yn ormod i'w gyfansoddiad. Gwelodd nas gallasai sefyll yn hwy ger bron arch Duw, ac ar y 19eg o Hydref, 1862, rhoddodd i fyny ofal yr eglwys dros yr hon y bu yn gwylio yn ddyfal am fwy na chwe'-blynedd-ar-hugain.
Wedi i'r eglwys fod am dair blynedd heb weinidog, rhoddodd alwad i Mr. David Jones, B, A., Caerdydd, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn mis Gorphenaf, 1865, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad ar yr 21ain a'r 22ain o'r mis, pryd y gweinyddodd Meistri H. Oliver, B.A., Pontypridd; J. Davies, Caerdydd; J. Hughes, Dowlais, (gynt); R. Griffiths, Cefn; W. Williams, Hirwaun; W. C. Williams, Groeswen; J. Ll. Hughes, Gwernllwyn; J. Davies, Taihirion, a D. Davies, Llanbedr; ac y mae Mr. Jones yn parhau i lafurio yma gyda chymeradwyaeth. Yn y flwyddyn 1867, codwyd ysgoldy eang o flaen y capel er cynal Ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd wythnosol. Prynwyd dau dŷ er mwyn cael lle i'w wneyd, a chostiodd 550p., ond y mae ei ddyled yn cael ei thalu yn gyflym.
Mae eglwys Zoar wedi bod bob amser yn ewyllysgar a pharod i gymeryd ei rhan yn deg gyda holl achosion cyhoeddus crefydd. Mewn cyfranu at sefydliadau addysgol, a chymdeithasau crefyddol, neu gynorthwyo eglwysi dan feichiau eu dyledion, nid yw un amser wedi bod yn ol. Er yr ystyrid hi yn Galfinaidd yn ei golygiadau duwinyddol yn y blynyddoedd yr oedd y pyngciau hyny yn cynhyrfu y wlad, etto nid oedd yn bosibl fod eglwys yn mhellach oddiwrth benrhyddid Antinomaidd. Blaenorai mewn gweithredoedd da, ac yr oedd yn fanwl a gofalus yn ngweinyddiad dysgyblaeth. Cadwodd i fyny urddas crefydd, ac yr oedd ei chymeriad cyffredinol yn ddyrchafiad i Annibyniaeth yn ngolwg trigolion y dref. Gwelodd amseroedd blinion yn y lle o herwydd cynhyrfiadau cymdeithasol a gwladyddol, ond ymgadwodd mor ofalus ag unrhyw eglwys o unrhyw enwad rhag cael ei thynu iddynt na'i gwarthruddo drwyddynt; ac yr oedd teimlad trwy yr amgylchoedd o'r dechreuad fod rhyw urddas yn gysylltiedig a'r eglwys yn Zoar.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:David William Jenkyn. Brawd Dr. T. W. Jenkyn. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1813. Addysgwyd ef yn athrofa Hackney. Mae yn awr yn Rye, Sussex, ar fin 75 oed.
Thomas Rees. Urddwyd ef yn Llanfaple, a symudodd i Casgwent, a gweler ei hanes yn nglyn a'r eglwys hono.
James Evans. Dechreuodd bregethu yn 1822. Urddwyd ef yn Craigyfargoed, yn 1844, ac y mae yn awr yn Gellideg.
Griffith Jones. Tua'r flwyddyn 1824 y dechreuodd bregethu. Symudodd i Benycae, Mynwy, a thra yno bu yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw i ddechreu yr achos sydd yn awr yn Saron. Urddwyd ef yn Victoria, ac y mae yn awr yn Cefncribwr.
John Edwards. Gelwid ef fynychaf John Madlen. Dechreuodd bregethu yn 1830. Yn mhen y dwy flynedd aeth at y Bedyddwyr; ond y mae wedi marw er's blynyddau.
Thomas Griffiths. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1831. Urddwyd ef yn Blaenafon yn 1838, ac yno y mae etto.
