Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/280

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

un o'r cyfryw oedd Mr. Owens. Tynodd wg llawer arno o bryd i bryd oblegid na buasai yn eu cefnogi hwy i godi yn erbyn eu gweinidogion. Yr oedd yn gyfaill pur; ac unwaith y gosodai ei law ar unrhyw beth ni throai yn ol nes ei gwblhau. Medrai, os byddai angen, ddyweyd geiriau fel brath cleddyf, ac nid oedd terfyn i'w wawdeb pan y teimlai fod angen i'w ddefnyddio. Ond ni chyfyngai ei lafur i'w eglwys a'i enwad, ond yr oedd yn ddyn i'r dref, ac yn ddyn i'r holl wlad. Cymerai ran yn holl achosion cyhoeddus y dref, ac yn holl amcanion cyffredinol y wladwriaeth. Yr oedd yn deall gwleidiadaeth yn dda, ac yr oedd yn werinol braidd yn ei olygiadau. Yn nadleuon cynhyrfus y Dreth Eglwys, ac ar adegau o etholiad, ni byddai byth yn llechu yn y cysgod, ond cymerai ran amlwg, ac ni chywilyddiai arddel yr hyn a gredai oedd yn wirionedd.

Fel pregethwr yr oedd yn gryf a sylweddol, a chynwysai ei weinidogaeth "ymadrodd iachus, yr hwn ni ellir beio arno." Gwasgarog oedd ei arddull, ac nid oedd unrhyw goethder yn ei iaith, na dillynder yn ei frawddegau, ond hynodid ef gan nerth a ffraethineb. Ni byddai byth ball arno am eiriau, ac ar brydiau cariau ddylanwad grymus ar y rhai a wrandawent arno. Yr oedd rhyw gryndod yn ei lais, a phan y disgynai i ryw dôn wylofus, ac y gwelid y deigryn gloyw yn treiglo dros ei rudd, byddai yn nodedig o effeithiol, ac yr oedd y rhai a wrandawent arno yn barhaus yn teimlo ei fod yn wastad yn ei flas. Yn ystod ei weinidogaeth, fel y crybwyllasom yn hanes yr eglwys, cyfarfu a llawer o helbulon, a phan gofiom ei fod yn ddyn mor nodedig o synwyrol, a medrus i gyfarwyddo eraill mewn amgylchiadau dyrus, y mae yn syn genym iddo gael y fath drallodion. Nid ydym yn amheu na chyfarfyddodd a rhai dynion anhywaeth a drygionus; ond y mae rhai felly i'w cael yn aml mewn eglwysi lluosog yn y trefydd a'r gweithfeydd; ac nid ydym yn meddwl fod y rhai y daeth ef i gyffyrddiad a hwy, oddigerth ychydig eithriadau, yn waeth na'r rhai a geir yn gyffredin. Hwyrach nad ymddiriedodd ei hun yn ddigon llwyr i'w bobl, ac y cawsai gydymdeimlad mwy cyffredinol ped agorasai ei galon yn llawnach iddynt; ond y mae yn sicr fod ysbrydo anesmwythder, a gwrthryfel yn erbyn y weinidogaeth yn gryf iawn yn yr eglwysi ugain a deng-mlynedd-ar-hugain yn ol, wedi ei gynyrchu gan Siartiaeth a chynhyrfiadau cyffelyb, ac oblegid fod y fath annibynoldeb meddwl ac ysbryd yn Mr. Owens mae yn hawdd cyfrif pa fodd yr oedd yn dyfod i wrthdarawiad a chymeriadau felly. Ysgydwyd ei holl natur gan yr amgylchiadau a'u cyfarfu. Yr oedd yn naturiol yn ddyn bychan, crwn, cryf, iach, y fath fel y gallesid tybied nad ysigasid ef gan ddim. Ond y mae corwyntoedd ystormus yn ormod i'r derw cryfaf; ac y mae profedigaethau eglwysig cyn hyn wedi tristau ysbryd a gwanhau iechyd y gweinidogion cryfaf. Yn nechreu haf 1860, pan oedd cymylau duon uwchben eglwys Zoar, aeth Mr. Owens ar ymweliad dros ychydig at ei hen gyfaill Mr. D. Davies, yr hwn oedd y pryd hwnw yn aros heb fod yn mhell o gymydogaeth Llandaf; a thra yn aros gyda Mr. Davies cafodd ergyd o'r parlys. Gwellhaodd ychydig yn raddol, ond cyn ei fod braidd o'i wely, dyma "y cymylau yn dychwelyd ar ol y gwlaw;" bu farw Mrs. Owens yn mis Awst ar ol hir wendid a nychdod, a dyma yr ergyd drymaf iddo etto, ae yr oedd ei chael yn ei wendid yn peri iddo ei theimlo yn drymach fyth. Gwaethygodd yn raddol ar ol hyn, fel y barnodd yn oreu yn mhen dwy flynedd i roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny, a derbyniwyd ef ar Drysorfa yr Hen Weinidogion. Gwnaeth lawer cynyg ar ol hyn am adferiad. Ymwelodd a'i ardal enedigol lle y derbyniodd lawer o garedigrwydd, ac ychydig o adloniant. Gwnaeth brawf ar oruchwyliaeth y dwfr oer yn Malvern, ond nid oedd un gobaith am ei adferiad, a gwaethygodd yn raddol fel y bu farw ddydd Mawrth, Awst 23ain, 1864, yn 54 oed, a chladdwyd ef y dydd Gwener canlynol, ac yr oedd y dorf fawr a'i dilynodd i dŷ ei hir gartref, yn brawf o'r parch dwfn oedd iddo gan y bobl y bu yn llafurio yn eu plith am wyth-mlynedd-ar-hugain.

