ynddynt braidd un rhwyg na breg o ben bwy gilydd. Ar yr ochr ddeheuol i'r pedwerydd cefnfor, y mae môr o'r pedwerydd gradd yn foglynog gan ynysoedd llosgedig, ac yn gylchynedig gan dir, penrhynoedd yr hwn sydd yn saethu yn bell i'w fynwes. Yn mhen un o'r penrhynoedd hyn y mae cylch mynyddig o losg-dyllau, bron a diffoddyd. Pitutus, pa fodd bynag, yr hwn sydd yn sefyll ar benrhyn uchel ar yr ochr ddeneuol, yn dyrchafu dros yr olygfa gadarn, fel yn ymorfoleddu yn mawredd ei ogofeydd tanllyd. Yn nghymydogaeth y mynydd tanllyd hwn, Canfyddasom gylch tryloyw o fryniau yn colli tua'r gorllewin. Manwl-sylldrem â'r gwydr G. Z. a ddangosodd i ni bod y mynyddau hyn yn gyfansoddedig o farmor mor wyn a'r eira, a'u bod yn amgylchu ardal o ddyffrynoedd gwyrddion hyfryd, fel y rhai a ddarluniasom o'r blaen, mor brydferth ag y gallai ein dychymygion ddarlunio rhai Paradwys, fel pe buasent wedi eu darparu i drigolion dedwydd, na wybuant erioed am ofalon a blinderau y byd îs-loerawl hwn.
Rhoddodd Syr J. Herschel awgrym yn awr, y caem, yn ol pob tebygolrwydd, weled ychwaneg o drigolion y Lloer; oblegyd, fel yr oedd y golenni dysglaer yn tywynu ar y dyffryn o'r mynyddau tanllyd yn y gymydogaeth, bod hyny yn gyfleustra mawr i'r trigolion dros yspaid hir absenoldeb golenni yr haul, (fel y mae yn dygwydd yn fisol i drigolion y Lloer) a'r trumau o farmor a ymddangosent yn dyrchafu i'w hamddiffyn rhag peryglon rhuthriadau yr ogofeydd tanllyd, ei fod yn debyg o fod yn lle o gyrchfa pobl—ac nid oedd y Seryddwr enwog yn cam-gymeryd. Parotoisom ein gwydrau yn awr i gael golwg agosach o'r dyffryn dedwydd hwn, a'r peth cyntaf a ymddangosodd ar ein llen oedd adeilad fawreddog o waith celfyddyd, sef teml o faen Saphir, wedi ei chyfodi ar golofnau o'r un defnydd, yn chwe throedfedd o dryfesur, yn meinhau yn raddol i gan' troedfedd o uchder! Yr oedd y deml ardderchog hon wedi ei gwneyd i fynu a phen uchelagored, wedi ei ranu yn dair rhan, o ymddangosiad aurllachar, neu ryw fetal melyn tryloyw, wedi ei weithio yn debyg i fflamau fforchog o oleuni, neu dan yn nydd-droi ac yn plethu o amgylch pelen o liw copr, tywyll, yr hon a amgylchynent, ac fel yn ymgynddeiriogi o'i gylch megys i'w difa. Llawr yr adeilad brydferth hon oedd o grystal pur a chaboledig, yn gwreichioni yn nhywyniad yr haul, o oleuni gwyn pelydrawg, yr hyn a ychwanegai brydferthwch rhyfeddol at y pelydr goreurog o'r nen,a'r pelydr gorddysglaer o euraid oleuni oedd yn serenu, ac yn gwreichioni oddiwrth y colofnau saphir. oedd y deml yn sefyll ar drum chwyddawg o lasdir, yn yr ochr ddwyreiniol o'r dyffryn; a gwelsom ddwy eraill yn gymwys o'r un faint, dull, a defnyddiau, ar yr ochr ddeheuol a gorllewinol. Y ddwy hyn, fel y llall, oedd yn hollawl ymddifad o allorau, delwau, nag unrhyw ranau neu addurniadau; y rhai yn gyffredinol a ddynodant leoedd wedi eu neillduo at addoliad crefyddol. Yr oeddynt yn sefyll ar eu penau eu hunain ar y dyffryndir gwyrddlas, megys rhyw adeilwaith awyrol, berthynol i weledigaeth swynawl, yn gyflawn o urddasolrwydd dysgleirdeb a phrydferthwch. Yr unig bethau o berchen bywyd a welid yn ymsymud yn agos iddynt ydoedd haid o golomenod gwynion, yn