Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes y Lleuad.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HANES Y
LLEUAD.

AETH Syr John Herschel drosodd i'r Cape of Good Hope tua diwedd y flwyddyn 1834, fel yr oedd y lle hwnw yn fwyaf cyfleus i syllu a gwneyd sylwadau ar y Lleuad. Yr offerynau a gymerodd efe gydag ef oeddynt wedi eu gwneud i'r graddau helaethaf a pherffeithiaf, a chynnorthwywyd ef a chymaint o arian ag oedd yn angenrheidiol i'r pwrpas. Gellir sylwi bod ei wydr-ddrych yn pwyso yn agos i saith dunell, a bod ei rym i fwyhau yn 42,000 o weithiau. Pob peth arall oeddynt mewn cyfartalwch. Ar y 10fed o Ionawr 1835, y dechreuodd ar ei amcan. Y peth cyntaf a gyfarfyddodd â'i sylw oedd pentwr silffog o graig basalt gwineu-wyrdd, yn orchuddedig gan flodeu coch tywyll, megys rhosynau poppy. Yn mlaen oddiyno y dilynai llethrau gwyrddleision, fforestau o goed lemon, dyfroedd tònog, ogofau tywyllion, golygfeydd hyfrydławn, llynau helaeth, a mynyddoedd tanllyd berwedig, &c. Ac o'r diwedd cafwyd golygfa o anifeiliaid, fel y canlyn.

Wrth draed y rhes mynyddau hyn yr oedd megys terfyngylch o goedydd yn amgylchynu yr holl ddyffryn, yr hwn oedd o gylch 18 neu 20 milltir o led, yn y fan letaf, ac oddeutu 30 o hyd. Man lanerchau o goed o bob math a ellid ddychymygu, oeddynt yn wasgaredig o amgylch yr holl olygfa ardderchog hon. Ac yma boddlonwyd ein dyfal ddysgwyliad â rhywiau o greaduriaid byw. Dan gysgod y coedydd, ar yr ochr dde-ddwyreiniol gwelsom luoedd o greaduriaid gwineuon, pedwar-troediog, yn eu holl ymddanghosiad allanol yn debyg i'r bison, ond yn llai eu maintioli nag un o'r rhywiau hyny ar ein daear ni. Yr oedd ganddynt, pa fodd bynag, un gwahaniaeth nodedig, yr hyn, fel y deallasom wedi hyny, sydd yn gyffredin yn perthyn i'r holl greaduriaid lloerawl pedwar-troediawg, sef rhyw sylwedd cigog hynod yn crogi tros en llygaid, yn croesi ar draws y talcen, ac yn ymuno â'u clustiau. Yr oeddym yn gallu canfod y gorchudd blewog hwn yn bur eglur; yr hwn sydd a'i ddull yn debyg i'r capiau adnabyddus i'r boneddigesan wrth yr enw Cap Mary, brenhines Scotland, ac yn cael ei godi a'i ostwng ganddynt trwy rym y clustiau. Tarawodd yn union i feddwl craff y Doctor Herschel bod hwn wedi ei ddarparu gan ragluniaeth i amddiffyn golwg yr anifail rhag yr eithafoedd o oleuni a thywyllwch, i'r rhai y mae trigolion ein hochr ni o'r Lloer yn ddarostyngedig iddo.