BETHESDA, MERTHYR TYDFIL.

Dechreuwyd yr achos hwn, fel y crybwyllasom yn hanes Zoar, yn y flwyddyn 1807, mewn canlyniad i'r terfysg a gyfodwyd yn yr eglwys yno gan nifer o bersonau ar ddychweliad y gweinidog, Mr. Daniel Lewis, adref • Lundain wedi bod yn casglu yno. Tybiai rhai o honynt fod y treulian cysylltiedig a'r casglu yn ormod, er nad oedd gan yr un o honynt ddim dirnadaeth pa faint a ddylasai y costau fod. Barnodd odd yr eglwys fod y treuliau yn deg a rhesymol, a chydolygai y gweinidogion cylchynol a phenderfyniad mwyafrif yr eglwys, a gofynid am ymostyngiad y rhai a awgryment fod unrhyw anhegwch wedi ei wneyd; ond yn hytrach nag ymostwng troisant allan i gychwyn achos arall yn y lle. Yn mysg y personau a ymadawsant a Zoar yr oedd Lewis Foster a'i wraig; John Salathiel a'i wraig; David Nicholas a'i wraig; David Jenkyn a'i wraig, (tad a mam Dr. Jenkyn); William Llwyd a'i wraig. Yr oedd rhai o'r personau hyn yn mysg cychwynwyr yr achos yn Zoar, ac yr oedd Lewis Foster a William Llwyd yn meddu cymhwysderau arbenig at gychwyn a dwyn yn mlaen achos newydd. Canmolir Lewis Foster ar gyfrif ei weithgarwch crefyddol, a'i ddoniau mewn gweddi; ac yr oedd gan William Llwyd allu nodedig i drin dynion a chael dylanwad drostynt. Cymerasant ystafell at gychwyn achos, heb fod yn mhell o'r fan lle y saif capel Salem yn awr. Galwyd y lle yn Philadelphia, a thrwyddedwyd ef at gynal gwasanaeth crefyddol gan David Nicholas, Mawrth 3ydd, 1808. Buont yn addoli yno am yn agos i flwyddyn, a chynyddodd yr achos i'r fath raddau fel yr aeth y lle yn rhy gyfyng, a bu raid chwilio am ystafell helaethach. Cafwyd llofft perthynol i efail gof, rhwng Zoar ac afon Morlais, a galwyd y lle hwnw Beth-haran, a thrwyddedwyd ef gan David Nicholas yn llys Llandaf Chwefror 6ed, 1809.* Pan oedd yr eglwys ar symud i Beth-haran, rhoddwyd galwad i Mr. Methuselah Jones, yr hwn oedd yn weinidog yn Llangynwyd, a dechreuodd ei weinidogaeth yma cyn diwedd y flwyddyn 1808. Nid oedd rhifedi yr aelodau ond pedwar-ugain-a-deg, ac i gyd yn dlodion; ond adfywiodd yr achos yn fawr wedi sefydliad Mr. Jones yn y lle. Meddyliwyd am gael capel newydd, a chafwyd darn o dir ar brydles gan Mr. W. Morgan, Grawen, am 5p. y flwyddyn o ardreth. Adeiladwyd y capel yn nechreu y flwyddyn 1811, a thrwyddedwyd ef yn llys Llandaf Gorphenaf 23ain, 1811, gan Mr. M. Jones, y gweinidog. Bu gweinidogaeth Mr. Jones yn dra llwyddianus yn y capel newydd. Dywedir iddo yn ystod ei weini logaeth dderbyn tua thair mil o aelodau, a bu yn foddion i blanu eglwysi newyddjon un Dowlais, Cefn-coed-y-cymer, a Throedyrhiw. Erbyn y flwyddyn

