Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes y Lleuad.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

uriol i'r coedwigoedd ar amryw dymhorau. Yr oedd gwawr reddfol Hydref i'w weled yn enyn ar rudd cynnaraf Gwanwyn, a mantell hyfryd Haf, mewn rhai manau, yn amgylchu coed moelfrigog megys ysglyfaeth Gauaf. Ymddangosai fel pe buasai yr holl dymhorau yma wedi uno eu dwylaw mewn cylch o ddidor gysondeb. Ni welsom anifeiliaid ond yn unig creadur godidog pedwar-troediog rhesog, o gylch 3 troedfedd o uchder, tebyg i Zebra bychan, y rhai oeddynt bob amser yn finteioedd bychain ar lanerchi porfaog yn mhlith y coedydd, yn nghyda dwy neu dair rhywogaeth o adar cynffon-hir, y rhai oeddym yn ei farnu fel Pheasants eurlliw a gleision. Ar y glanau, er hyny, gwelsom luoedd dirif o gregyn-bysg, ac yn mhlith eraill, rai gwastad-lydan mawrion."

Y mae yn beth lled hynod i weled mutton Leiscestershire yn y Lloer, ond felly y mae.——

"Wrth chwilio y gwastadedd, ar hyd yr hwn yr oeddym yn canfod coedydd yn wasgaredig yr un dull a chymylau yn yr wybren, cawsom drachefn yr hyfrydwch o ddarganfod anifeiliaid. Y cyntaf a ganfuom oedd anifail pedwar-troediog, a gwddf tra nodedig o ran ei hyd, pen fel dafad, ac arno ddau gornnydd-droawl, gan wyned ag ifori caboledig, ac yn cydsefyll yn unionsyth â'u gilydd. Ei gorph oedd gyffelyb i'r carw, ond ei draed blaen yn anghyfartal o hir, a'i gynffon, yr hon oedd bur flewog, a chan wyned â'r eira, yn cylchdroi i fynu dros ei gloren, ac yn crogi ddwy neu dair troedfedd wrth ei ystlys. Ei liw ydoedd gwineu-loyw a gwyn, yn llanerchi brithion yn dra eglur, ond heb fod o un dull trefnus. Nid oeddynt i'w gweled ond yn gydmariaid bob yn ddau, mewn tiroedd noethion rhwng y coedydd, ac ni chawsom gyfle i weled ei gyflymdra na'i ymarferiadau. Yn mhen ychydig funudau ymddangosodd tri o anifelliaid o rywogaeth arall, mor hysbys i ni oll, fel y chwarddasom wrth weled creadur mor adnabyddus i ni mewn gwlad mor bell. Nid oeddynt na mwy na llai na thair o ddefaid da a mawrion, y rhai ni buasent yn un gwaradwydd i Ffarmydd Leiscestershire, neu rai o farchnadoedd Llundain, Er craffu yn y modd manylaf, ni allem weled un gwahaniaeth rhwng rhai hyn a defaid ein gwlad ni: nid oedd ganddynt mor gorchudd dros en lygaid yr hwn a ddynodais o'r blaen, sydd yn gyffredinol gan greaduriaid pedwar-troediog y Lloer. Yn fuan ar ol hyn ymddangosent yn lluoedd, a thrwy helaethu yr olygfa, canfuom hwy yn ddiadellau dros ran fawr o'r dyffryndir. Nid rhaid i mi ddywedyd wrthych mor awyddus oeddym i gael gweled bugeiliaid arnynt, ac hyd yn nod dyn ag arffedog las, a llewys wedi eu torchi, â fuasai yn olwg croesawus i ni, os nad i'r defaid hefyd; yr oeddynt yn ymborthi mewn llonyddwch, yn arglwyddi ar eu porfeydd eu hunain, heb nag amddiffynydd na distrywiwr mewn dull dynol.

"Sanctius his animal mentisque capacius altæ," megys y canai Ovid, oedd o hyd yn eisiau, ond nid yn hir. Y Dyn yn y Lleuad o'r diwedd a ymddangosodd yn ei berson ei hun, nid gyda ei gi a'i lwyn, ond gyda boneddigesau Lloerawl. Ni ddylem ddal ein darllenwyr oddiwrth y bobl hynod hyn:——

"O'r diwedd nesasom at y gwastadedd oedd yn agor tua'r llyn, lle