Richard Griffiths. Dechreuodd bregethu yn 1835, ac urddwyd ef yn Tabor, Cefn-coed-y-cymer yn 1858, ac y mae yn parhau i lafurio yno.
John Thomas, Rhydycar. Dechreuodd bregethu yn 1838. Yr oedd yn ddyn ieuangc crefyddol, ac yn nghymdeithas hen grefyddwyr profiadol yr ymhyfrydai. Bu farw yn mlodeu ei ddyddiau.
264
John Edwards. In 1838 y dechreuodd bregethu. Urddwyd ef yn Hermon, Ystradfellte yn 1855, ac y mae yn awr yn Abertawy.
David Davies. Mab ydoedd i Mesach Davies. Tua'r flwyddyn 1840 y dechreuodd bregethu. Ymfudodd i America yn 1843, ac urddwyd ef yno, ond y mae wedi marw er's blynyddau.
John Williams. Mae yn bresenol yn y Wern, Ystalyfera, yn bregethwr cynorthwyol.
David Abel Jones. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Treherbert, ac y mae yn awr yn Ebenezer, Cefn.
Griffith Jones. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yn Llacharn, lle y mae etto.
Evan Jones. Brawd i Griffith Jones. Aeth ef at yr Eglwys Sefydledig. James Bowen. Urddwyd ef yn Llansanan, ac y mae yn awr yn Bethel, Croesoswallt.
William Thomas. Bu yn athrofa y Bala. Derbyniodd alwad o Abertilerwy, ond bu farw Chwefror 23ain, 1864, cyn ei urddo yn weinidog. Yr oedd yn ddyn ieuange difrifol a diniwed.
John R. Thomas. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn Bethesda a Llandysilio, lle y mae etto.
Daniel T. Williams. Adnabyddir ef yn well wrth yr enw Tydfylin. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1860, ac urddwyd ef yn Adulam, Merthyr yn 1870.
Llewellyn Jenkins. Mae yn awr yn yr ysgol yn parotoi i fynea i'r athrofa.
Bu llawer o bregethwyr eraill yn perthyn i'r eglwys hon o bryd i bryd, y rhai a ddechreuasant bregethu mewn eglwysi eraill; a bu llawer yn aelodau yma a ddechreuasant bregethu mewn eglwysi eraill, ar ol eu hymadawiad oddiyma. Crybwyllasom am yr oll y gwyddom am danynt yn nglyn a'r eglwysi yn y rhai y dechreuasant bregethu.
Coffeir am lawer o wyr rhagorol yn mysg y brodyr, yr, a fu yn yr eglwys hon o bryd i bryd. Yr oedd Lewis Foster yn un o'r diaconiaid cyntaf, os nad y cyntaf a fu yn yr eglwys hon. Yr oedd ef yn un o'r rhai a aethant allan i ddechreu yr achos sydd yn awr yn Bethesda. Morgan Sion, fel ei gelwid, oedd frawd pwyllog a gofalus, a Harri Llwyd oedd un nodedig am ei dynerwch. Sonir gan lawer hyd heddyw am William Humphrey, yr hwn oedd un o'r rhai mwyaf dylanwadol yn yr eglwys; ac yr oedd pawb yn esmwyth yn rhoddi y flaenoriaeth iddo. Bu Josiah Williams yn ffyddlon fel trysorydd, yn enwedig yn adeg adeiladaeth y capel yn 1841. John Thomas oedd ŵr cywir, unplyg, a dihoced.