  • Cofnodion llys Llandaf.

1829, yr oedd capel Bethesda wedi myned yn rhy fychan, ac adeiladwyd y capel helaeth presenol, yr hwn a gostiodd 1002p. Bu Mr. Jones farw Ionawr 15fed, 1839, yn 71 oed.

Yn y flwyddyn 1840, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Daniel Jones, yr hwn dair blynedd cyn hyny oedd wedi ei urddo yn weinidog yn Carmel, Tresimwn. Dechreuodd Mr. Jones ei weinidogaeth yma dan amgylchiadau ffafriol iawn, pan yr oedd lluaws yn dyfod i'r lle o siroedd Aberteifi a Phenfro; ac yr oedd ei fod yntau yn adnabyddus yn y siroedd hyny yn peri iddynt gyfeirio ato i Bethesda. Yr ail flwyddyn wedi ei symudiad yma bu dan yr angenrheidrwydd poenus o oddef tori ymaith ei fraich ddeheu, ac yn yr adeg hono dangosodd yr eglwys garedigrwydd neillduol iddo, a thynerwch mawr tuag ato. Yr oedd Bethesda bob amser yn nodedig am gynnulleidfa luosog, ac yr oedd llawer o wres a theimlad yn yr eglwys, ac weithiau torai allan yn orfoledd cyhoeddus. Sychwyd llawer ar ireidd-dra ysbryd yr eglwys yn nhymer gweinidogaeth Mr. Jones. Nid oedd nodwedd ei bregethau y mwyaf manteisiol i feithriniad teimlad crefyddol dwfn. Gwisgent ryw wedd ddyledswyddol fynychaf, ac yr oedd yn aml fwy o dôn moesoldeb nac efengyl ynddynt. Yn ychwanegol at hyny, dygodd gyfarfodydd adroddiadol a chystadleuol i gysylltiad a'r Ysgol Sabbothol a'r eglwys, ac yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn y wlad i ddwyn y pethau hyn i'r capeli; ac er yn ddiau iddynt wneyd llawer i greu ysbryd ymchwilgar mewn lluaws o bobl ieuainge, etto nid ymddengys ddarfod iddynt fod o nemawr help i feithriniad crefydd ysbrydol yn yr eglwys. Cynyddodd yr eglwys yn fawr mewn rhif yn ystod ei weinidogaeth; ac ar adeg ymweliad y geri marwol a'r dref yn y flwyddyn 1849, ychwanegwyd canoedd at yr eglwys. Bu Mr. Jones yma hyd ddiwedd y flwyddyn 1855, pryd y gadawodd Ymneillduaeth ac y trodd at yr Eglwys Wladol, lle y bu hyd ei farwolaeth.

