Pontypool, llwyddwyd i gael arian gan Mr. Walters, Mynyddislwyn, a gorphenwyd y capel erbyn diwedd 1803, a thua yr un amser rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Lewis, Cwmmawr,-Crwys yn awr. Trwyddedwyd capel Zoar gan Mr. D. Lewis, y gweinidog, yn llys Llandaf Medi 10fed, 1804. Ymroddodd Mr. Lewis a'i holl egni i dalu dyled y capel, a dengys rhestr y tanysgrifiadau iddo deithio yn mhell er gosod yr achos ger bron yr eglwysi, ac na bu ei apeliadau yn ofer. Aeth i Lundain, a manau eraill yn Lloegr, i gasglu; ond wedi ei ddychweliad adref aeth rhai o'r aelodau i gwyno nad oedd wedi casglu digon, a bod ei dreuliau yn ormod. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio at hyn yn ein cofnodiad bywgraphyddol o Mr. Lewis yn nglyn a hanes Llanfaple, Cyf. I., tu dal. 116. Parodd hyn derfysg mawr yn yr eglwys. Cyhuddid Mr. Lewis o ysbeilio yr eglwys, er iddo roddi cyfrif cyflawn a manwl o'r holl dderbynion a'r treulion. Galwodd yr eglwys a Mr. Lewis am gynorthwy gweinidogion cymydogaethol, y rhai a ddatganasant fod y cyfrifon yn hollol deg, a barnwyd yn unfrydol fod yn rhaid i'r terfysgwyr ymostwng neu gael eu diarddel. Gwrthodasant blygu, ond ymadawsant i ddechreu achos arall, ar lofft hen efail heb fod yn mhell iawn oddiwrth Zoar; ac yno y cychwynodd yr eglwys luosog sydd yn awr yn Bethesda. Cymerodd hyn le tua'r flwyddyn 1807. Bu Mr. Lewis yma dros ysbaid ar ol hyn, ond yr oedd y dymestl wedi ei ysigo, fel y symudodd oddiyma i Lanfaple, yn sir Fynwy, yn nechreu y flwyddyn 1810. Yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Lewis, rhoddwyd galwad i Mr. Samuel Evans, ac urddwyd ef yn weinidog yn y lle. Bu dyfodiad Mr. Evans i'r lle yn ddechreuad cyfnod newydd ar yr achos yn Zoar. Yr oedd cymhwysder neillduol ynddo i fod yn weinidog mewn lle yr oedd cynifer o ddyeithriaid a dyfodiaid, oblegid y medr neillduol oedd ganddo i lywodraethu, a pheri i bawb deimlo oddiwrth ei awdurdod, er nad oedd mewn un modd yn chwerw a gormesol. Teimlwyd ei ddylanwad fel pregethwr, a dylanwad ei gymeriad fel dyn, a chynyddodd yr achos yn fuan dan ei ofal. Talwyd y ddyled oedd ar y capel, a daeth eisiau ei helaethu, yr hyn a wnaed cyn hir. Erbyn y flwyddyn 1825, yr oedd hwnw hefyd wedi myned yn rhy gyfyng, a phenderfynwyd adeiladu capel newydd, a chodwyd un gwerth 600p., yr hyn yn y dyddiau hyny a ystyrid yn swm mawr. Llanwyd y capel cyn hir, ac yr oedd yr eglwys yn cynyddu yn raddol; ond yn 1829, cafwyd diwygiad grymus pryd yr ychwanegwyd llawer o bobl i'r Arglwydd. Yn Awst y flwyddyn hono, derbyniwyd ar yr un Sabboth cymundeb bymtheg-a-deugain o aelodau; a choffeir gan rai hyd etto am y cyfarfodydd gwlithog a fwynheid yn y dyddiau hyny. Effeithiodd y terfysgoedd gwladol a gymerodd le yn mhen rhyw ddwy flynedd ar ol hyny yn fawr ar holl eglwysi y lle. Aeth llawer o grefyddwyr i ysbryd y cynhyrfiadau afreolus a gwaedlyd hyny, os nad oeddynt yn cymeryd rhan ynddynt; yr hyn o angenrheidrwydd a effeithiodd yn niweidiol i grefydd bur ac ysbrydol. Tua'r flwyddyn 1831, deallwyd fod afiechyd poenus a pheryglus_wedi ymafael yn Mr. Evans, ac wedi i bob dyfais feddygol fethu, bu farw Mehefin 27ain, 1833, yn 56 oed. Bu yr eglwys am fwy na dwy flynedd ar ol marwolaeth Mr. Evans yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, a theimlai fod yn anhawdd cael gwr cymhwys i lenwi lle y "tywysog a'r gwr mawr oedd wedi syrthio." Cyn diwedd 1835, rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Owens, aelod o Trefdraeth, sir Benfro; ac urddwyd ef Chwefror 10fed a'r 1leg, 1836. