Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/290

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

byddo y genhedlaeth bresenol yn fyw yn Morganwg. Yr ydym yn cofße rhai oedfaon nodedig a gafodd; ac nid anghofiwn, yn enwedig, yr anerchiad byr, cynhyrfus, a draddododd ar ddiwedd yr oedfa ddeg o'r gloch yn nghymanfa Cendl, yn y flwyddyn 1859. Aeth y cwbl yn chwilfryw man cyn pen pum' munyd wedi iddo ddechreu llefaru. Yr oedd yr effeithiau fel toriad cwmwl llawa. Analluogwyd ef rai blynyddau cyn ei farwolaeth i gyflawni ei ddyledswyddau fel cynt, ac oblegid hyny rhoddodd ofal yr eglwys yn Dowlais i fyny yn 1864, a symudodd i Ferthyr i fyw, ac ymaelododd yn Zoar, i'r lle y cyrchai yn ei gerbyd bychan bob Sabboth tra y gallodd. Cyfyngwyd ef yn gwbl i'w dŷ am y gauaf diweddaf y bu fyw; a dydd Iau, Ebrill 7fed, 1869, ymadawodd "ei ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef;" a'r dydd Mawrth canlynol rhoddwyd ef i orwedd yn Cemetery Cefn-coed-y-cymer, lle yr erys hyd y boreu gogoneddus yr adgyfyd mewn nerth, heb deimlo dim oddiwrth y "mynych wendid" y bu drwy ei oes yn ddarostyngedig iddo.

BRYNSEION, DOWLAIS.