Wedi bod am dymor heb weinidog, cymerodd Mr. Rhys Gwesyn Jones, Penybont-ar-ogwy, ofal yr eglwys Hydref 3ydd, 1858. Yn yr adeg yma safodd gwaith Penydarren, ar yr hwn yr ymddibynai llawer o'r gynnulleidfa, fel y bu raid iddynt ymadael a'r lle; ac oblegid hyny, yn nghyd a rhyw amgylchiadau eraill, lleihaodd yr eglwys i raddau mawr yn nhymor gweinidogaeth Mr. Gwesyn Jones. Ond bu ef yma hyd wanwyn y flwyddyn 1867, pryd yr ymfudodd i Utica, America.

Yn mhen y flwyddyn rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Job Miles, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac oblegid fod ganddo flwyddyn cyn gorphen ei dymor yn yr athrofa, penderfynasant ddisgwyl wrtho. Urddwyd ef Mehefin 2lain a'r 22ain, 1869. Gan mai dyma yr unig urddiad a fu yn Bethesda, rhoddir ei hanes yn llawn yma fel yr ymddangosodd yn y Tyst Cymreig, Gorphenaf 2il, 1869:- "Nos Lun a dydd Mawrth 2lain a'r 22ain, cynhaliwyd cyfarfodydd mewn cysylltiad ag urddiad Mr. Job Miles. yn Bethesda, Merthyr. Nos Lun, dechreuwyd gan Mr. Miles Morgan, a phregethwyd gan y Parchn. W. I. Morris, Pontypridd, a W. Edwards, Aberdar. Dydd Mawrth am 10, dechreuwyd gan y Parch. W. C. Davies, Llantrisant, a phregethwyd gan y Parch. W. Roberts, athraw clasurol coleg Aberhonddu, ar natur eglwys; holwyd y gofyniadau gan y Parch. J. Morris, athraw duwinyddol y coleg, ac atebwyd hwy gan yr urddedig yn eglur, cryno, a boddhaol; gofynwyd yr arwydd o du y gweinidog, ac o du yr eglwys gan y Parch. W. Edwards, Aberdar; offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch. W. Williams, Hirwaun; yna pregethwyd i'r gweinidog gan y Parch. H. Oliver, B.A., Casnewydd, ac i'r eglwys gan y Parch. J. Davies, Taihirion. Am 2 o'r gloch, dechreuwyd gan y Parch. J. Thomas, Salem, Aberdar, a phregethwyd gan y Parchn. J. Morris, Aberhonddu yn Seisnig, ac R. Morgan, Glynnedd. Yn yr hwyr, dechreuwyd gan y Parch. R. Griffith, Cefn, a phregethodd y Parchn. L. Probert, Bodringallt, ac H. Oliver, B.A., Casnewydd." Mae Mr. Miles yn parhau i lafurio yma, a'r achos yn myned rhagddo yn gysurus; ac er i'r eglwys fod yn lluosocach ar adegau yn flaenorol, ni bu erioed gymaint o waith sylweddol yn cael ei wneyd. Mae teimlad cryf yn awr dros ailadeiladu y capel; ac ni bydd y baich ond ysgafn i eglwys unol a gweithgar fel Bethesda.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn Bethesda:Thomas William Jenkyn. Daw ei hanes ef dan ein sylw etto. David Beynon. Dechreuodd bregethu yr un pryd a T. W. Jenkyn. Urddwyd ef yn Mon, ac y mae yn awr yn byw yn Nantgarw.