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Griffiths, Castellnedd; gofynwyd yr holiadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. H. George, Brynberian; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog ieuange gan ei ewythr, Mr. T. Griffiths, Hawen, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. H. Jones, Tredegar.* Cynyddodd yr achos yn gyflym wedi dyfodiad Mr. Owens i'r lle, lluosogodd yr eglwys a'r gynnulleidfa, chyn diwedd y flwyddyn 1840, penderfynwyd adeiladu capel newydd eang a chyfleus. Gan fod Mr. Owens yn gyfarwydd ag adeiladu, tynodd y cynllun ei hun, ac arolygodd ei adeiladaeth; a thynodd maint a gwerth y capel sylw cyffredinol. Mae yn mesur 66 troedfedd wrth 60 troedfedd, ac oriel o'i amgylch, a chostiodd 2300p., yr hyn ddeng-mlynedd-ar-hugain yn ol a gyfrifid yn swm anferth. Gwnaed y gwaith maen gan Meistri Thomas Williams a David Richards, a'r gwaith coed gan Mr. John Gabe, ac nid rhaid canmol yr adeiladaeth wrth neb a'i gwelodd. Os cafwyd trafferth i gael arian ar log i adeiladu y Zoar cyntaf, ni bu dim o hyny gyda'r diweddaf. Agorwyd y capel Mawrth 9fed a'r 10fed, 1842, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Evans, Maendy; T. Griffiths, Blaenafon; J. Evans, Cymer; W. Griffiths, Llanharan; D. Griffiths, Castellnedd; D. Davies, New Inn, a W. Jones, Penybont; ac yr oedd 1830p. ddyled yn aros ddiwedd dydd yr agoriad. Llafuriodd Mr. Owens a'r eglwys i dalu y ddyled, ac yr oedd trwy gydymdrech yn dyfod i lawr bob blwyddyn; ac yr oedd yr achos yn fewnol mewn agwedd gysurus. Llanwyd y capel cang a chynnulleidfa astud; ac yn y flwyddyn 1849, pan yr ymwelodd y geri marwol a'r dref, ac y symudodd ddynion wrth y degau i dragywyddoldeb, ychwanegwyd canoedd at yr eglwys. Derbyniwyd 120 ar yr un Sabboth. Ond dychwelodd llawer o honynt i'w hen lwybrau, a chyfarfu ystormydd blin ar ol hyny. Yn y flwyddyn 1850, terfysgwyd yr eglwys ar yr achlysur o ddewisiad diaconiaid; ac oblegid rhyw anghydwelediad yu nglyn a hyny ymadawodd 58 trwy lythyrau i'r Ynysgau ar y Sabboth, Gorphenaf 2il, 1850. Teimlodd yr eglwys ar y pryd oblegid eu hymadawiad, yn neillduol oblegid fod llawer o honynt yn gantorion rhagorol, ond ni chollodd yr eglwys ei hysbryd na'i gweithgarwch, ac yn fuan llanwyd lle y rhai a ymadawsant. Yn y flwyddyn 1854, codwyd dau ysgoldy gan yr eglwys gwerth oddeutu 300p., un yn y Caedraw, a'r llall ar ben incline Penydarran. Mae y gymydogaeth lle y mae y blaenaf wedi myned yn isel a gwyddelig iawn, ond parheir i gadw Ysgol Sabbothol a moddion eraill yn rheolaidd yn yr olaf. Yn y flwyddyn 1860, taflwyd yr eglwys i brofedigaeth am y mynai llawer o'r aelodau godi dyn i bregethu, yr hwn y barnai ygweinidog a mwyafrif yr eglwys nad oedd hyny yn briodol. Yn yr anghydwelediad yma ymadawodd 74 o'r aelodau i eglwys arall yn y dref. Achosodd yr ymryson yma deimladau blin a gofidus, ac ysigwyd holl natur Mr. Owens trwy hyn, fel na bu byth yr un dyn wedi hyny. Llesgaodd ei merth, a bu colli ei anwyl wraig, yr hon a'i calonogai yn ei holl drallodion,

• Diwygiwr, Ebrill, 1836.