Yr oedd yno hefyd amryw fathau eraill o ffrwythau o'u blaenau tebyg i'r gurva, a'r lamarinds yr India Orllewinol, a ffrwythau cochion bychain tebyg i'r cucumber, y rhai a welsom yn fynych yn crogi megys swp o rudd-emau (rubies) oddiwrth goed a dail gwyrddion siriol a llydain, yn bur aml yn y llwyni a'r coedwigoedd a fu dan ein sylw. Gwasgent y rhai hyn yn eu dwylaw, a dodent hwy at eu geneuau, fel pe buasent yn sugno rhyw nedd peraidd o honynt. Ond pa fodd bynag ymddangosai y ffrwythau melynion mawr y mwyaf dewisol ganddynt, yn gymaint felly, fel pan fyddai un o'r pleidiau yn gwneyd caredigrwydd i un o'r lleill, byddai yn pigo un dewisol o'r pentwr o'i flaen, a'i estyn i'w gyfaill.
Pan oeddynt ynghyd ar y gorchwyl moesawg hwn, piciodd gwrthrych gwyn allan yn sydyn o'r coed gerllaw, ac a redodd i'r canol. Canfuasom yn fuan mai carw gwyn oedd hwn, a chanddo gyrn duon, yr hwn a ymddangosai ei fod yn bur gydnabyddus ac yn hoff gan bawb o amgylch. Blaen-borai y glaswellt gerllaw iddynt, cymerai damaid o'u dwyław, ac ymddangosai yn gyfranogol o'r nwyf-branciau a'r chwareyddiaethau difyrus, y rhai y dechreuai yr holl gwmpeini arno yn fuan. Daliasom sylw arnynt dros agos i awr, ond ni welsom hwy yn ymyraeth ag un math o waith na chelfyddyd; ond fel y Lloerolion eraill a welsom, ymddangosai bod eu holl amser yn cael ei dreulio mewn pleserau a difyrwch, mewn bwyta, ehedeg, ymdrochi, a rhodiana oddiamgylch ar ymylau clogwyni coediog, hongian wrth frig uchaf cangenau y coed, penelinio, neu orwedd ar y glaswellt, a phleserau eraill, y rhai a ymddangosent i ni yn fwy cnawdol; er, feallai, nad oeddynt iddynt hwy ond diofalwch ac anwyldeb diniwaid. Nid y rhai hyn oedd yr unig greaduriaid byw yn y dyffryn hwn, pa un, oddiwrth y tair teml, a alwasom, Dyffryn y Trioedd; canys yr oedd bron yr holl greaduriaid a welsom yn y parthau eraill o'r Lloer wedi ymgynnull yma, ac wyth neu naw o wahanol rywogaethau na welsom, ac na chlywsom am danynt erioed ar ein daear ni.
Y peth a'n boddhäodd fwyaf o ddim yn yr olygfa o'r dyffryn dedwydd hwn, yn yspaid holl amser ein holrheiniad yn y Lloer, oedd hollol absenoldeb pob math o fwystfilod cig-reibus neu ysglyfaethus. Ymddangosai bod heddwch cyffredinol, a llawenydd yn daenedig dros y wlad hyfryd hon. Yr oedd pob gradd o greaduriaid byw yn ymddangos mewn caredigrwydd at eu gilydd, pob un yn mwynhau y sefyllfaoedd mwyaf addas i'w naturiaeth, heb ddim i beri iddynt aflonyddwch nac ofni perygl. Ni orphwys ein golygon byth mwyach ar y belen ddedwydd, yr hon sy'n goleuo yr ymdeithydd blinedig ar ei ffordd, ac yn arianu dros fantell dywyll y nos gyda'i dysgleirdeb tirion, heb feddwl am y trysor o lawenydd a thangnefedd a gynwys yn ei mynwes;—ei phrydferth olygfeydd, gwychder ac arddurniant ei llwyni tawel, ei ffrydiau hyfryd, ei dyffrynoedd gwyrddion, ei themlau ardderchog, ei mynyddoedd o dân, a'i thrigolion dedwydd!
Treuliwyd y gweddill o'r nos ryfedd hon mewn ymchwiliadau celfyddol o'r trysorau anifeilaidd, llysieuaidd, a mwnaidd Dyffryn y Trioedd; a pharotoai y cwmpeini gydag awydd dau-ddyblig am olrheiniadau pellach y nes ganlynol Ond yn anffodus attaliwyd hyn, trwy ddam-