Daniel Roberts. Urddwyd ef yn Bryn Seion, Dowlais, lle y daw ei hanes dan ein sylw.

John Jones. Mab yr hen weinidog, Mr. M. Jones. Urddwyd ef yn Rhydri, mae yn awr yn Pentyrch.

Richard Evans. Urddwyd ef yn Ebenezer, Cefn-coed-y-cymer. Walter Williams. Urddwyd yntau yn Ebenezer, Cefn-coed-y-cymer. Bydd genym ychydig o hanes y ddau pan ddeuwn at yr eglwys yno. John Williams. Bu yn hir yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys, ac y mae yn awr yn Nghwmaman, sir Gaerfyrddin.

John Francis, Thomas Evans, a Thomas Davies. Nid oes genym ond eu henwau, ond deallwn fod y tri wedi marw.

John Williams. Urddwyd ef yn Llanberis, ac y mae yn awr yn byw yn Abertawy.

Evan Phillips. Nid yw yn pregethu yn bresenol.

Lewis Thomas, Thomas Evans, ac Ebenezer John. Aeth y tri i America. John Williams. Bu am dymor yn athrofa Aberhonddu, ond enciliodd i'r Eglwys Sefydledig, ac y mae yn awr yn un o is-ganoniaid Tyddewi. Thomas Jones. Urddwyd ef yn Middlesboro', ac y mae yn awr yn Llandderfel, Meirionydd.

Thomas Jenkins. Urddwyd ef yn Sarnau, Maldwyn, lle y mae etto. Edward Miles. Urddwyd ef gyda'r Saeson yn Awstralia. William George. Mae yn bresenol yn Nghaerdydd. Thomas Rees. Mae yn parotoi ar gyfer myned i'r athrofa. John Rogers. Mae yn aros yn bregethwr yn yr eglwys.

Bu yma lawer eraill yn aelodau o bryd i bryd, ond ar ol myned oddiyma y dechreuasant bregethu; a daeth yma rai pregethwyr o eglwysi eraill. Mae dau o'r cyfryw yma yn awr, sef Howell Davies, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn Ffynonddrain, gerllaw Caerfyrddin, ac Elias Maurice, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn Nhrefgarn, Penfro.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