In mhen llai na dwy flynedd wedi urddo Mr. Thomas Jones yn Bethania, cyfododd anghydfod rhyngddo a'r eglwys yn herwydd ryw gwynion a ddygid yn ei erbyn. Canlyniad yr ymryson fu i Mr. Jones, a rhyw nifer o'r rhai a'i pleidient, fyned allan o Bethania; ac am ryw ysbaid buont yn cyfarfod mewn ystafell yn y lle, a chyn hir cymerasant hen gapel Bethel, lle yr arferid addoli cyn codi Bethania. Nid rhyw lawer o lewyrch fu ar Mr. Jones yn Bethel, ac yn y flwyddyn 1829, ymadawodd ac aeth at y Bedyddwyr, gyda'r rhai y mae etto. Daeth i gryn gyhoeddusrwydd wedi uno a'r Bedyddwyr. Dewiswyd ef yn athraw yr athrofa yn Hwlffordd; ac yn y ddadl fythgofus yn Rhymni ar Fedydd, efe oedd yr arwr a ddygwyd allan gan y Bedyddwyr yn erbyn Mr. John Jones, Llangollen. Egwan iawn oedd yr achos yn Bethel yn parhau, ac ychydig o ffafr a roddid iddo gan y gweinidogion cylchynol, oblegid nad oedd yr amgylchiadau dan ba rai y cychwynwyd ef yn gwbl foddhaol. Cymerwyd gofal yr eglwys wedi ymadawiad Mr. Thomas Jones gan Mr. M. Jones, Bethesda, dron ychydig; ac yn y flwyddyn 1830, rhoddwyd galwad i Mr. John Morgan, myfyriwr o'r Neuaddlwyd, ac urddwyd ef Tachwedd 24ain a'r 25ain. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Lewis, Aber; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. Howells, Baran; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. M. Jones, Bethesda; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. G. Griffiths, Ebenezer, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau.* Siriolodd yr achos i fesur wedi sefydliad Mr. Morgan yma, ond cyn pen pedwar mis daeth rhybudd oddiwrth gyfreithiwr yn Aberhonddu at yr eglwys yn galw arni dalu 27p. iddo yn ddioed neu golli y capel. Ymddengys ei fod wedi rhoddi benthyg yr arian i Mr. W. Price, yr hwn a adeiladodd y capel, ac yr oedd heb eu cael yn ol. Daeth Mr. Morgan a'r achos i'r cyfarfod chwarterol, a chafodd genad i fyned trwy sir Frycheiniog i gasglu, a chasglodd y swm gofynol a thalwyd y cyfreithiwr yn llawn, fel yr oedd Bethel yn rhydd. O gylch yr amser yma torodd cangen allan oddiwrth y Bedyddwyr yn Nghaersalem, a chan nad oedd gweinidogion yr enwad hwnw yn eu cefnogi, yr oeddynt yn ymwasgu at yr ychydig Annibynwyr oedd yn Bethel, er eu bod yn cynal eu gwasanaeth yn hollol ar wahan, etto yr oedd rhyw ogwyddiad ynddynt o'r ddau ta i ymuno a'u gilydd. Cymerwyd tir at adeiladu capel newydd yn y fan lle y saif Brynseion yn awr. Yr oedd Mr. Morgan erbyn hyn wedi gadael ylle, ac wedi ymsefydlu yn weinidog yn Lleyn, sir Gaernarfon. Y gangen drodd allan o Gaersalem oedd a'r llaw flaenaf yn adeiladiad Brynseion; end wedi ei gael yn barod unodd yr eglwys fechan yn Bethel a hwythau a'u gilydd, a ffurfiwyd hwy yn eglwys Annibynol gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau; yr hwn a arferai ddyweyd ar ol hyny, "mai efe fu yn priodi r ieir a'r chwiaid yn Dowlais a'u gilydd." Aeth amryw o'r Bedyddwyr mwyaf selog yn ol i Gaersalem wedi i bethau ddechreu oeri; ond arosodd y rhan fwyaf o honynt yn Brynseion, yn aelodau didramgwydd hyd eu diwedd. Bu gofal Brynseion dros dymor ar ol hyn ar Mr. Josuah Thomas, Adulam, Merthyr; ond o'r diwedd rhoddasant alwad i Mr. Daniel Roberts, yr hwn oedd eisioes yn byw yn y lle, ac yn dibynu ar ei fasnach am ei gynaliaeth, ac wedi pregethu llawer iddynt er sefydliad Mr. John Morgan yn y lle. Aelod a phregethwr perthynol i Zoar oedd Mr. D. Roberts, er ei fod yn byw yn Dowlais. Urddwyd ef Mai 23ain a'r 24ain, 1836. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. P. Griffiths, Llanrwst; derbyniwyd cyffes ffydd yr urddedig gan Mr. J. Ridge, Cendl; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. L. Powell, Caerdydd; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. T. Davies, Abertawy, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Griffiths, Castellnedd.* Nid oedd yr achos ond bychan pan y eymerodd Mr. Roberts ei ofal; 45 oedd rhif yr aelodau, ac nid oedd ond un gwrandawr ar yr oriel y Sabboth cyntaf y pregethodd, a llafuriodd yn ddyfal cyn gweled nemawr o lwyddiant. Yr oedd yr amgylchiadau o dan ba rai y cychwynodd yr achos, a'i hanes flaenorol yn mhell o fod yn ffafriol i'wlwyddiant; ond yr oedd y cyfeillgarwch mawr oedd rhwng Mr. Roberts a Mr. Hughes, Bethania, yn help mawr i iachau pob drwgdeimlad a allasai fod wedi bod rhwng y ddwy eglwys gynt; ond er y cwbl gwyr pawb fod anfantais fawr gan eglwys fechan i weithio ei ffordd mewn lle y mae eglwys fawr eisioes wedi cyrhaedd dylanwad eang. Cynyddodd yr achos yma er hyny yn raddol, fel yr aeth yr hen gapel yn rhy gyfyng, ac yn y Awyddyn 1844, adeiladwyd capel newydd hardd, gwerth mil o bunau, yr hwn a gynlluniwyd gan Mr. Owens, Zoar; ac o hyny allan daeth yr achos rhagddo gan ennill tir yn barhaus. Ychydig a dderbyniai Mr. Roberts oddiwrth y weinidogaeth yn yr holl flynyddau cyntaf-llai na deg-swlltar-hugain y mis-ond dibynai ar ei fasnach am gynhaliaeth iddo ei hun a'i deulu. Gweithiodd Mr. Roberts a'i bobl yn egniol i dalu eu dyled. Yr oedd dau gant o bunau o ddyled ar yr hen Brynseion pan godwyd y newydd yn 1844, ac yn 1862, aed drachefn i ddau cant o bunau i'w ad-drefnu; ond talwyd y ddyled agos yn llwyr cyn diwedd oes Mr. Roberts, a hyny gan y bobl eu hunain, oddigerth rhyw ddeugain punt a gasglwyd gan Mr. Roberts yn Bristol. Mwynhaodd yr eglwys heddwch mawr trwy holl dymor gweinidogaeth Mr. Roberts, ac os nad oedd yn tynu llawer o sylw y cyhoedd oddiallan, yr oeddynt yn dangnefeddus yn eu plith eu hunain. Bu farw Mr. Roberts Ionawr 9fed, 1868, yn 68 oed. Wedi ei farwolaeth cymerwyd gofal yr eglwys dros ychydig gan Mr. Jenkin Jones, yr hwa oedd newydd roddi ei weinidogaeth i fyny gyda'r Saeson yn Nghapel Ivor, ond ymadawodd ef yn fuan i Loegr. Cyn diwedd y flwyddyn 1869, derbyniodd Mr. John Henry Jones, Pwllheli, alwad unfrydol gan yr eglwys, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Chwefror, 1870, ac y mae yn parhau yn weinidog yma; ond drwg genym ddeall fod sefyllfa ei iechyd wedi ei analluogi er's misoedd i gyflawni ei ddyledswyddau. Nid ydym yn cael fod unrhyw ddigwyddiad anghyffredin wedi cymeryd lle yn hanes yr eglwys yn y blynyddoedd diweddaf; ac er fod yma lawer o ddynion da wedi bod o bryd i bryd, etto nid ydym yn cael am neb wedi ymgodi gymaint uwchlaw pawb arall fel ag i deilyngu crybwylliad arbenig. Ni chawsom enw neb a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon ond William Roberts, mab Mr. D. Roberts, y gweinidog, yr hwn sydd yn awr yn Athraw Clasurol yn athrofa Aberhonddu.