Diaconiaid presenol yr eglwys ydynt, David Davies, Tynewydd; William Jones, Tramroad; Rees Davies, Twyn-yr-odyn; David Williams, Grocer; John Jones, Tydfil's Well; John Sibbering, John Arthur, John Lewis, Cemetery y Cefn; John Jones, Boat Builder; Thomas Williams, Goetre, a John Davies, Peirianydd. Mae enwau rhai o honynt yn adnabyddus i'r enwad oll.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
SAMUEL EVANS, Yr unig hanes am y gweinidog enwog hwn sydd ar gael yw y cofiant byr iddo a ysgrifenwyd gan Dr. Jenkyn i'r Evangelical Magazine, am Awst, 1834. Dywed y Dr. mai yn mhlwyf Clydog neu
Clydach, yn sir Frycheiniog y ganwyd ef. Gan nad oes un plwyf o'r enw hwnw yn sir Frycheiniog, yr ydym yn barnu mai Cwmclydach, yn mhlwyf Llanelli, Brycheiniog, a feddylir. Yn Mehefin, 1777, y ganwyd ef. Pan yr oedd ef tua chwe' mlwydd oed symudodd ei rieni i gymydogaeth y Dref-hir, yn agos i derfynau siroedd Brycheiniog a Henffordd. Yr oedd yno hen achos Annibynol Cymreig y pryd hwnw, a phan yr oedd Samuel Evans yn dair-ar-ddeg oed efe a dderbyniwyd yn aelod eglwysig yno. Wrth weled ei alluoedd meddyliol a'i rinweddau crefyddol yn ymagor yn obeithiol, anogwyd ef gan yr eglwys pan yn ddeunaw mlwydd oed i ddechreu arfer ei ddoniau fel pregethwr. Yn fuan wedi hyny symudodd yn ol i sir Frycheiniog, a gosododd i fyny ysgol ddyddiol yn Nghwmdwr, rhwng Trecastell a Llanymddyfri. Tra y bu yno yn cadw ysgol byddai yn pregethu bob Sabboth yn Nghefnarthen, Pentre-ty-gwyn, ac eglwysi cymydogaethol eraill. Bu yn yr ardal hono am amryw flynyddau, ac yno y priododd ag un Miss Griffiths, aelod o'r eglwys yn Nghefnarthen, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd derfyn ei oes. Cawsant deulu lluosog o blant, ond y maent oll ond un wedi dilyn eu rhieni i'r ty rhagderfynedig i bob dyn byw. Yn y flwyddyn 1810, derbyniodd Mr. Evans alwad oddi wrth yr eglwys yn Zoar, ac urddwyd ef yno. Yr oedd yr eglwys pan yr aeth ef yno mewn agwedd isel a thra annymunol o herwydd terfysg a rhwygiad oedd newydd gymeryd lle ynddi, ond trwy lafur dibaid, callineb, a doniau rhagorol y gweinidog, yn cael eu dilyn gan fendith yr Arglwydd, lluosogodd a chryfhaodd yn dra chyflym, fel y daeth i fod yn un o'r eglwysi cryfaf ac enwocaf yn y sir. Bu Mr. Evans yn llafurio yma, ac am rai blynyddau yn Bethania, Dowlais, mewn cysylltiad a Zoar, hyd derfyn ei
oes.
Yn 1832, cafwyd allan fod y clefyd angeuol hwnw y cancer wedi gafael yn ngwraidd ei dafod. Cynyddodd yn dra chyflym fel yr analluogwyd ef i bregethu. Traddododd ei bregeth olaf oddiwrth Diar. i. 33, yn Awst, 1832. Bu wedi hyny yn nychu, ac mewn poenau mawr a pharhaus hyd ddydd Iau, Mehefin 27ain, 1833, pryd y cafodd ei ysbryd ollyngdod o gaethiwed y babell bridd. Claddwyd ef, yn ol ei orchymyn ei hun, wrth gapel esgobyddol Dowlais. Ar ddydd yr angladd, aed a'r corph i gapel Zoar, lle y traddodwyd dwy bregeth gan Meistri J. Davies, Rhymni, yn Gymraeg, a W. James, Caerdydd, yn Saesonig. Yr oedd saith-ar-hugain o weinidogion Ymneillduol ac offeiriaid yn cerdded yn orymdaith o flaen y corph.