METHUSALEM JONES. Ganwyd ef yn mhlwyf Llandyfriog, sir Aberteifi, yn mis Awst, 1769. Ni chafodd nemawr fanteision addysg pan yn blentyn, yr hyn a fu o anfantais iddo trwy ei oes. Pan yn un-ar-ddeg oed collodd ei dad, ond syrthiodd i ofal modryb iddo, sef Mrs. Parry, Llwyncadfor; a chafodd yno ymgeledd ac addysg. Cyn ei fod yn 15 oed rhoddwyd ef yu egwyddorwas i ddysgu bod yn grydd, a bu yn dilyn ei alwedigaeth am y rhan fwyaf o'i oes. Bu yn help iddo i gynal ei deulu lluosog pan nad oedd yr hyn a dderbyniai oddiwrth y weinidogaeth yn ddigon i hyny. Yr oedd o dymer naturiol fywiog a llawen, yr hyn a'i gwnai yn gydymaith dyddan, ac a roddai iddo y flaenoriaeth yn mhob cymdeithas lle y byddai, a chan fod ganddo gôf da a gallu nodedig i adrodd hanesion difyr, yr oedd yn dderbyniol gan ei holl gyfoedion. Arferai wrando yr efengyl bob amser, ond yr oedd yn llawn 20 oed cyn teimlo ei dylanwad grymus ar ei galon, ond bu yn hir yn ymgyndynu heb broffesu crefydd, hyd ryw Sabboth wrth wrandaw Mr. D. Peter, Caerfyrddin, yn pregethu ar ddiffodd yr Ysbryd, gwnaeth ei feddwl i fyny i beidio oedi yn hwy. Ymunodd a'r eglwys yn Saron, Llangeler, lle y cafodd bob help ac ymgeledd, a dangosodd yn fuan fod ynddo gymhwysder i wneyd gwaith mawr dros ei Arglwydd. Cymhellwyd ef cyn hir i arfer ei ddawn i bregethu, yr hyn a wnaeth wedi ei hir anog, ac yr oedd y poblogrwydd buan a gyrhaeddodd yn profi ei fod wedi ei godi gan Dduw i'r gwaith. Daeth gwahoddiadau iddo i bregethu yn fisol yn Ffaldybrenin, Crygybar, a Chapel Isaac, a chyrchai yn rheolaidd i'r lleoedd hyny, lle y rhoddid iddo groesaw mawr Pan yn 25 oed priododd a Jane, merch David Evans, Felingyrnos, sir Aberteifi; yr hon oedd er yn ieuangc yn aelod hardd o'r eglwys yn Horeb. Aeth ar daith i ymweled a rhai o eglwysi sir Forganwg; a derbyniodd alwad gan yr eglwysi bychain oeddynt newydd eu ffurfio yn Llangynwyd a Cymer-glyn-corwg, ac urddwyd ef yno yn y flwyddyn 1800. Llafuriodd yno am wyth mlynedd, a bu yn ddefnyddiol iawn trwy yr holl wlad oddiamgylch. Ymwelai yn rheolaidd a'r Maendy, a phregethai yn gyson mewn anedd-dai ar ei ffordd o'r Maendy i Langynwyd. Bu o ddefnydd mawr yn Brynmenyn a'r cylchoedd; ac nis gwybyddir hyd y dydd diweddaf pa faint o ddaioni a wnaeth yn yr ardaloedd hyny.

Yn 1808, derbyniodd alwad gan eglwys fechan oedd yn cyfarfod mewn llofft yn nglyn a gefail gof yn Merthyr Tydfil, a symudodd yno, a bu ei lafur yn dra derbyniol. Cyn pen tair blynedd adeiladodd gapel Bethesda, a gwelodd hwnw yn myned yn rhy fychan, fel y bu raid adeiladu yr addoldy eang sydd yno yn awr. Helaethodd derfynau ei lafur i Dowlais, Rhymni, Troedyrhiw, a Chefn-coed-y-cymer, a thrwy ei lafur ef yn benaf y sefydlwyd eglwysi yn y lleoedd hyn. Treuliodd yn Bethesda un-mlyneddar-ddeg-ar-hugain, ac yn yr ysbaid hwnw dywedir iddo dderbyn tair mil o aelodau. Cadwodd wres ar aelwyd yr eglwys ei holl ddyddiau; ac yr oedd heddwch yn wastad rhwng yr aelodau. Er na chafodd lawer o dda y byd hwn, etto ni bu arno eisiau dim, a magodd i fyny wyth o blant. Mab iddo ef yw Mr. John Jones, gweinidog Pentyrch a Thongwynlas. Er ei fod yn ddyn o gyfansoddiad cadarn, etto dirwynodd ei ddyddiau i ben; ond mwynhaodd yn helaeth o dangnefedd yr efengyl yn ei ddyddiau olaf. Hunodd yn yr Iesu Ionawr 15fed, 1839, yn 71 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Bethesda y dydd Sadwrn canlynol; a gweinyddwyd yn ngwasanaeth y claddedigaeth gan Meistri T. B. Evans, Ynysgau; J. Hughes, Dowlais; J. Thomas, Adulam, a B. Owens, Zoar.

O ran corph yr oedd Methusalem Jones yn ddyn nodedig o fawr a hardd. Yr ydoedd dros chwe' troedfedd o daldra, ac yn gadarn o wneuthuriad. Er ei fod yn dal ac esgyrniog, yr oedd yn rhyfeddol o luniaidd a phrydferth rolwg arno, heb fod yn rhy dew na rhy denau. Yr oedd yn bregethwr