  • Dysgedydd, 1831. Tu dal. 86. ↑ Llythyr Mr. J. Morgan,
  • Diwygiwr, 1836. Tu dal. 405.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

DANIEL ROBERTS. Ganwyd ef yn mhlwyf Llansamlet, gerllaw Abertawy, Mai 14eg, 1800. Treuliodd ei flynyddoedd bachgenaidd gyda pherthynasau iddo, y rhai a ddalient fferm yn mhlwyf Llangafelach... Arferai wrando bob amser yn y Mynyddbach, ond ar ol gadael ei ardal enedigol y daeth i benderfyniad o roddi ei hun i'r Arglwydd. Yn y flwyddyn 1819, daeth i Ferthyr Tydfil i weithio, ac er nad oedd yn proffesu crefydd yr oedd yn ddyn ieuange sobr, a gofalus iawn yn newisiad ei gyfeillion. Yn y flwyddyn 1820, derbyniwyd ef yn aelod yn Bethesda gan Mr. M. Jones, a'r un Sabboth ag y derbyniwyd ef yn aelod, yr oedd Evan Harris, cyn hyny o Bentretygwyn, yn cael ei adferu i gymundeb yr eglwys. Yn y flwyddyn 1822, dechreuodd Mr. Roberts bregethu; a'r flwyddyn ganlynol aeth i'r Neuaddlwyd, lle y bu am ddwy flynedd dan addysg Dr. Phillips. Nid oedd awydd cryf ynddo am fyned i'r weinidogaeth; a chan nad oedd yn gweled Rhagluniaeth yn agor unrhyw ddrws iddo ar y pryd, yn hytrach na myned i deithio y wlad i chwilio am le, dychwelodd i Ferthyr i ddilyn ei orchwyl fel cynt, ac ymaelododd yn Zoar, a phregethai bob Sabboth lle y caffai ddrws agored, a phregethodd lawer mewn manau o Aberdar i Lanelli, Brycheiniog, ac o Dowlais i Bontypridd, mewn manau lle nad oedd eglwysi Annibynol y pryd hwnw wedi eu ffurfio. Wedi priodi aeth i fyw i Dowlais, lle yr ymddibynai am ei fywoliaeth ar ei fasnach, a pharhaedd i bregethu mor egniol ac ymdrechgar ag erioed. Magodd deulu lluosog i fyny, a rhoddodd iddynt addysg dda. Mab iddo ef ydyw Mr. William Roberts, Athraw Clasurol athrofa Aberhonddu; a merch iddo ef ydyw gwraig Mr. N. Stephens, Liverpool, ac y mae dwy arall o'i ferched yn fyw mewn cylchoedd parchus. Derbyniodd Mr. Roberts alwad gan yr eglwys fechan yn Brynseion, ac urddwyd ef yno, fel y gwelsom, Mai 24ain, 1836. Er nad oedd yr achos ond bychan, ac nad oedd yr hyn a dderbyniai am ei lafur ond ychydig iawn, etto yr oedd ei ofal am dano y fath a phe buasai ei amgylchiadau yn dibynu yn hollol arno. Yr oedd yn caru y gwaith, ac oddiar hyny y cyfodai ei fawr ofal am dano. Ddeng mlynedd cyn ei farwolaeth yr oedd Mr. Roberts yn ddyn iach a chryf, ac oblegid ei ofal am dano ei hun, a chymedroledd ei holl arferion, gallesid disgwyl iddo fyw i oedran teg; ond taflwyd ef i ddyfnder galar trwy farwolaeth ei fab ieuengaf, Daniel, a hir a chwerw gystudd ei anwyl briod, yr hwn o'r diwedd a derfynodd yn ei marwolaeth; a thrwy yr holl amgylchiadau hya prysurwyd awr ei ymddatodiad yntau. Bu yn nychu drwy fisoedd olaf y Awyddyn 1867, ac er nad oedd unrhyw afiechyd neillduol arno, etto yr oedd yn amlwg fod ei holl natur yn ymollwng, a bu farw mewn tawelwch Ionawr 9fed, 1868, yn 68 oed, a chladdwyd ef yn nghladdfa y Pant, Dowlais, pryd y pregethwyd gan Mr. J. Davies, Caerdydd, ac y gweinyddwyd gan amryw weinidogion eraill yn y capel ac ar lan y bedd; a'r Sabboth dilynol traddodwyd pregeth angladdol Mr. Roberts yn Brynseion gan Dr. Rees, Abertawy.