Yr oedd Samuel Evans, Zoar, yn un o'r gweinidogion mwyaf enwog a dylanwadol yn ei oes yn ei eglwys ei hun ac o fewn cylch ei adnabyddiaeth, ond gan i'w amgylchiadau fod yn rhwystr iddo deithio nemawr nid oedd yn bersonol adnabyddus mewn un ran o Gymru ond yn Morganwg a chyrau o'r siroedd cylchynol. Dywed Dr. Jenkyn, yr hwn a fu am rai blynyddau yn eistedd dan ei weinidogaeth, ei fod yn ymresymwr manol, craffus, ac argyhoeddiadol dros ben, a'i fod yn bregethwr galluog ac effeithiol iawn. Er na chafodd addysg athrofaol yr oedd yn ysgolhaig da ac yn ddyn o wybodaeth helaeth. Myfyriai ei bregethau gyda gofal a manylder, a thraddodai hwy yn wresog ac effeithiol iawn. Ni fynai ei wrandawyr arferol gredu fod un pregethwr mwy nag ef yn yr holl fyd. Yr oedd ganddo rhyw fedr digyffelyb i osod yr argraff ar bawb a ddeuant i gyffyrddiad ag ef ei fod yn ddyn mawr yn mhob peth. Yr oedd ei allu i lywodraethu pobl yn anghyffredin. Byddai ei air yn mhob cyfarfod eglwysig yn ddigon o ddeddf.
CYF. Π.
11
Gwnaeth iddo ei hun enw mawr fel meddyg. Er nad oedd wedi cael ei ddwyn i fyny yn feddyg, cyrhaeddodd y fath glod am ei fedr i wellhau clefydau fel y byddai pobl yn dyfod ato o bell ac agos i gael eu gwellhau. Yr oedd yn derbyn tri chymaint o dal am ei wasanaeth i'r cyhoedd fel meddyg ag a dderbyniai oddiwrth ei eglwys fel gweinidog. Trwy hyny yr oedd ei amgylchiadau flynyddau lawer cyn iddo Carw yn hynod o gysurus, a'r dyb ei fod yn ddyn cyfoethog yn ychwanegu yn ddirfawr at ei ddylanwad gyda'r werin.
Yn 1815, argraffodd bregeth ar Athrawiaeth y Drindod, a dyna yr unig beth a argraffwyd ganddo heblaw ychydig o emynau rhagorol o'i eiddo a gyhoeddwyd yn emyn-lyfr Mr. Evans, Mynyddbach. Dywedir y byddai fynychaf yn cyfansoddi emyn i ateb i'w bregeth, ac yn ei rhoddi allan i'w chanu ar ddiwedd yr oedfa. Gresyn na chyhoeddesid ychwaneg o'i emynau, oblegid mae yr ychydig a gyhoeddwyd mor ragorol a chwaethus a phenillion tlysaf Williams, Pantycelyn, neu Williams, Bethesda. Mae darllen ei emynau yn ddigon ar unwaith i ddangos ei fod yn ddyn a chwaeth goethedig ac o feddwl treiddgar a galluog.
