y 7fed o Dachwedd, 1835; ac efe a benderfynodd wneuthur y lle hwn yn brif arsyllfan wneyd ei brofion mawreddog, a'i ddatguddiadau dyfodol. Efe a gymerodd gydag ef amryw o'i gyfeillion dysgedig, nifer o law-weithyddion i'w gynnorthwyo i osod i fynu ei syll-beiriant newydd, a'i gyfarchwylfa. Adroddasom uchod yn fyr am ffrwythau gorwych y peiriant hwn; a gall y rhai o'n darllenwyr a welsant y camera obscura, nen haul-wydr-ddrych, ffurfio drychfeddwl canolig ymddangosiad tumewnol, a threfn yr arsyllfa, y gwrthrych o ganlyniad sydd yn cael ei daflu ar ddarn hirgrwn o liain.
Yr ydym yn awr yn dychwelyd ar y datguddiadau a ganfuwyd gan ein Seryddwr enwog. Ar nos y 14, ar y llawn Lleuad, gan gynted ag y chwalodd y caddug a achoswyd gan leithder yr awyr, cyfeiriodd y Seryddwr eu sylw at y parth adnabyddus yn map Blunt o'r Lleuad, wrth yr enw Tycho, rhif 18. Darganfyddwyd yma dri môr llydan a helaeth o amgylchiad, a saith gorph mawr o ddwfr tebyg i lynnoedd mawrion, neu yn hytrach foroedd. Y mae ymddangosiad tywyll y môr mwyaf yn ymestyn rhwng llinell pegwn gogleddol a chyhydedd ddwyreiniol y Lleuad, ac a gylchynir tua chronell y Lleuad ag ymylgylch disglaer o fynyddoedd tanllyd. Y mae penrhyn hynod o ran ei ddull, megys coron ymerodrol, yn bengrwn chwyddawl, yn cael ei ranu a'i rwymo i lawr â rhes o fynyddau, yn rhedeg allan i'r môr mawr hwn. Y mae agos yn amhosibl dysgrifio, ac ni allai ehediadau meddyliol prydydd ddychymyg unrhyw beth mor hollawl annaearol, mor ysplenydd, mor harddwych a'r olygfa yn awr o'n blaen. Gorynysoedd, penrhynoedd, ynysoedd, morgilfachau dyfnion, a mil o amrywiol ddulliau, na fedd ein daearyddiaeth ni un enw arnynt. Mewn rhan arall o'r cefnfor hwn yr oedd mynydd tryloyw, yn ymddangos yn fodrwy o oleuni, ac ynddo gynneufol yn fflamio, ac yn bytheirio allan hylif tanllyd, mor danbaid ag Etna neu Vesuvius ar amser eu rhuthriadau mwyaf dychrynllyd. Yr oedd pelydr angerddol yn saethu allan, neu yn hytrach yn llosgi o'r mynydd hwn dros driugain milltir o amgylch; a gellir tybio yn ddiamhenol mai o'r llosg-fol hwn y mae rhai o'r cerig mawrion sydd yn disgyn o'r wybren i'r ddaear, y rhai a elwir yn Saesonaeg aerolites; oblegyd os ystyrir â pha fath rym y saetha y cenfol llosgedig hwn allan, nid yw yn annichonadwy bod rhai darnau o honynt yn cael eu taflu weithian tu hwnt i dyniad awyrgylch y Lleuad, lle y byddai iddynt o angenrheidrwydd dynu tua'r ddaear. Mae'n rhyfeddod i'w adrodd, er bod y mynydd hwn yn sefyll dri chant o filltiroedd allan i'r cefnfor, y mae yn cael ei gysylltu a'r cyfandir â chwe' rhengc o fynyddau, y rhai a ymddangosant eu bod yn ymganghenu o hono fel canolbwngc cyffredinol.
Prin y caniatta ein terfynau i ni ymhelaethu ar y datguddiadau a wnaed yn y moroedd eraill; ond ni allwn lai na dywedyd bod y trydydd môr, a nodir ag O yn map Syr J. Herschel, ac a adnabyddir o hyn allan wrth yr enw Môr Tangnefedd, yn cael ei ranu yn ei ganol gan res o fynyddau pum milltir o led, o gyfangorph grystal, mor bur a spar Derbyshire o'r mwyngloddiau Y mae ymylau y mynyddoedd hynod hyn, ar eu hyd, am dri chant a deugain milltir yn ongl llym o grystal, yn adlewyrchu ac yn cyd-gysylltu pelydr y goleuni, heb