Yr oedd Mr. Roberts o ran ei alluoedd naturiol yn mhell uwchlaw y cyffredin, a thrwy ymroddiad a hunan-ddysgiant yr oedd wedi diwyllio y galluoedd hyny. Myfyriodd gryn lawer ar byngciau duwinyddol, ac ye oedd yn dra chyfarwydd yn yr Ysgrythyrau. Nis gallesid ei wrando yn pregethu heb deimlo ei fod yn hyddysg iawn yn y Bibl. Parotoai yn fanwl ar gyfer y pulpud, ac yr oedd gwastadrwydd mawr yn ei holl bregothau. Cyfunid y pregethwr a'r dysgawdwr i raddau dymunol yn ei weinidogacth, acer y gallesid cael rhai i ragori arno yn y naill neu y llall, etto nid yn aml y ceid ei ragorach yn y ddau. Yr oedd trefn a rheol yn hollol naturiol iddo gyda phob peth, ac yr oedd hyny yn amlwg yn ei weinidogaeth. Prophwydai yn wastad yn ol cysondeb y ffydd, ac nid oedd dim a'i hudai oddiwrth hen wirioneddau mawr yr efengyl. Dyma oedd baich ei breg ethau trwy ei oes, a dyma oedd defnydd ei ddiddanwch wrth farw. Perchid ef yn fawr gan bobl ei ofal, ac yr oedd eu hymddiried ynddo agos yn ddiderfyn, ac yr oeddynt hwy a'i gyfeillion y tu allan i'w eglwys yn parotoi i wneyd tysteb iddo, ond cyn iddynt gael amser i gwblhau hyny, galwyd ef i fwynhau gwobr y gwas da a ffyddlon. Yr oedd yn fawr yn serch ei holl frodyr yn y weinidogaeth, ac yr oedd cynifer a deuddeg-ar-hugain o honynt yn bresenol yn mysg y lluaws galarwyr ddydd ei angladd. Cafodd gladdedigaeth fel tywysog, a phery ei "goffadwriaeth yn fendigedig."

GWERNLLWYN, DOWLAIS.

Wedi yr ychwanegiad mawr a fu at eglwys a chynnulleidfa Bethania ya y flwyddyn 1849, penderfynwyd adeiladu capel newydd mewn cwr avall o'r lle poblog, ac i nifer o'r eglwys fyned allan yn wirfoddol i ffurfio eglwys arall. Adeiladwyd capel hardd yn y flwyddyn 1850, a galwyd ef yn Gwernllwyn, yn ol enw y lle, ac agorwyd ef ar ryw Sabboth yn Chwefror, 1851. Ffurfiwyd eglwys ynddo yn ddioed gan Mr. Hughes, Bethania, a bu y lle dan ei ofal ef yn cael ei gynorthwyo gan y gweinidogion cylchynol-am ysbaid blwyddyn. Cyn ymadael o Bethania, neillduwyd chwech o ddiaconiaid i weinyddu yn y Gwernllwyn, sef Henry Pergrine, Thomas Lewis, Dafydd Williams, Edward Roderick, John Griffiths, a Thomas Williams; ond o'r chwech nid oes ond yr olaf yn aros. Ar derfyniad ei amser yn athrofa Aberhonddu yn haf 1852, rhoddodd yr eglwys alwad unfrydol i Mr. Benjamin Williams, yr hwn a urddwyd i holl waith y weinidogaeth, Gorphenaf 12fed a'r 13eg, 1852. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. N. Stephens, Sirhowy; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Hughes, Bethania; dyrehafwyd yr urdd-weddi gan Mr. L. Powell, Caer dydd; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw athrofa Aber