BENJAMIN OWENS. Ganwyd ef yn Nhrefdraeth, sir Benfro, Awst 28ain, 1810. Yr oedd yn un o bump o blant, ac efe oedd yr ieuengaf o honynt. Bu ganddo ddau frawd yn y weinidogaeth, sef Daniel E. Owens, yn Cendl, a John Owens, yn Maenclochog. Yr oedd Benjamin o gorph cryf, ac o ysbryd gwrol a diofn er yn blentyn, ac yn mysg ei gyfoedion edrychid arno fel eu blaenor yn mhob camp. Ni chafodd ond ychydig addysg ddyddiol pan yn blentyn, gan fod ei fam wedi ei gadael yn weddw, a bu raid iddo yn foreu ymafael mewn rhyw orchwyl. Pan yn un-ar-ddeg oed rhwymwyd ef yn egwyddorwas i ddysgu y gelfyddyd o saer, i'r hon yr ymroddodd yn egniol a gwnaeth gynydd buan. Darllenodd lawer pan yn fachgen, ac ymhyfrydai yn fawr mewn dadleu ag Eglwyswyr a Bedyddwyr, ac yn erbyn y syniad oedd yn gyffredin yn y dyddiau hyny yn mysg ei gyfoedion am ymddangosiad ysbrydion a drychioliaethau. Ymhyfrydai mewn gwneyd gwawd o hygoeledd dynion ofnus. Er iddo gael ei gadw heb ymollwng i annuwioldeb cyhoeddus, etto yr oedd ei galon yn ddyeithr i oruchwyliaeth gras, hyd nes y cyfarfu a damwain wrth weithio mewn llong ar y traeth. Trodd y llestr yn ddisymwth ar ei hochr, a thaflwyd yntau gryn bellder oddiwrthi; ond diangodd heb gael unrhyw niwed, er iddo ddychrynu yn ddirfawr, a bu y dychryn hwnw yn foddion i'w ddwyn i ystyried llaw Duw yn ei waredigaeth, ac i'w ddwyn i benderfynu cyflwyno ei hunan i'w wasanaeth. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Nhrefdraeth, ac yn ddioed ymaflodd yn holl ranau gwaith yr Arglwydd. Gyda dysgu ac adrodd pyngciau yn yr Ysgol Sabbothol efe oedd yr arweinydd, a phan y profid hwy a chwestiynau celyd ato ef yr edrychai yr ysgol am ymwared. Rhoddodd ei gynydd mewn gwybodaeth a doniau y fath foddlonrwydd i'r eglwys fel yr anogwyd ef i ddechreu pregethu, yr hyn a wnaeth yn 1833, a bu yn pregethu am ysbaid dwy flynedd, fynychaf bob Sabboth, yn Nhrefdraeth a'r eglwysi cymydogaethol, ac yn gweithio ei gelfyddyd trwy yr wythnos. Bwriadai unwaith fyned i ryw athrofa, ond ataliwyd ef gan ryw amgylchiadau. Yn y flwyddyn 1835, aeth ar daith trwy ranau o siroedd Caerfyrddin, Morganwg, a Mynwy, gyda bwriad i fyned cyn belled a Cendl, lle y buasai ei frawd Daniel yn weinidog. Daeth i Ferthyr, ac yr oedd eglwys Zoar ar y pryd heb weinidog, a hoffwyd ef gymaint fel yr anfonwyd cenad ar ei ol i Cendl i ddymuno arno ddyfod yno i bregethu ar brawf. Gwrthododd ddychwelyd y pryd hwnw, ond addawodd ystyried y mater, ac y rhoddai ateb wedi iddo gael cyfle i ymgynghori a'i weinidog, Mr. George, Brynberian, ac a'i ewythr, Mr. Griffiths, Hawen. Yn mhen amser, pa fodd bynag, ymwelodd eilwaith a Zoar, a chafodd yr eglwys y fath foddlonrwydd ynddo fel y rhoddodd alwad iddo; ac urddwyd ef Chwefror 10fed a'r lleg, 1836. Wedi ymsefydlu yn Merthyr dechreuodd weithio a'i holl egni. Yr oedd pob peth yn wahanol yn maes ei lafur i'r hyn ydoedd yn ei ardal enedigol; ond yr oedd ynddo ddigon o graffder i adnabod neillduolion y lle, a'r gwaith oedd ganddo i'w