[ocr errors][ocr errors] honddu, ac i'r eglwys gan Mr. T. Rees, Cendl. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Jones, Rhydri; W. Morgan, Caerfyrddin; J. Davies, Llanelli; J. Williams, Castellnewydd; H. Oliver, B.A., Pontypridd; J. Thomas, Glynnedd; D. Williams, Berea; D. Lewis, Llanfaple; D. Jones, Bethesda; J. D. Williams, Caerdydd; J. M. Bowen, Penydarran; J. B. Jones, B.A., Hermon; T. Davies, Llanelli, ac M. Ellis, Mynyddislwyn.* Rhifedi yr aelodau ar sefydliad Mr. Williams yma oedd 250, ac os buont yn fwy cyn hyny, yr hyn nid yw yn debyg, dyna oedd eu nifer y pryd hwnw. Llafuriodd Mr. Williams yma gyda derbyniad a llwyddiant am fwy na naw mlynedd. Talwyd y ddyled oedd ar y capel, ac yn ei amser ef, ac yn benaf trwy ei offerynoliaeth ef, y sefydlwyd achos Penywern, a'r achos Saesneg ya nghapel Ivor. Ymadawodd Mr. Williams cyn diwedd y flwyddyn 1861 i Ddinbych, lle y treuliodd flynyddoedd; ac y mae yn awr yn Canaan, gerllaw Abertawy. Wedi ymadawiad Mr. Williams, Thoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Ll. Hughes, myfyriwr o athrofa y Bala; ac urddwyd ef Mehefin 24ain a'r 25ain, 1862. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Price, Aberdar; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Hughes, Bethania; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Roberts, Bryn Seion; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Hughes, B.A., Tredegar, ac i'r eglwys gan Mr. W. Griffiths, Llanharan. Bu Mr. Hughes yma am saith mlynedd yn barchus gan bawb fel dyn gwir dda a chrefyddol. Mae yn awr yn Rehoboth, Penbre. Yn Ebrill 1870, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. David Thomas, Abercanaid, a dechreuodd ei weinidogaeth y 19eg o'r Mehefin canlynol, ac efe ydyw y gweinidog yma yn bresenol. Mae yma eglwys dda, a chynnulleidfa luosog, ac Ysgol Sabbothol lewyrchus. Mae ysgoldy cyfleus wedi ei godi wrth dalcen y capel er cynal moddion wythnosol, a'r ysgol ar y Sabboth.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:

John M. Jones. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Nghwmbran, ac y mae yn awr yn Gibeah, Brynaman.

David Jones. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn New Tredegar; ac y mae yn awr yn Cwmbwrla, gerllaw Abertawy.

Bu yma amryw bersonau o dipyn o hynodrwydd yn perthyn i'r eglwys hon, er nad yw ond ieuange. Edrychid ar Henry Pergrine fel duwinydd nodedig, a gwr cadarn yn yr Ysgrythyrau. Dafydd Williams oedd un hynod o afaelgar ac effeithiol mewn gweddi. Yr oedd Edward Roderick yn sicr o dynu sylw wrth ei weled mor hwylus yn gwrando. Daniel Jones oedd ddyn hynaws a boneddigaidd, ac a fu o lawer o help i'r achos yma ar ei gychwyniad, ond "ei haul a fachludodd a hi yn ddydd." Pe byddai yn weddus cyfeirio at y byw gallem enwi yn mysg y rhai sydd yn aros rai sydd yn mhob ystyr yn llawn cystal a'r rhai a ymadawsant.

PENYWERN, DOWLAIS.

Mae Penywern yn sefyll ychydig i'r gogledd o Dowlais. Tua'r flwyddyn 1856, gwelodd Mr. Williams ac eglwys y Gwernllwyn fod y lle yn debyg • fod yn gynyddol, a dechreuwyd pregethu yn achlysurol mewn anedd-dai

• Diwygiwr, 1852. Tu dal. 254. † Diwygiwr, 1862. Tu dal. 250,