gyflawni, a digon o benderfyniad i gyfaddasu ei hunan ar eu cyfer. Yr oedd yr eglwys yn lled Galfinaidd ei golygiadau, ac edrychai gyda llygaid drwgdybus ar y gweinidogion hyny oedd yn eang eu golygiadau ar drefn yr efengyl; ond cadwodd Mr. Owens ar ganol y ffordd, heb droi yn ormodol i'r dde na'r aswy. Cyrchai llawer i Ferthyr yn y dyddiau hyny, oblegid dyma ganolbwynt y gweithfaoedd; ac yr oedd yn ofynol wrth ddoethineb a phwyll mawr mewn dyn ieuange i gario pethau yn mlaen yn esmwyth mewn eglwys luosog lle yr oedd y rhan fwyaf yn ddyfodiaido eglwysi eraill, a phob un yn selog dros y trefniadau a welodd yn yr eglwys o'r hon y daethai, ond bu Mr. Owens ar y cyfan yn lled ddibrofedigaeth yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Yn mis Mai, 1840, priododd Mr. Owens a Miss Mary Ann Evans, merch Mr. Samuel Evans, ei ragflaenydd yn y weinidogaeth yn Zoar, yr hon a fu iddo yn ngwir ystyr y gair yn ymgeledd gymhwys. "Hi a wnaeth iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd." Yr oedd hi wedi ei dwyn i fyny yn nghanol cynhyrfiadau Merthyr, ac wedi gweled riots y Scotch Cattle a'r Siartiaid, yr hyn oedd wedi ei gwneyd yn orochelgar, a hwyrach i fesur wedi peri iddi ofni lle nid oedd ofn; a byddai yn hir iawn cyn y gallasai deimlo yn hyderus i ymddiried mewn personau, a chyfranogodd Mr. Owens i raddau, o dan ei dylanwad hi, o'r un ysbryd, yr hwn nid oedd mewn un modd yn naturiol iddo ef; ond bu hi o help a chalondid mawr iddo beth bynag fyddai ei brofedigaethau. Pan y penderfynwyd adeiladu Zoar yn 1841, cymerodd Mr. Owens y prif ofal arno ei hun; ac erys yr adeilad eang yn gofadail o'i fedrusrwydd. Wedi ei gael yn barod ymroddodd yn ddi-ildio i gasglu er talu am dano. Casglodd gartref ac oddicartref, yn mysg cyfeillion ac yn mysg dyeithriaid. Teithiodd i Lundain a Bristol, a manau eraill; a goddefodd y caledfyd sydd yn nglyn a chasglu yn Llundain na wyr neb ond y profiadol am dano. Defnyddiodd bob cynllun er mwyn cael arian, a gwnaed Tea Party unwaith, oddiwrth yr hwn y caed can' punt o elw clir. Y cyntaf ar y fath raddfa eang a fu erioed yn Nghymru. Ond nid at ei achos cartrefol yn unig yr oedd Mr. Owens yn gweithio; ond cymerai ran, a rhan helaeth, gyda phob achos cyhoeddus. Mae llawer o eglwysi gweiniaid a allent dystiolaethu am yr help ewyllysgar a estynai iddynt. Noddodd yr achos Saesonig yn Merthyr yn ei nychdod a'i wendid fel tad yn noddi ei fab anwyl ganddo; a theimla yr achos Cymreig yn Bristol yn fwy dyledus iddo ef, nag i neb arall, am y cynorthwy amserol a estynodd iddo. Yr oedd yn ffyddlon i'w enwad yn mhob peth, ac yn gywir dros fesur i'w holl frodyr. Gwyddai terfysgwyr yn mhob eglwys mai ofer hollol oedd iddynt droi at Mr. Owens am help i ddrygu eneiniog yr Arglwydd. Mae rhai gweinidogion i'w cael sydd yn dyfod o hyd i ddynion aflonydd pob eglwys os digwydd iddynt fyned i'w cymydogaeth, ac y mae yr aflonyddwyr yn eu hadnabod hwythau, y maent fel pe byddai ryw reddf ynddynt i adnabod eu gilydd; ond nid